Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Perchnogion grant: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Grant: £30,000

Cam a gyrhaeddwyd: Gweithredu

Cyflwyniad

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw’r mwyaf yng Nghymru, ac mae’n cynnwys chwe sir mewn tirwedd amrywiol. Mae ardaloedd gwledig mawr, gweithfeydd cemegol, mannau diwydiannol, dinasoedd, yr arfordir a mynyddoedd wedi’u cynnwys yn yr ardal wasanaeth hon.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWFRS) yn cyflogi 1400 aelod o staff mewn 58 gorsaf ar draws ardal fawr o Gymru. Mae’r gwasanaeth yn disgwyl mwy o bwysau ariannol arno yn y tymor canolig a’r hirdymor, ac mae angen iddo wneud arbedion yn y gwasanaeth wrth gynnal ei safonau cyflawni uchel.

Y syniad

Rhoddir Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ei hun yn ogystal â set sbâr i bob aelod newydd wrth ymuno â’r gwasanaeth. Os yw’r ddwy set yn cael eu golchi neu eu hatgyweirio, yna gallant deithio i un o storfeydd y gwasanaeth a benthyg set o’r cyflenwad benthyg. Mae’r trefniant hwn wedi bod ar waith am fwy na 50 o flynyddoedd, ac ar y cyfan, mae wedi sicrhau bod diffoddwyr tân yn cael mynediad at y cyfarpar diogelu personol cywir ar bob adeg.

Fodd bynnag, mae boddhad staff â’r system hon yn isel. Mae diffoddwyr tân yn rhwystredig o ran faint o amser ac ymdrech a roddir i gadw cofnod o’u PPE.

– Mae eitemau’n mynd ar goll ac mae’n rhaid dod o hyd iddynt yn yr ardal gwasanaeth fawr

– Gall gymryd hyd at 6 wythnos i ddychwelyd set o gyfarpar i un diffoddwr tân

– Amcangyfrifir eu bod yn teithio i fenthyg cyfarpar o leiaf unwaith y flwyddyn, ac ni roddir gwarant y bydd y cit cywir yno wrth iddynt gyrraedd

– Weithiau mae’n rhaid i ddiffoddwyr tân deithio gyda chit brwnt yn eu ceir eu hunain.

Oherwydd bod MAWWFRS yn awyddus i gael dealltwriaeth well o ddefnydd ac effeithiolrwydd ei asedau gweithredol, cafodd y gwasanaeth ei ysbrydoli gan atebion a ddefnyddir yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Copenhagen a Brigâd Dân Llundain. Yma, caiff cit ei ddyrannu ar sail gyfunol.

Gan ddefnyddio ei gyllid ymchwil a datblygu, Arloesi er mwyn Arbed, aeth MAWWFRS ati i geisio sefydlu:

  1. Y trefniadau casglu gorau ar gyfer yr ardal gwasanaeth gyfan
  2. Faint o git oedd ei angen i sicrhau gwasanaeth diogel a dibynadwy
  3. Datblygu’r dechnoleg, gan ddefnyddio tagiau RFID, loceri a dulliau rheoli data, i gofnodi a rheoli’r system newydd o gyflwyno PPE ar sail gyfunol yn ddiogel.

Oherwydd bod MAWWFRS yn awyddus i gael dealltwriaeth well o ddefnydd ac effeithiolrwydd ei asedau gweithredol, cafodd y gwasanaeth ei ysbrydoli gan atebion a ddefnyddir yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Copenhagen a Brigâd Dân Llundain.

Beth ddigwyddodd

Defnyddiwyd modelau data manwl i ddeall yr opsiynau gorau ar gyfer casglu PPE a faint o PPE oedd ei angen i gynnal gwasanaeth diogel a dibynadwy.  Gweithiodd MAWWFRS yn agos gyda Dr Geraint Palmer o Brifysgol Caerdydd, a argymhellodd, gan ddefnyddio data MAWWFRS mewnol, y dylid rhoi gorsafoedd tân mewn i grwpiau o bedwar clwstwr yn hytrach na bod cyflenwadau’n cael eu casglu dros yr ardal gwasanaeth gyfan. Byddai hyn yn lleihau’r amser teithio pe bai’n rhaid i ddiffoddwyr tân ddefnyddio cyflenwad o orsaf arall.

O dan y system newydd, byddai gan bob aelod o staff gweithredol PPE strwythurol iddyn nhw yn unig bob amser, ond ni fyddai’n cael ei roi iddyn nhw’n bersonol. Ym mhob lleoliad, byddai cyflenwad cyfunol yn cael ei gadw mewn uned storio bwrpasol a fyddai ar gael i’r holl bersonél yn yr orsaf honno ac i’r holl bersonél yn y gwasanaeth hefyd. Byddai tagiau RFID ar y PPE a sganwyr arbenigol yn yr unedau storio yn galluogi’r gwasanaeth i wyneb yn y fan a’r lle faint o git sydd ym mhob lleoliad, ac addasu lefelau’r cyflenwad yn ôl y gofyn.

Cytunodd Zebra Technologies i gefnogi MAWWFRS, gan gyflenwi’r sganwyr a phrofi eu dibynadwyedd ar y cyd â’r gwaith o storio’r PPE a gafodd ei gaffael a’i brofi hefyd fel rhan o’r gwaith.

Mewnwelediad

  • Hyd yn hyn, nid oes Gwasanaeth Tân ac Achub arall yn y DU sy’n cynnal rhaglen mor gymhleth ac eang â hon yn ôl pob tebyg – er bod cyfarpar yn cael ei gronni mewn gwasanaethau tân eraill, nid oes gallu cyfatebol i olrhain asedau.
  • Trwy ddadansoddi nifer y clystyrau sydd eu hangen, gwelwyd bod angen ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng lleihau pellteroedd o fewn y clwstwr neu’r tebygolrwydd o adael yr orsaf, a lleihau’r nifer ofynnol o PPE sbâr.
  • Ar gyfer MAWWFRS, barnwyd mai 4 clwstwr fyddai orau, ac mae cyfrifiadau’n dangos na fyddai gadael yr orsaf i gael PPE yn broblem. Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn digwydd unwaith bob 178 wythnos (3.5 mlynedd) o’i gymharu â’r system gyfredol lle mae angen i staff adael eu gorsaf unwaith bob 31 wythnos.

Arbedion a ragwelir


Dros hyd oes 10 mlynedd asedau’r PPE, rhagwelir y byddai’r prosiect yn arbed £645,866 mewn refeniw.

Beth sydd nesaf?

Mae MAWWFRS wedi gwneud cais am fenthyciad gwerth £296,896.00 i roi’r cynllun ar waith. Disgwylir ad-dalu’r benthyciad dros 5 mlynedd. Byddant yn cynnal gwerthusiad trylwyr o roi’r cynllun ar waith er mwyn deall i ba raddau y maen nhw wedi gwella effeithlonrwydd a boddhad defnyddwyr yn y gwasanaeth, wrth gynnal lefelau diogelwch.