Beth sydd ei angen arnoch chi i arloesi mewn gwirionedd? 

31 Gorffennaf 2019 

Rydym yn gwybod na all yr arloesi ddigwydd gyda chyllid yn unig. Drwy ddau gylch o Arloesi i Arbed, rydym wedi dysgu, er mwyn i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus newid y ffordd y mae eu gwasanaethau’n rhedeg, fod angen gwahanol fathau o gymorth arnynt i helpu eu prosiectau i symud ymlaen. 

Beth sydd mewn pecyn cymorth arloesi? 

Rydym yn gwybod na all yr arloesi ddigwydd gyda chyllid yn unig. Drwy ddau gylch o Arloesi i Arbed, rydym wedi dysgu, er mwyn i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus newid y ffordd y mae eu gwasanaethau’n rhedeg, fod angen gwahanol fathau o gymorth arnynt i helpu eu prosiectau i symud ymlaen. 

Yn ogystal â chael hyd at £30k o gyllid grant trwy’r rhaglen, mae prosiectau hefyd yn cael mynediad at arbenigedd ein timau. Ac mae modd i ni gyrchu cymorth ychwanegol ar gyfer pethau na allwn eu darparu. 

Yn ddiweddar, rydym wedi creu’r Pecyn Cymorth Arloesi i Arbed, sy’n rhoi’r holl offer ac adnoddau a ddefnyddiwyd gennym drwy gydol y cam Ymchwil a Datblygu mewn un lle, gyda phytiau bach ychwanegol i lenwi’r bylchau. 

  1. Fframio Problemau 
    Mae meddu ar ddealltwriaeth dda o’r broblem a’r cyfeiriad y gallech ei gymryd yn bwynt dechrau da ar gyfer unrhyw brosiect Ymchwil a Datblygu. Mae’n syniad da rhoi popeth rydych yn ei wybod am y broblem ar ddu a gwyn, ac mae hyn yn gallu eich helpu i nodi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth. 

Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau Damcaniaeth Newid, i’ch helpu i ddiffinio’r nodau a’r camau y mae angen i chi eu cymryd. Rydym hefyd wedi datblygu set o gardiau problem, i’ch helpu i ysgrifennu datganiad problem.  

  1. Pobl a phartneriaethau 

Gall cynnwys y bobl gywir yn y prosiect ar yr adeg gywir wir helpu i yrru prosiect yn ei flaen. Pa gefnogaeth uwch sydd ei hangen arnoch chi? Pa randdeiliaid allanol sydd angen cymryd rhan? Pa arbenigedd a gwybodaeth sydd gan eich tîm? 

Mae mapio rhanddeiliaid yn offeryn a ddefnyddir yn gyffredin sy’n eich helpu i feddwl yn rhesymegol am bwy sydd angen bod yn rhan o’r prosiect.  

Rydym hefyd wedi datblygu offeryn Strategaeth Rhanddeiliaid – sef offeryn sy’n gallu eich helpu i gynllunio pryd mae angen i chi siarad â pha randdeiliad, a pham y mae angen eu cyfranogiad er mwyn i’r prosiect symud ymlaen. 

  1. Ymchwil defnyddwyr 

Mae rhedeg prosiect Ymchwil a Datblygu yn gyfle gwych i ddod i adnabod defnyddwyr y gwasanaeth yn well. Pa wasanaethau sydd eu hangen arnynt? Sut olwg sydd ar eu bywyd bob dydd? A sut maen nhw’n defnyddio’r gwasanaeth presennol ar hy o bryd?  

Gellir ateb yr holl gwestiynau hyn trwy greu personâu a datblygu mapiau o deithiau defnyddwyr. Rydym bob amser yn argymell eich bod yn profi’ch allbynnau gyda’r defnyddiwr i sicrhau bod gennych gynrychiolaeth deg. 

  1. Arbedion arian parod 

Nod y rhaglen Arloesi i Arbed yw treialu a phrofi syniadau a fydd yn gwella’r gwasanaeth i’r defnyddwyr a gwneud arbedion arian parod. Gan fod hyn yn un o ofynion y rhaglen, efallai nad yw hyn yn ymddangos yn gwbl berthnasol i’ch prosiect, ond gallai cyrchu costau gwasanaeth helpu i ddatgelu rhai o fanteision ychwanegol eich prosiect.  

Edrychwch ar fframwaith 12 Economi Geoff Mulgan i weld sut y gallech arbed arian wrth wella’r gwasanaeth. 

5. Cynhyrchu Syniadau 

Efallai nad y syniad rydych chi’n dechrau ag ef fydd yr un iawn yn y pen draw, ar ôl i chi gwblhau rhywfaint o ymchwil gychwynnol a rhoi mwy o ystyriaeth i’r broblem. Mae cynhyrchu syniadau a datblygu’ch syniadau cychwynnol yn ffordd dda o sicrhau eich bod wedi archwilio ac y gallwch resymoli pam yr ydych wedi symud ymlaen gyda syniad penodol. 

6. Prototeipio 

Mae prototeipio yn gyfle i adeiladu a rhoi cynnig ar y gwasanaeth rydych wedi bod yn ei wella neu ei ddatblygu. Mae mapio teithiau neu lasbrintio yn ffordd wych o nodi’r holl gamau y bydd defnyddiwr yn eu cymryd trwy wasanaeth. Rydym yn cynghori y dylid ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at bob cam, fel pa adnoddau sydd eu hangen i wneud i’r cam hwnnw ddigwydd, faint o amser y bydd yn ei gymryd, a phryd y bydd angen iddo ddigwydd. 

7. Adborth a phrofi gan ddefnyddwyr 

Os oes prototeip gennych, ni waeth pa mor fras ydyw, mae ei roi gerbron defnyddwyr, boed hynny’n ddefnyddwyr gwasanaethau neu staff, yn amhrisiadwy. Dyma’r adeg pan fydd cymryd yr amser i brototeipio a phrofi syniad wir yn profi ei werth. Bydd datrys yr anawsterau nawr yn lleihau’r risg y bydd syniadau’n methu’n nes ymlaen.  

8. Gwerthuso 

Mae gwerthuso’n swnio fel tasg frawychus, ond beth mae hyn yn ei olygu yw rhoi eich holl ganfyddiadau mewn un lle ac asesu canlyniadau’r prosiect. 

 
Mae ysgrifennu adroddiad diwedd prosiect yn helpu i roi’r holl wybodaeth hon at ei gilydd ar gyfer eich uwch noddwyr a’ch rhanddeiliaid. Yn rhan o’r broses Arloesi i Arbed, roedd rhaid i bob prosiect gyflwyno’r adroddiad hwn er mwyn i ni allu asesu eu cynnydd a’r camau nesaf posibl. 

9. Adrodd eich stori 

Os oes angen mwy o gyllid arnoch i barhau i ddatblygu’ch prosiect, neu gyllid i helpu graddio, mae adrodd stori dda yn sgíl allweddol hanfodol i’ch helpu i sicrhau’r camau nesaf. 

10. Graddio 

Gall symud eich prosiect o gynllun peilot bach i’w raddio ar draws dinas neu ranbarth cyfan ymddangos fel tasg frawychus.  

Gall yr offeryn cynllun graddio hwn, a ddatblygwyd drwy’r pecyn cymorth dewis eich hun, helpu i hwyluso’r sgwrs ynghylch sut i raddio gyda rhanddeiliaid mewnol neu allanol. 

Gellir gweld yr holl offer a ddefnyddiwyd yng ngham Ymchwil a Datblygu Arloesi i Arbed yn y pecyn cymorth hwn: https://airtable.com/shrSABCFKHW8pEre1