Astudiaeth Achos: Bwyd a Hwyl – Atal newyn adeg gwyliau ymhlith plant ysgol

Cychwynnwyd y prosiect gan staff Bwyd Caerdydd, Chwaraeon Caerdydd, adran arlwyo Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Y syniad:

Mae ‘newyn gwyliau’ yn hen broblem ymhlith plant sy’n byw mewn tlodi. Heb fynediad at brydau ysgol am ddim yn ystod y tymor, mae’r plant hyn yn aml yn llwglyd. Mae diffyg cynlluniau chwarae am ddim yn gwaethygu’r broblem hon, gan greu ynysu cymdeithasol a diffyg ymarfer corff. Mae ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd yn ystod y tymor yn cael eu tanseilio gan ddiffyg darpariaeth yn ystod gwyliau ysgol.

Mae clybiau Bwyd a Hwyl yn cynnig gweithgareddau corfforol a bwyd maethlon i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru yn ystod gwyliau ysgol. Maen nhw’n defnyddio cyfleusterau a staff sydd eisoes yn yr ysgolion, yn cynnwys ystod eang o bartneriaid cyhoeddus a thrydydd sector ac yn annog teuluoedd i fod yn bresennol.

Beth ddigwyddodd?

Roedd Bwyd Caerdydd wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â newyn cyn bod angen i bobl ddefnyddio banciau bwyd. Wedi’i ysbrydoli gan gynhadledd newyn gwyliau yn Sheffield yn 2015, a rhaglenni sydd wedi hen ennill eu plwyf yn yr Unol Daleithiau, penderfynwyd mynd i’r afael â’r broblem hon.

Yr haf hwnnw, cyflwynwyd sesiynau bore mewn pum ysgol yng Nghaerdydd. Fe wnaethant yn siŵr eu bod yn gwahodd gwleidyddion lleol er mwyn cael eu cefnogaeth, a chomisiynwyd gwerthusiad llawn gan Brifysgol Northumbria. Aethpwyd â’r gwerthusiad at uwch weision sifil ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yng Nghymru. Roedd yn hoffi’r syniad, ond fe’u heriwyd i ddangos y gallai weithio unrhyw le yng Nghymru.

Gwnaethpwyd cais am gyllid gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’w dreialu mewn pum awdurdod lleol. Yn 2016 fe’i cyflwynwyd mewn 19 o ysgolion a chwblhawyd gwerthusiad Prifysgol Caerdydd ar raddfa fwy. Dilynwyd hynny gydag ymrwymiad ym maniffesto’r blaid Lafur, ymrwymiad i gyflwyno’r cynllun yn rhaglen waith y llywodraeth ar gyfer 2017 ac yna £1.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru.

Daeth y gwerthusiad annibynnol o hyd i effeithiau positif ar lefelau gweithgaredd corfforol, deiet, rhyngweithio cymdeithasol ac agweddau tuag at yr ysgol. Mae’r prosiect wedi derbyn dros chwe gwobr ym maes iechyd y cyhoedd, arlwyo a’r GIG.

Cipolwg

  • Gall dod â gwahanol sefydliadau â gwahanol safbwyntiau at ei gilydd gyfoethogi syniad a sbarduno cefnogaeth o wahanol feysydd.
  • Mae’r cyfuniad o dystiolaeth a chefnogaeth wleidyddol yn ddelfrydol. Yn aml iawn, dyw un heb y llall ddim yn ddigon er mwyn rhoi cychwyn ar syniad.
  • Gall ennill gwobrau, mynd i gynadleddau a rhoi cyflwyniadau i gyd gael effaith ar godi eich proffil ac ehangu eich rhwydwaith.