Defnyddio’r celfyddydau ar gyfer iechyd a llesiant

11 September 2019

Mae Y Lab wedi lansio rhaglen waith newydd i archwilio cyfraniad y celfyddydau wrth gadw pobl yn iach yng Nghymru.

Mae llawer wedi’i ysgrifennu am rôl y celfyddydau wrth gadw pobl yn iach ac yn dda, ac atal afiechydon – ac mae yna lawer o arferion gwych sy’n digwydd eisoes, felly rydyn ni’n adeiladu o sylfeini cadarn.

Rydym yn awyddus i ddeall sut gall y celfyddydau chwarae rhan fwy blaenllaw yn iechyd a llesiant pobl Cymru ac, yn bwysicach, lle mae angen syniadau newydd i roi hynny ar waith.

Mae’r celfyddydau, creadigrwydd a’r dychymyg yn gyfryngau lles: maen nhw’n helpu i gadw’r unigolyn yn wydn, yn cynorthwyo adferiad ac yn meithrin cymdeithas lewyrchus.

Adroddiad Grŵp Seneddol Hollbleidiol, 2017

Mae Adroddiad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol  ar y Celfyddydau ac Iechyd yn nodi:

“Mae’r celfyddydau, creadigrwydd a’r dychymyg yn gyfryngau lles: maen nhw’n helpu i gadw’r unigolyn yn wydn, yn cynorthwyo adferiad ac yn meithrin cymdeithas lewyrchus.”

Sut gallwn gynyddu nifer y bobl sy’n profi buddion iechyd wrth ymgysylltu â’r celfyddydau, naill ai drwy gymryd rhan neu’n aelod o gynulleidfa?

Mae angen syniadau newydd beiddgar i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith y celfyddydau a gobeithiwn y bydd y rhaglen hon yn dechrau cefnogi sefydliadau, rhwydweithiau ac unigolion i oresgyn sialensiau ac ymateb i gyfleoedd.

Pimp My Zimmer! Occupational Therapy team of Sycamore Ward, St Woolos Hospital.

Beth rydym yn ei wneud?

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn siarad â chynifer o bobl â phosib i sicrhau ein bod wedi deall y problemau, y sialensiau a’r cyfleoedd yn y maes hwn. Mae gennym syniad da o ble mae angen cefnogaeth ar gyfer syniadau newydd ond rydym am weld os yw hyn yn cael ei adlewyrchu gan bobl sydd eisoes yn gweithio ar groesffyrdd y celfyddydau ac iechyd ledled Cymru.

Ein sialens yw:

“Sut gall ymyriadau celfyddydol sy’n hyrwyddo llesiant ac yn atal problemau sy’n gysylltiedig ag iechyd, chwarae rôl effeithiol a chynaliadwy ym mywydau pobl yng Nghymru?”

Rydym am gynllunio rhaglen gymorth sy’n canolbwyntio ar y meysydd lle mae gwir angen syniadau mawr, beiddgar, newydd a lle gallwn gael rhywfaint o effaith drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym. Ni allwn wneud popeth felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn rhoi’r pwyslais ar y llefydd iawn.

Ar ôl i ni gytuno ar ein model rhesymeg a diffinio’r meysydd sydd angen i ni eu blaenoriaethu, byddwn yn dechrau edrych yn fanwl ar y gwahanol fathau o gymorth y gallem eu darparu i wireddu hynny.