Llawlyfr Datgarboneiddio i Gymru

4 November 2021

Gan fod y gymuned fyd-eang yn cyfarfod am y pythefnos nesaf yng Nglasgow i drafod newid yn yr hinsawdd yng nghynhadledd COP26, bydd y newyddion yn llawn straeon am gynlluniau, addewidion a chytundebau newydd i fynd i’r afael â’r her enfawr o ddatgarboneiddio.

Mae gwledydd yn gweithio’n annibynnol, a gyda’i gilydd i sefydlu ffyrdd cyraeddadwy o leihau a/neu wrth-osod allyriadau carbon. Mae Cymru’n cymryd rhan weithredol yn yr agenda hwn, sef y wlad gyntaf i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019, a lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cymru Sero Net ar 28 Hydref 2021.

Er bod llawer yn gwerthfawrogi hyn oll fel newyddion i’w groesawu, mae’n hawdd iawn cael eich llethu gan yr ystadegau, y ffigurau a’r targedau, yn enwedig os nad yw rhywun yn cymryd rhan weithredol yn y maes. Gall fod yn anos fyth nodi’r manylion ar gyfer cenedl fach fel Cymru, sy’n aml yn cael ei chynnwys gyda’r DU mewn adroddiadau cyffredinol.

Gyda hyn mewn golwg, lluniwyd Llawlyfr Datgarboneiddio i Gymru fel rhan o’n rhaglen Infuse. Gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, rydym yn cydweithio â Nesta, Cyngor Sir Fynwy, Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a’r deg awdurdod lleol i fynd i’r afael â chwestiynau bywyd go iawn, wedi’u hysgogi gan yr heriau mwyaf sy’n wynebu’r rhanbarth. Ysgrifennwyd y Llawlyfr Datgarboneiddio i helpu swyddogion o’r awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach, i ddeall y dirwedd yn well, a chefnogi datrys problemau arloesol.   

Yn ogystal ag amlinellu nodau’r Cytundeb Paris, mae’n esbonio’r allyriadau sylfaenol ar gyfer y DU a Chymru, yn torri lawr sut mae gwahanol sectorau’n cyfrannu at greu carbon deuocsid, ac yn amlinellu pa feysydd polisi sydd wedi’u datganoli’n llawn neu’n rhannol i Lywodraeth Cymru. Mae’n dwyn ynghyd wybodaeth o adroddiadau swyddogol allweddol, fframweithiau deddfwriaethol a llenyddiaeth wyddonol i greu cyflwyniad hygyrch i bawb.  Mae’r llawlyfr yn cynnig man cychwyn, yn amlinellu pwyntiau allweddol ac yn cyfeirio darllenwyr at adroddiadau allweddol i’w darllen ymhellach.   

Mae’r llawlyfr yn ddogfen fyw, ac rydym yn croesawu adborth, yn enwedig yn sgil Cynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru a COP26.