Seinyddion Deallus ar gyfer Byw â Chymorth

Datblygwyd prosiect gan Innovate Trust i brofi sut gall seinyddion deallus a chyn-orthwyr digidol deallus (fel Amazon Alexa a Google Home) ddiwallu anghenion oedolion a chanddynt anableddau dysgu.

Innovate Trust

Grant a Ddyfarnwyd: £15,000

Cyfnod a gwblhawyd: Ymchwil a Datblygu

Mae Innovate Trust wedi bod yn cefnogi pobl a chanddynt anableddau corfforol a dysgu ers dros 50 mlynedd. Fe wnaethon nhw ddatblygu’r tŷ byw â chymorth cyntaf yn y DG yn yr 1960au. Erbyn hyn, mae’r sefydliad yn cefnogi 275 o bobl ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf.

Mae eu projectau yn amrywio o wasanaethau byw â chymorth i roi hyfforddiant a chyfleoedd datblygu. Yn fwy diweddar, Mae’r Innovate Trust wedi bod yn cynnal ymchwiliad i weld sut gall y defnydd o dechnoleg wella lles ac annibyniaeth oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Y Syniad 

Datblygwyd prosiect gan Innovate Trust i brofi sut gall seinyddion deallus a chyn-orthwyr digidol deallus (fel Amazon Alexa a Google Home) ddiwallu anghenion oedolion a chanddynt anableddau dysgu. Datblygwyd y project mewn ymateb i’r bobl sydd yn cael eu cefnogi gan yr elusen, ynghyd â dyhead i gynyddu annibyniaeth yr unigolion hynny a’r dynesiad at newid yn y trefniadau taliadau cysgu preswyl ar gyfer tai cymorth â byw, allai gynyddu’r costau cysylltiedig â gofal 24 awr yn fawr iawn. 

Fe wnaeth Innovate Trust brofi p’un a fyddai’r defnydd o’r dyfeisiadau hyn yn gostwng yr amser a dreuliwyd gan staff ar dasgau y gellid fod wedi eu perfformio’n uniongyrchol gan yr unigolyn dan sylw, fel diffodd neu gynnau’r goleuadau, dihuno gyda larwm neu gael eich atgoffa i gymryd meddyginiaethau. Yn fwy na hynny, pe bai gostyngiad mewn amser staff yn cael ei gyflawni, gallai arwain at ostyngiad cyffredinol yng nghostau rhedeg tai byw â chymorth. 

Roedd Innovate Trust hefyd yn awyddus i werthuso pa effaith a gafodd y dechnoleg ar alluogi unigolion i fod yn fwy annibynnol a ymarfer mwy o reolaeth dros eu bywydau a chynnydd yn eu lles.

Beth Ddigwyddodd

Gosodwyd dyfeisiau Amazon Alexa a chaledwedd cartref clyfar mewn dau leoliad byw â chymorth yn Rhondda Cynon Taf gan Innovate Trust. Fe wnaethon nhw ddod i gyswllt â’r tenantiaid er mwyn gweld sut y gellid eu defnyddio. Gosodwyd dyfeisiau mewn ystafelloedd gwely a mannau cymunedol ac fe gafodd tenantiaid a gweithwyr gofal hyfforddiant.

Fe wnaethon nhw ddarganfod bod nifer o dasgau yn cymryd llai o amser ar ôl ychwanegu’r dyfeisiau.  Er enghraifft, yn flaenorol, roedd angen hyd at un awr o gefnogaeth ar un unigolyn bob bore er mwyn iddo gael ei ddihuno. Gan ddefnyddio ei beiriant Alexa, llwyddodd i osod ei larwm ei hun a defnyddio’r goleadau a alluogwyd gan dechnoleg i’w helpu i ddihuno a chodi’n annibynnol. O ganlyniad, gellid defnyddio’r amser a fyddai wedi cael ei dreulio ar y dasg yn rywle arall.

Gwelodd y sawl a gymerodd ran yn y project gynnydd yn llesiant ac annibyniaeth fel rhan o’r project ac fe wnaethon nhw ganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio’u dyfeisiadau, fel dweud jôc a chreu profiadau synhwyrus wedi’i bersonoli. 

Yn y cyfnod peilot, amcangyfrifwyd arbedion cost drwy gyfrwng oriau cyswllt. Doedd dim modd profi model union fanwl heb gytundeb gan yr awdurdod lleol, fyddai wedi gofyn am newid yn eu modd o weithredu. Fodd bynnag, mae Innovate Trust yn amcangyfrif fod yna botensial i arbed dros £20,000 y flwyddyn yn y ddau dŷ byw â chymorth lle gafodd y rhaglen beilot ei gynnal. Pe bai’r syniad yn cael ei ddatblygu i alluogi llai o angen am gymorth cysgu preswyl, byddai hyn yn cynyddu’r arbedion posib mewn modd dramatig.

Mewnwelediadau 

● Mae’r ofn o risg wrth ddefnyddio technoleg mewn lleoliadau gofal yn rhwystr sylweddol, yn enwedig heb berthnasau cryfion gydag awdurdodau lleol sydd yn wyliadwrus ynglŷn â newid hen ffyrdd o ofalu am oedolion sydd wedi’u hen brofi. 

● Gall gweithio gydag oedolion gan ddefnyddio ymagwedd o ddylunio ar y cyd arwain at ganlyniadau diddorol ac annisgwyl. Fe wnaeth Innovate Trust ymwneud yn rheolaidd ac yn gryf gyda thenantiaid er mwyn canfod sut oedd y dyfeisiau’n cael eu defnyddio, pa gefnogaeth ychwanegol oedd ei angen ac ar gyfer pwy oedd y dyfeisiadau. 

Beth Sydd Nesaf?

Ers cwblhau cyfnod Ymchwil a Datblygu Arloesi er mwyn Arbed, mae Innovate Trust wedi dod o hyd i fwy na £17,000 mewn grantiau a nawdd o fath arall er mwyn parhau â’u project.

Mae’n nhw wedi dechrau ar bartneriaeth ymchwil newydd gyda’r uned ymchwil Rhagoriaeth Ffactorau Dynol (HuFex) yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd.