17 Gorffennaf 2019
Mae meddylfryd yn effeithio’n fawr ar yr offer rydym yn eu defnyddio a’r canlyniadau a gyflawnir gennym; mae’n bryd i lywodraethau a’r rhai sy’n gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus wynebu’r realiti hwn, yn hytrach na pharhau’n ofer i geisio’i reoli.
Pam mae hyn yn ofer? Oherwydd, fel ydisgrifia’r athronydd Alan Watts, mae rheoli tirweddau deinamig, cyfnewidiol yn debyg i’w awydd plentynnaidd i anfon parsel o ddŵr at rywun yn y post:
“Po fwyaf y mae rhywun yn astudio datrysiadau arfaethedig i broblemau ym maes gwleidyddiaeth ac economeg, mewn celf, athroniaeth, a chrefydd, y mwyaf y mae rhywun yn cael yr argraff o bobl hynod ddawnus yn treulio eu dyfeisgarwch yn y dasg amhosib ac ofer o geisio rhoi dŵr bywyd mewn pecynnau taclus a pharhaol”.
Meddyliwch am bympiau chwarae.
Yn rhan o’m gwaith gydag Y Lab, sef labordy Cymru ar gyfer arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cynhaliais weithdai’n ddiweddar mewn dau gyd-destun gwahanol iawn: Roedd yr un cyntaf ym Maseru, Lesotho, gyda chyrff anllywodraethol lleol, ac roedd yr ail yn Berlin, yr Almaen, yn IGL2019, sef Cynhadledd yr Innovation Growth Lab. Fodd bynnag, arweiniodd y ddau â mi at yr un casgliad: mae meddylfryd yn bwysicach na dull.
Fframio arloesi
Mae cofleidio pwysigrwydd meddylfryd yn ymwneud â chanolbwyntio ar baratoi a phroses yn hytrach na chanlyniad.
Yn aml, rydym yn dymuno’r canlyniadau “arloesi” a “thwf cynhwysol”, ond yn rhuthro trwy’r camau hanfodol y mae’n eu cymryd i’w cyflawni, gan ddiystyru’r perthnasoedd y mae angen eu datblygu, hyfforddiant angenrheidiol, ac amodau y mae angen eu meithrin er mwyn i newid fwrw gwraidd ac ymgynnal.
Mae cofleidio pwysigrwydd meddylfryd yn ymwneud â chanolbwyntio ar baratoi a phroses yn hytrach na chanlyniad.
Mae cael ein harwain gan brosesau, yn hytrach na chanlyniadau, yn ymwneud â bod yn eginol, yn addasol, ac yn ymatebol, yn hytrach na bod ag obsesiwn â llwyddiant a thargedau a bennwyd ymlaen llaw sy’n ein hachosi i weithredu mewn ffyrdd rhagnodol. “Dim ond os ydym yn credu mewn cynyddoliaeth y mae rhoi’r gorau i bwrpas yn broblem”.
Nid wyf yn honni fy mod yn arbenigwr ar dwf cynhwysol, ond gan fod y pwnc yn cael mwy o sylw, rwyf wedi canfod fy hun yn cwestiynu’r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio.
Pan fyddwn yn sôn am gynhwysiant, rwyf yn aml yn synhwyro bod pobl yn meddwl am dwf sydd wedi’i ddosbarthu’n fwy daearyddol; sef un sydd, pan gaiff ei blotio ar fap, yn eich galluogi i weld dinasoedd mawr, gyda busnesau a diwydiannau wedi’u gwasgaru ar draws gwlad, yn hytrach na chael eu cyfyngu i un neu ddwy ganolfan drefol fel Llundain. Mae’r ddelwedd honno’n gyfystyr â llwyddiant.
Er bod y weledigaeth hon yn gymeradwy, mae’n annigonol o ran cynhwysiant.
Beth yw twf cynhwysol?
Mae twf cynhwysol yn ymwneud â deall asedau a gwella galluoedd y mae pobl eu hunain wedi’u nodi ac yn eu gwerthfawrogi.
Mae hyn yn gofyn am fath gwahanol o fapio a meddylfryd; sef un haenog ac amodol. Un sy’n ceisio deall, yn hytrach na gorchymyn. Mae dull cynhwysol yn ymwneud ag ailddychmygu’r dyfodol oherwydd y gwir amdani yw, rydym yn byw mewn cymdeithasau sy’n allgáu ac yn ymyleiddio.
Mae gweithio tuag at gynhwysiant yn ymwneud â darganfod y sylfeini sy’n caniatáu i fywydau ffynnu ac i ffyniant twf gael ei rannu’n decach, yn hytrach na chael ei ganolbwyntio; yng ngeiriau’r gweledigaethwr John Dewey, mae’n ymwneud â rhoi’r “math o fyd [yr ydym] yn dymuno cymryd rhan yn y broses o’i wneud” ar waith.
Mae’n haniaethol, rwyf yn gwybod, ond gall offer a meddylfryd ein helpu i wireddu’r dyheadau hyn, a dyna’r hyn y mae fy ngwaith yn canolbwyntio arno.
