Gwobrau Amrywiaeth sy’n Deall Dementia 2021 

7 Mai 2021 

Eleni, lansiodd Cymdeithas Alzheimer Cymru Wobrau Amrywiaeth sy’n Deall Dementia 2021 (Cymru), a chyhoeddwyd yr enillydd yn eu cynhadledd flynyddol, a gynhaliwyd rhwng 17 a 18 Mawrth. 

Nod y wobr Amrywiaeth, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, oedd cydnabod unigolyn a chymuned/grŵp neu sefydliad sydd wedi darparu gwasanaeth/gweithrediad rhagorol sy’n deall dementia i grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol/cymdeithas amrywiol yn ystod y Pandemig Covid-19. Yn benodol, roedden nhw’n edrych ar sut roedd cysylltiadau uniongyrchol gyda’r gymuned wedi’u ceisio a sut y defnyddiwyd unrhyw ddealltwriaeth a gafwyd i addasu eu hymagwedd er budd y gymuned honno. 

Eleni, enillydd y wobr unigol oedd Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil yn Y Lab, Prifysgol Caerdydd. 

Cyn ymuno ag Y Lab, roedd Sofia’n cynnal ymchwil ar brofiadau o ofal dementia yn yr ysbyty mewn prosiect a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. Roedd wedi nodi bod pobl â dementia o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn absennol o weithgareddau ymchwil ac ymgysylltu prifysgolion mewn perthynas â dementia, a chysylltodd ag elusennau a chyllidwyr i wyrdroi’r duedd hon. Datblygodd brosiect Dementia ac Amrywiaeth, sicrhaodd grant o £45,000 gan https://www.hefcw.ac.uk/Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a bu’n gweithio gydag aelodau o Gymdeithas Alzheimer Cymru, Diverse Cymru,Women Connect First,Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain,Pride Cymru, a Nubian Life i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl, y dulliau ymgysylltu maent yn eu ffafrio, a datblygiad offer cyfathrebu priodol gan ddefnyddio’r celfyddydau. 

Yn ystod 2020, ymgysylltodd Sofia â chyfranogwyr o grwpiau lleiafrifol a heb gynrychiolaeth ddigonol mewn perthynas ag ethnigrwydd ac iaith (pobl o dreftadaeth Bengali, Somalïaidd, Groeg neu Affro-caribïaidd a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf), rhywioldeb (pobl sy’n nodi eu bod yn lesbiaidd neu’n hoyw) ac anabledd (pobl sy’n ddefnyddwyr byddar BSL, sydd â cholled clyw neu nam ar eu golwg ac â syndrom Down). Nod y prosiect oedd dwyn unrhyw broblemau ynghylch gwahaniaethu o fewn y garfan fach iawn hon o gleifion a gofalwyr i sylw addysgwyr, darparwyr gofal iechyd, llunwyr polisïau, a’r cyhoedd. Roedd yr ymchwil yn cyfosod yr elfennau tebyg a’r gwahaniaethau ym mhrofiadau cyfranogwyr ar draws y tair ffrwd cydraddoldeb hyn a defnyddiwyd y canfyddiadau i ddatblygu perfformiadau theatrig a oedd yn cyfleu elfennau anodd o ofal dementia mewn ffordd sensitif a pharchus yn ôl i gynulleidfaoedd ehangach. 

 
Roedd angen sylw arbennig i fanylion a sensitifrwydd wrth weithio ym maes cydraddoldeb mewn gofal dementia. Cynigiwyd sawl ffordd wahanol (preifat, cyhoeddus, llafar, ysgrifenedig a chreadigol) i gyfranogwyr rannu eu profiadau byw. Roedd y gofod ymgysylltu hyblyg hwn yn caniatáu i’r cyfranogwyr fod yn gyfrifol am eu naratif (poenus yn aml) a rheoli sut i’w rannu. 

Datblygwyd tri pherfformiad theatrig ar y cyd â’r bobl â phrofiadau byw a gyfrannodd yn weithredol at ddatblygu’r sgript. MaeNext of Kinyn trafod yr ystyriaethau a godwyd gan y gymuned F/fyddar, mae More Time yn trafod yr ystyriaethau a godwyd gan y gymuned BAME a gweithwyr gofal iechyd BAME, ac mae Back in the Closet yn trafod yr ystyriaethau a godwyd gan y gymuned LHDT.   Nod y ffilmiau byr hyn yw gwella darpariaeth gwasanaeth gofal dementia drwy’r celfyddydau fel teclyn cyfathrebu. Mae eu defnydd yn cael ei dreialu mewn addysg gofal dementia mewn llawer o ymddiriedolaethau iechyd gwahanol yn Lloegr a byrddau iechyd yng Nghymru, yn ogystal â phrifysgolion sy’n cyflwyno modiwlau gofal dementia meddygol a nyrsio ar draws y DU.