Cefnogi lles i bobl hŷn yn Solfach: taliadau uniongyrchol a gofal yn y cartref

Solva Case used Innovate to Save funding to explore ways of improving choice for older people who need extra help at home. 

Perchnogion grant: Solva Care

Grant: £15,000

Cam a gyrhaeddwyd: Ymchwil a datblygu

Cyflwyniad

Mae Solva Care yn elusen ym mhentref Solfach, Sir Benfro, a’i nod yw cefnogi pobl hŷn a’u gofalwyr yn y gymuned leol.

Defnyddiodd Solva Care gymorth ymchwil a datblygu y Lab i archwilio’r posibilrwydd o greu cwmni gofal cydweithredol a ariennir gan daliadau uniongyrchol, gyda’r elusen yn cynnig rhai gwasanaethau gofal amhersonol.

Y syniad

Yng Nghymru, gellir darparu pecynnau gofal uniongyrchol a’u cefnogi’n ariannol gan yr awdurdod lleol. Unwaith y mae’r broses Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi’i dilyn a bod anghenion o ran gofal wedi’u hasesu a chytunwyd arnynt, mae gan bobl hŷn yng Nghymru dri opsiwn o ran talu am y gofal yn y cartref sydd ei angen arnynt: gallant dalu amdano ar eu pennau eu hunain, gallant ofyn i’r awdurdod lleol ei drefnu, neu gallant dderbyn taliad uniongyrchol. Diben taliadau uniongyrchol yw sicrhau bod pobl hŷn yn gyfrifol am eu gofal eu hunain, gan eu galluogi i gyflogi gofalwyr eu hunain i ddiwallu eu hanghenion penodol a newidiol.

Er bod poblogaeth sy’n heneiddio a disgwyliad oes hirach i bobl anabl yn golygu bod galw uwch am wasanaethau gofal, mae’r gwariant ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion wedi disgyn yn sylweddol. Nid yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn digon o gyflog nac amser i wneud eu gwaith a cheir lefelau staffio isel. Mae hefyd nifer o swyddi gwag ac mae lefelau trosiant uchel staff yn arferol. Mae cyflog isel a diffyg strwythur gyrfaol da yn cyfrannu at greu darlun llwm o ofalu fel proffesiwn.

Mae’r problemau strwythurol hyn yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau’r rhai hynny y mae angen gofal arnynt, a cheir achosion o ofal anghyson o safon isel yn rheolaidd. Gyda’r cefndir hwn, mae’r syniad y dylid darparu gofal cymdeithasol mewn modd cydweithredol yn hytrach nag yn gyhoeddus neu’n breifat yn dod yn fwyfwy poblogaidd ledled y DU.

Edrychodd y prosiect ar welliannau posibl ac arbedion ariannol yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol i bobl hŷn yn Solfach, Sir Benfro.

Beth ddigwyddodd

Yn ôl ymchwil Solva Care, mae’r gyfradd bresennol o daliadau uniongyrchol yn Sir Benfro (£12 yr awr) yn rhy isel i ofalwyr allu newid i weithio i gwmni gofal cydweithredol.

Gwnaethant hefyd ganfod bod rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n llywodraethu’r ddarpariaeth gofal yn atal unigolion neu gwmnïau gofal cydweithredol rhag cael digon o gleientiaid i wneud cwmni cydweithredol yn ddichonol. Er enghraifft, byddai tri gofalwr mewn cwmni cydweithredol yn gyfyngedig i gefnogi 12 o bobl. Pe bai anghenion yr unigolion hynny, ar gyfartaledd, yn dri ymweliad 15 munud o hyd bob diwrnod, byddai hyn yn golygu nad oedd digon o oriau i’r gofalwyr hynny a oedd yn dymuno gweithio swyddi amser llawn.

Canfu’r ymchwil a wnaed gan Solva Care fod lefel y wybodaeth am daliadau uniongyrchol a’r dewisiadau y maen nhw’n eu cynnig yn isel i ddarpar ddefnyddwyr ac i weithwyr cymdeithasol. Gwelwyd hefyd o’r gwaith fod problemau o ran capasiti yn y diwydiant gofal yn gyffredinol, gyda diffyg gofalwyr ar gael i ddarparu’r gofal sydd ei angen i breswylwyr Sir Benfro. Yn 2019, roedd rhestr aros o oddeutu 70 pecyn gofal heb eu darparu.