Mae’r cyfan yn dechrau gyda’r ffrâm y mae proses arloesi yn ei defnyddio i archwilio problem neu her benodol. Gellir deall ffrâm yn fras fel lens, sef gwelediad newydd a ddefnyddir i archwilio gofod problemus; hyn a ddylai fod y dyfodol newydd yr ydych yn ymestyn ato. Cymharwch y ddwy ffrâm a amlinellir isod:
- Ffrâm 1: twf sydd wedi’i ddosbarthu’n fwy daearyddol
- Ffrâm 2: twf sy’n gwella galluoedd yn awr ac yn y dyfodol
Gelli cymhwyso pob ffrâm i’r un broblem, megis “dyfodol gwaith” neu “heneiddio’n dda”, ond bydd pob un yn newid yn sylweddol y cwestiynau, y dulliau gweithredu, yr offer, yr arbenigwyr ayyb yr ymgysylltir â hwy, ac felly, yr atebion a fydd yn cael eu creu.
Mae hwn yn bwynt tyngedfennol. Gyda nifer cynyddol o bobl yn ymosod yn fyrbwyll yn erbyn eu systemau gwleidyddol ac yn teimlo bod eu llywodraethau wedi’u gadael ar ôl — ni ellir anwybyddu fframiau a meddylfryd.
Pedair cred ar gyfer arloesi
Felly, beth sydd ei angen i lywodraethau gofleidio pwysigrwydd meddylfryd yn llawn?
Yn IGL2019, cafwyd sawl galwad am newid diwylliant, i gael y llywodraeth i gymryd mwy o risgiau. Fel y dywedodd un siaradwr yn IGL2019, mae eu hadran wedi dysgu gwerthfawrogi credwyr yn hytrach nag arbenigwyr technegol; mae un arall yn dyheu am wneud “arloesi’n ddyletswydd ar bawb”. Mae’r rhain i gyd yn newidiadau diwylliannol, ond y cwestiwn yw: sut rydym yn creu’r amodau i’r galwadau hyn wreiddio ac ymgynnal?
Credaf ei bod yn dechrau gyda derbyn y pedair cred a ganlyn:
1. Mae angen i ni herio a newid y cysyniadau presennol o’r hyn sy’n “seiliedig ar wyddoniaeth” ac sy’n “cael ei ysgogi gan ddata”; wrth weithio gyda chymhlethdod, mae angen gwneud ymchwil yn drylwyr, nid yn anhyblyg.
Roedd siaradwyr yn IGL2019 yn sôn am sut mae rhaid i lywodraethau wneud y gorau o bethau fel cynllunio ar gyfer creadigrwydd a chwilio am fframiau a safbwyntiau gwahanol.
Roedd un arall yn sôn am adeiladu gofodau ar gyfer “arloesi di-rif” a chreu “arenâu” er mwyn i hyn ddigwydd.
Mae’r ddau ddyhead yn gofyn am darfu ar y drefn bresennol, ac yn fy marn i, maent yn galw ar y llywodraeth i gael ei llywio gan dystiolaeth, a chynnwys dilysrwydd mewn canlyniad terfynol trwy brofion ailadroddol, yn hytrach na bod yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n edrych i’r gorffennol am atebion profedig.
Mae lle i’r ddau ac i’r dulliau gael eu trwytho, ond mae angen i lywodraethau gael eu cefnogi i ddeall y gwahaniaeth ac i roi’r gorau i fynnu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth lle nad oes rhai.
Er mwyn hwyluso chwilio a phrosesu, cyflwynodd fy ngweithdy IGL2019 fframwaith newydd yr wyf wedi bod yn ei ddatblygu i ddadansoddi’r dulliau a meintiau’r samplau y dylai pobl eu targedu wrth weithio mewn mannau sy’n dra chymhleth neu sydd ychydig yn gymhleth.
Roedd y fframwaith yn tynnu sylw cyfranogwyr at ba fath o ddulliau y dylent eu defnyddio i symud allan o ofodau â nifer o “bethau anhysbys sy’n anhysbys”, ac i ofodau â mwy o “bethau hysbys”: sef gofodau lle gallant ddechrau profi eu damcaniaethau sy’n dod i’r amlwg mewn modd trylwyr a meithrin sicrwydd mewn canlyniad terfynol.
2. Cydgyfnewid yw cyfranogi, ac yn aml, mae cyfranogi dilys yn rhywbeth sydd angen cael ei ddatblygu; nid rhywbeth sy’n cael ei roi’n rhydd yn unig mohono. Mae angen gwneud y gorau o ymgysylltu pellach ac amrywiol mewn modd ystyrlon a meddylgar; nid blwch i’w dicio na risg i’w reoli mohono.
Mae “twf cynhwysol” yn fwy na maint sampl mawr ac ymgynghori â nifer o bobl. Mae’n fwy na thorfoli a democrateiddio’r broses arloesi.
