Integreiddio Trafnidiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r thri sefydliad lleol sydd yn ymwneud â’r project hwn yn darparu trafnidiaeth am ddim i gleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, gan gynnwys trafnidiaeth Anghenion Addysgol Arbennig, ar draws ardal eang yng Ngogledd Cymru.

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd, Cyngor Wrecsam

Grant a Ddyfarnwyd: £15,000

Cyfnod Arloesi er mwyn Arbed wedi’i Gwblhau: Ymchwil a Datblygu

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r thri sefydliad lleol sydd yn ymwneud â’r project hwn yn darparu trafnidiaeth am ddim i gleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, gan gynnwys trafnidiaeth Anghenion Addysgol Arbennig, ar draws ardal eang yng Ngogledd Cymru. Gall y sawl sydd yn teithio fod yn mynd i apwyntiadau ysbyty, fod yn trosglwyddo rhwng cyfleusterau iechyd neu yn y broses o gael eu rhyddhau. Mae anghenion teithwyr yn amrywio’n fawr; gall fod dim angen unrhyw ofal na chymorth ar rai, tra fod angen am ymyraethau clinigol ar rai eraill wrth teithio, ac i rai eraill mae angen cerbydau hygyrch er mwyn teithio.

Y Syniad

Mewn nifer o ardaloedd y DG, caiff trafnidiaeth i gleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys  ei ddarparu drwy gyfuniad o ofal cymdeithasol yr Awdurdod Lleol, y GIG, a gwasanaethau addysgol a thrafnidiaeth wirfoddol. Bydd y gwasanaethau hyn yn rhedeg yn gyfochrog yn aml, heb unrhyw gydlynu na chyfathrebu rhyngddyn nhw. Yng ngogledd Cymru, gwasanaethir pobl gan un bwrdd iechyd ac mae ei gwasanaethau yn ymestyn ar draws chwe awdurdod lleol. Gwariwyd dros £50m yn yr ardal ar drafnidiaeth nad yw’n achos brys yn 2012. 

Fe wnaeth y Gwasanaeth Ambiwlans adnabod cyfle posib yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio data gan ddarparwyr trafnidiaeth i alluogi integreiddiad gwasanaethau trafnidiaeth nad yw’n achos brys, gan arbed arian o bosib a gwella’r profiad i’r sawl sydd yn teithio. 

Gweithiodd y Gwasanaeth Ambiwlans gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Chynghorau Wrecsam a Gwynedd i gasglu ac agor y data oedd yn gysylltiedig â theithiau nad oeddynt yn rhai brys a dadansoddi p’un a allai cydlyniad a chyfosodiad y gwasanaethau hyn greu effeithlonrwydd a lleihau’r nifer o deithiau a gymerwyd a’u hyd.

Dywedodd aelodau’r tîm eu bod wedi “gwylio cerbydau oedd yn cludo defnyddwyr i ofal iechyd a chymdeithasol yn dilyn ei gilydd ar yr un heolydd ar yr un pryd a bod nifer o seddi gwag mewn nifer ohonyn nhw.”

Beth Ddigwyddodd

Fe gasglodd y Gwasanaeth Ambiwlans ddata gan wahanol ddarparwyr trafnidiaeth yn Wrecsam a Gwynedd. Eu diddordeb pennaf oedd cymharu’r defnydd trefol gyda’r gwledig gan dybio y byddai arbedion a mesurau effeithlonrwydd yn haws i’w gweld. Dywedodd aelodau’r tîm eu bod wedi “gwylio cerbydau oedd yn cludo defnyddwyr i ofal iechyd a chymdeithasol yn dilyn ei gilydd ar yr un heolydd ar yr un pryd a bod nifer o seddi gwag mewn nifer ohonyn nhw.” 

Fe wnaeth y tîm gynnydd da wrth gael mynediad at a rhannu a dadansoddi’r data oed gan y pedwar sefydliad, gan weithio’n agos gydag ODI Caerdydd fel partner data yn y project. Dangosodd y data fod yna feysydd newydd lle’r oedd llwybrau’r ddarpariaeth yn croesi a lle y gallant ganolbwyntio ar unrhyw ymyrraethau newydd.

Fodd bynnag, er gwaetha’r ymrwymiad tuag at ddefnyddio’r data yma i redeg cynllun peilot, fe gawson nhw eu goresgyn gan rwystrau trefniadol wnaeth ohirio eu project, a olygai nad oedden nhw’n gallu datblygu a phrofi cynllun peilot a allai fod wedi datrys yr her hon o bosib.

Mewnwelediadau

● Peidiwch byth â diystyru’r gallu a chynhwysedd sydd ei angen i arloesi o fewn mudiadau sector cyhoeddus; mae pwysau trefniadol yn bwerus dros ben, ac wrth geisio rhywbeth newydd, mae’n bwysig cael digon o amser a gofod diogel i allu ei wneud e. Os na fydd hwn yn digwydd, gall gormod o rwystrau rwystro cynnydd.

● Gallwch ddysgu o ‘fethiant’; gall deall beth aeth o’i le mewn project olygu bydd projectau yn y dyfodol yn elwa o fewnwelediadau a gafwyd yn ystod y broses ac y byddwch o bosib yn gallu osgoi’r un materion.