Rhagor o wybodaeth am sut mae ein hymchwil i’r celfyddydau ac iechyd yn gysylltiedig â pholisi yng Nghymru.
Gwella capasiti i arloesi ym maes y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru: Gwerthuso proses ac effaith rhaglenni Egin a Borthi HARP
Rydym yn gwybod y gall y celfyddydau gael effaith fuddiol iawn ar ein hiechyd a’n lles. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall cynllunio a chynnal gweithgareddau creadigol beri pryder yn ystod pandemig.
Wrth geisio darganfod sut i fynd i’r afael â’r heriau hyn, gwnaethom nodi cyfleoedd yma yng Nghymru. Ymhlith ein dulliau ar gyfer arloeswyr ym maes y celfyddydau ac iechyd roedd cyllid grant cyfunol, gwaith rhwydweithio, hyfforddiant ac ymchwil.
Roedd prosiect HARP yn cynnwys llawer o dimau gwahanol, a defnyddiodd pob un ohonynt ddulliau gwahanol iawn. Roedd gwahanol garfanau’n ymgysylltu â gwahanol gelfyddydau.
Cafodd ein data ei gasglu drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau:
- cyfweliadau, holiaduron,
- grwpiau ffocws,
- adroddiadau gweinyddol,
- negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd pum grŵp o gyfranogwyr dan sylw:
- tîm cyflwyno HARP,
- gweithwyr proffesiynol yn nhimau HARP,
- cyfranogwyr,
- cynghorwyr cynnwys y cyhoedd,
- rhanddeiliaid allanol.
Defnyddiwyd y dull dadansoddi fframwaith wrth ddadansoddi’r data, sy’n canolbwyntio ar gwestiynau ymchwil penodol. Dyma sy’n cynnig y strwythur dadansoddi sydd ei angen i ddeall proses ac effaith arloesedd ar sail y celfyddydau yn rhan o systemau iechyd a gofal.
Nod y gyfres hon o friffiau ymchwil yw cysylltu ymchwil â pholisi:
- rhyngwyneb y celfyddydau ac iechyd,
- rhagnodi cymdeithasol,
- arloesedd,
- mesur effaith,
- cyd-gynhyrchu a chydraddoldeb,
- amrywiaeth a chynhwysiant.
Y maes polisi mwyaf perthnasol i’r ymchwil hon yw rhagnodi cymdeithasol, ac ymgysylltu diwylliannol yn fwy cyffredinol.
Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn:
- y Rhaglen Lywodraethu,
- strategaeth Arloesi Cymru,
- maniffesto Cymru Wrth-hiliol
- Mae hefyd yn cyd-fynd â:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015,
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Mae’r ddau ohonynt yn seiliedig ar fodelau sy’n cydnabod effaith agweddau cymdeithasol ar iechyd a lles.