Mae’n ymwneud â dyfnder ac ansawdd ymgysylltu; mae’n ymwneud ag edrych yn feirniadol ar sut y galluogir pobl i ymgysylltu â chi, profi ac ailbrofi’r peth maent yn ei ddweud wrthych, a hygyrchedd yr ymgysylltu hwnnw.
Mae ymchwil wedi canfod yn barhaus bod amrywiaeth yn ased i ddeilliannau agweithleoedd, ond, mae sawl ffurf ar amrywiaeth, ac mae angen iddi fod yn fwy nag ymarfer ticio blychau yn unig.
Lle da i ddechrau herio’r ffordd y mae eich gweithle yn harneisio pŵer safbwyntiau amrywiol yn fewnol ac yn allanol yw trwy ddefnyddioLiberating Structures, sef 33 o dechnegau hwyluso profedig sy’n rhyddhau pawb ac yn eu cynnwys.
3. Nid datrys problemau yw fframio problemau. Mae angen i lywodraethau fod yn arafach wrth ddiffinio a rhwymo problem, a chanolbwyntio mwy ar holi’n feirniadol a ydynt ar y trywydd iawn.
Mae llawer o bobl wedi’u denu at fy sgyrsiau diweddar ar fframio problemau, ond roeddwn yn parhau i fethu â helpu pobl o ddifrif i ddeall y broses y mae angen iddynt fynd drwyddi a’i mabwysiadu.
Felly, ar gyfer IGL2019, creais fath o “gêm fwrdd”, sef efelychiad i helpu i dywys pobl, a’u timau, trwy’r broses fframio problemau, i’w hannog i fanylu ar eu pethau hysbys a’u pethau anhysbys, a sut yr oeddent yn mynd i archwilio pob un ohonynt. Er mai prototeip yw’r gêm fwrdd o hyd, erbyn diwedd y sesiwn 90 munud, roeddwn yn teimlo bod popeth wedi syrthio i’w le o’r diwedd. Fel y dywedodd un o gyfranogwyr gweithdy Dulliau a Meddylfryd IGL2019:
“Er fy mod wedi dilyn sawl cwrs ar ddulliau arloesi, mae rhaid i mi ddweud bod eich cwrs chi wedi bod yn un o’r goreuon. Roedd hi’n anodd ei ddeall ar y dechrau (oherwydd cyfyngiad amser), ond unwaith i chi ddeall y system, mewn ffordd (yn fy mhen, o leiaf), roeddwn i’n gallu gweld y llif a’r rhesymeg, ymarfer gwych!”
Nid yw arafu o reidrwydd yn golygu y bydd y broses tuag at ganlyniad terfynol yn cymryd mwy o amser.
Yn hytrach, mae arafu’n ymwneud â bod yn amwys, yn hytrach na cheisio diffinio datrysiadau. Mae ceisio diffinio datrysiadau’n creu dibyniaeth ar lwybrau, ymlyniad i’n datrysiadau, ac mae’n cymryd yn ganiataol ein bod eisoes yn meddu ar yr atebion cyn gadael y swyddfa i herio’r dybiaeth honno yn y byd go iawn.
Mae arafu yn golygu bod yn fwy ystyriol, crefftio gofodau diogel i herio, a datblygu a phrofi tybiaethau araf yn fwriadol, sydd yn aml yn gynnyrch sawl meddwl, yn hytrach nag un yn unig.
4. Mae arweinyddiaeth dda yn ymwneud ag ymgyfarwyddo; ffafrio gwneud synnwyr yn hytrach na gwneud penderfyniadau.
Yn IGL2019, roedd llawer o alwadau ar lywodraethau i symud i ofod rhag-gynllunio i ragweld beth yw’r peth mawr nesaf a/neu fynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt achosi canlyniadau trychinebus.
Ond er mwyn gwneud hynny, arweinwyr sy’n gwrando sydd eu hangen ar lywodraethau, yn hytrach nag arweinwyr sy’n credu’n naïf y gallant feddu ar yr holl atebion “cywir”. Arweinwyr sy’n gofyn y cwestiynau cywir ac sy’n gwybod sut i ddehongli, yn ogystal â gwasgaru’r broses benderfynu. Dyma’r hyn yr wyf yn ei alw’n ymgyfarwyddo: sef arweinwyr sydd yn gyson ymwybodol, ac sy’n gwybod sut i uno pobl a gwybodaeth.
Fel y disgrifia’r academydd sefydliadol enwog, Karl Weick, mae gwneud synnwyr yn “ailddrafftio parhaus o stori sy’n datblygu”, oherwydd ei bod yn debyg iawn bod yr hyn y mae tîm neu berson yn ei wybod o bosib yn anghyflawn.
Cynnal newid
Os ydym am gyflawni uchelgeisiau’r llywodraeth o ran newid cynhwysol a pharhaus, yna mae angen i ni feddwl yn fwy bwriadol am baratoi a phrosesau. Mae hyn yn dechrau gyda meddylfryd.
Ni ddylid dehongli’r blog hwn fel galwad i daflu’r offer a’r dulliau yr ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd, ond yn lle hynny, i’w hatgyfnerthu â’r pedwar pwynt meddylfryd a amlinellir uchod.