Fe wnaethom gynhyrchu canllaw ar redeg rhaglen Arloesi i Arbed, gan eich tywys drwy’r tri cham o gefnogi prosiectau i wella gwasanaethau a sicrhau arbedion ariannol.
Llawlyfr Arloesi er mwyn Arbed
Yn 2017, lansiodd Y Lab Arloesi i Arbed, rhaglen dri cham a anelwyd at ariannu a chefnogi arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Cynhaliwyd gweithdai, sgyrsiau a sesiynau briffio, gan gyrraedd 131 o arloeswyr mewn gwasanaethau cyhoeddus o bob cwr o Gymru, i siarad â nhw am eu syniadau. Ar ôl cefnogi wyth prosiect drwy ymchwil a datblygu, cawsom bedwar cais am fenthyciadau di-log diwarant gan brosiectau oedd wedi dod o hyd i syniad a oedd yn gwella eu gwasanaeth ac yn cynhyrchu arbedion ariannol.
Ry’n ni eisiau rhannu’r hyn a ddysgwyd.
Ond beth os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar raglen debyg? Gobeithiwn y bydd y Llawlyfr Arloesi i Arbed yn ddefnyddiol i unrhyw un a allai fod yn awyddus i ddatblygu rhaglen i ysgogi arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus a darganfod sut gellir defnyddio cyllid benthyciadau.