9 Mawrth 2021
Roedd y Rhaglen Arloesi i Arbed (I2S), a gynhaliwyd gan Y Lab rhwng 2017-2020, yn arbrawf wrth ddefnyddio cyllid cyfunol i gefnogi prosiectau arloesi yng Nghymru a oedd â’r potensial i: wella gwasanaethau cyhoeddus, a chynhyrchu arbedion ariannol. Fe’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’i rhoi ar waith gan Y Lab, gyda chefnogaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Roedd gwerthuso yn elfen bwysig trwy gydol y rhaglen; helpu tîm y rhaglen i wella’r modd y darperir rhaglenni ac i ddeall a oedd y rhaglen yn llwyddiannus yn ei nod o wella gwasanaethau cyhoeddus a gwneud arbedion ariannol.
Gan fod y rhaglen wedi dod i ben, rydym yn falch o gyhoeddi ein hadroddiad gwerthuso terfynol ar Arloesi er mwyn Arbed yma. Mae’r adroddiad yn cynnig gwersi a ddysgwyd, argymhellion i eraill sy’n cynnal rhaglenni tebyg, ac yn nodi canfyddiadau allweddol am rwystrau a ffactorau sy’n hwyluso arloesi.