Nid yw’r awdurdod lleol, Cyngor Sir Benfro, yn talu am y gwasanaethau presennol a roddir am ddim i gymunedau ar hyn bryd, megis gofal nad yw yn y cartref. Mae’n rhaid i sefydliadau megis Solva Care ddod o hyd i’w ffordd eu hunain o ariannu’r gwasanaethau hanfodol hyn.

Mae unigolion sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol yn dod yn gyflogwyr, a dysgodd Solva Care drwy’r ymgynghoriad bod llawer yn amharod i ysgwyddo cyfrifoldeb o’r fath. 

Yn olaf, daeth Solva Care i’r casgliad bod amodau’r fframwaith presennol ar gyfer darparwyr gofal yn atal cwmnïau gofal cydweithredol rhag ymuno, sydd felly’n cyfyngu ar eu cyfran o’r farchnad i gleientiaid sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol yn unig.

O ganlyniad i’r canfyddiadau hyn, ystyriodd Solva Care ffyrdd eraill o ddarparu darpariaeth gofal iechyd gwell yn ystod eu gwaith ymchwil a datblygu. Y ffordd fwyaf perthnasol ac addawol oedd model gofal ‘Boleskine’. Enwir y model hwn ar ôl cymuned Boleskine yn yr Alban, nad oedd â darpariaeth gofal yn y cartref gweithredol tan yn ddiweddar. Mae Boleskine Community Care (BCC) yn elusen sy’n cynnig gwasanaeth cymorth gwirfoddol ac yn chwilio am ddarpar ofalwyr sydd wedyn yn cael eu hyfforddi a’u cyflogi gan ofalwyr Highland Home, sef menter gymdeithasol ar ffurf cwmni gofal yn y cartref y mae’r cyflogeion yn berchen arno.

Oherwydd y gwahaniaethau rheoleiddiol rhwng yr Alban a Chymru, nid yw’n bosibl copïo model Boleskine yn uniongyrchol yn Solfach. Yn hytrach, mae fersiwn o BCC, ond gyda gofalwyr yn hunangyflogedig drwy gwmni gofal cydweithredol, gyda Chyngor Sir Benfro yn ‘gorff goruchwylio’ yn cael ei archwilio, a defnyddir taliadau uniongyrchol ar gyfer y gofal hwn.  Fodd bynnag, mae Solva Care yn teimlo bod problemau o ran dichonoldeb o hyd gyda’r cynnig hwn.

Gwelwyd hefyd o’r gwaith fod problemau o ran capasiti yn y diwydiant gofal yn gyffredinol, gyda diffyg gofalwyr ar gael i ddarparu’r gofal sydd ei angen i breswylwyr Sir Benfro. Yn 2019, roedd rhestr aros o oddeutu 70 pecyn gofal heb eu darparu.

Mewnwelediad

Canfu Solva nad yw’r model cydweithredol gwreiddiol yn ymarferol ar hyn o bryd ar gyfer y bobl a fyddai angen cymryd rhan.

Daeth y prosiect i ben gyda’r argymhellion canlynol:

1.  Cynyddu cyfradd taliadau uniongyrchol

Mae cyfradd taliadau uniongyrchol yn rhy isel o hyd er mwyn i nifer o ofalwyr allu newid eu trefniadau cyflogaeth presennol. Argymhellir felly ei chynyddu ar gyfer cyfnod prawf o ddwy flynedd i’r lefel a argymhellir gan Gymdeithas Gofal Cartref y Deyrnas Unedig (UKHCA) sef £18.93 yr awr.

2. Addasu’r Fframwaith Darparwyr Gofal

Argymhellir hefyd fod y fframwaith darparwyr gofal yn ystyried addasu i ofynion o ran pwy sy’n gymwys i alluogi cwmnïau gofal cydweithredol i dendro yn y dyfodol.

3. Addasu rheoliadau’r sector

Dylai Cyngor Sir Benfro ac Arolygiaeth Gofal Cymru geisio dod i gytundeb lle gall Cyngor Sir Benfro ddod yn ‘gorff goruchwylio’ i gwmnïau gofal cydweithredol.

4. Gwneud gwasanaethau Solva Care yn gymwys am daliadau uniongyrchol

Dylai Cyngor Sir Benfro roi cynnig ar dalu Solva Care am wasanaethau cymorth neu gymdeithasu a ystyrir yn gymwys gan asesiad o ofal unigolyn. Byddai hyn yn galluogi Solva Care i ddod yn rhan o’r cwmni cydweithredol a bod yn rhan allweddol wrth ei greu. Cam pellach fyddai galluogi cwmnïau gofal cydweithredol sy’n gweithredu yn Solva i is-gontractio’r gwasanaethau hyn i Solva Care, gan felly leddfu rhai o’u problemau o ran capasiti a’i gwneud hi’n haws i ddarparu pecynnau gofal.

Canlyniad arfaethedig y newidiadau hyn fyddai creu cwmni gofal cydweithredol ar Benrhyn Tŷ Ddewi, sy’n cydnabod bod y sylfaen o gleientiaid yn Solfach yn rhy fach ar hyn o bryd. O gadarnhau bod newidiadau rheoleiddiol yn bosibl, rhagwelir y byddai’n cymryd blwyddyn i sefydlu cwmni gofal cydweithredol sy’n gweithredu fel y cynigiwyd.

Mae modd darllen adroddiad ymchwil a datblygu Solva Care yn llawn yma: Solva Care Direct Payment Report

Arbedion a ragwelir

Ni nododd y gwaith ymchwil hwn unrhyw arbedion ariannol. Yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu, mae Solva Care mewn sefyllfa well i gynorthwyo unigolion sydd â diddordeb mewn trefnu taliadau uniongyrchol, ac i gefnogi sefydliadau sy’n ceisio sefydlu cwmnïau gofal cydweithredol yn Sir Benfro. Mae rolau o’r fath yn llenwi bylchau mewn gwasanaethau nad ydynt yn cael eu hariannu ar hyn o bryd. Yn hytrach nag arbed arian, mae gwaith Solva Care yn cyflwyno achos cryf dros fuddsoddiad uwch mewn gwasanaethau cyhoeddus. 

Mae cynyddu’r defnydd o daliadau uniongyrchol yn parhau’n ganlyniad dymunol i Solfach. Os cyflawnir hyn, byddai arbedion i’r awdurdod lleol yn y meysydd canlynol:

  • Dibynnu’n llai ar gartrefi gofal i ddarparu gofal wrth gefn mewn rhai achosion lle na ellir dyrannu pecynnau gofal i gwmnïau gofal.
  • Costau staffio is o ystyried bod llai o staff yn cael eu cyflogi i ymdrin â’r preswylwyr hynny sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol na phan drefnir gofal gan yr awdurdod lleol.
  • Costau staffio is i Gyngor Sir Benfro oherwydd mai’r rhan fwyaf dwys o ran amser yn y broses yw trafod telerau pecynnau gofal. Byddai cynyddu’r defnydd o daliadau uniongyrchol yn lleddfu’r pwysau hyn.

Beth sydd nesaf?

Mae adroddiad ymchwil a datblygu Solva Care yn argymell bod Cyngor Sir Benfro’n ystyried gwneud newidiadau – am gyfnod prawf o ddwy flynedd – ar Benrhyn Tŷ Ddewi, a fyddai’n mynd i’r afael â nifer o’r problemau a nodwyd yn eu hadroddiad ymchwil a datblygu, gan gynyddu’r cyfleoedd i sefydlu cwmni gofal cydweithredol dichonol er mwyn darparu gofal.

Serch hynny, byddai hyn yn dibynnu ar y canlynol:

  • bod Cyngor Sir Benfro’n dod i gytundeb gydag Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn galluogi Cyngor Sir Benfro i fod yn ‘gorff goruchwylio’;
  • cynnydd yn y gyfradd taliadau uniongyrchol i’r lefel a argymhellir gan UKHCA o £18.93 yr awr;
  • addasu’r gofynion o ran pwy sy’n gymwys a strwythur tendro’r fframwaith darparwyr gofal;
  • gwneud rhai o wasanaethau Solva Care yn gymwys am daliadau uniongyrchol.

Header Image: Photo by CDC on Unsplash