Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus 2021: Ein Dysgu

10 October 2022

Roedd Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus 2021: Cyrraedd Gorwelion Newydd a’u Cynnal yn ddigwyddiad dysgu rhithwir, dros fis, a ddigwyddodd ym mis Mawrth 2021.

Mae’r erthygl hon yn rhannu:

  • Pam roedd angen i ni gyflwyno Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhithwir
  • Beth wnaethon ni ei ddarganfod a’i wneud
  • Beth ddysgon ni o’i gyflwyno’n wahanol gyda chrynodeb gweledol
  • Beth ddysgon ni o gysylltu â 60+ o arloeswyr gyda chrynodeb gweledol
  • Y gwerthusiad a wnaethom o Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus

Roedd Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus (PSP) yn ddigwyddiad wedi’i ysgogi gan bobl a aeth trwy ddau gam cyd-greadigol. Roedd yn arbrawf i greu cymuned ddysgu a ddaeth yn arbrawf rhithwir oherwydd pandemig Covid-19. Ei nod oedd cysylltu dros 70 o bobl a oedd yn gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus, ar y maes ac o’i gwmpas.

Roeddem eisiau gofalu wrth gyflwyno—roedd pobl wedi blino’n lân yn ddigidol ac yn jyglo heriau gweladwy, anweledig a rhai heb eu rhagweld wrth weithio gartref. Roeddem yn gwybod na fyddem yn cael popeth yn iawn y tro cyntaf, ond manteision ni ar gyfyngiadau anwadal pandemig Covid-19 a mynd ati i geisio rhoi rhywbeth gwahanol ar brawf. Wrth i weithio hybrid drawsnewid gwaith y sector cyhoeddus i’r dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd ein dysgu a’r cynnwys a gafodd ei guradu gan PSP yn parhau i ehangu’r posibiliadau ym maes gwasanaethau cyhoeddus.

Hoffai tîm Y Lab ddiolch i bawb a gymerodd ran am fod yn rhan o’r broses hon drwy gydol ein taith PSP. Mae’r blog hwn yn rhoi disgrifiad byr o’r daith honno.

Llwybrau byr i’n Deunydd PSP ’21

Eisiau rhywbeth hawdd, byrrach i wrando arno?

  • Gallwch ddod o hyd i’n Podlediad Afterword PSP ar Spotify. Mae’n cynnwys pum podlediad 20 munud a wnaethom gyda Storyworks o gynnwys PSP ’21.

Pam roedd angen i ni gyflwyno Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhithwir

Ar 24 Mawrth 2020, roedd Y Lab mewn partneriaeth â’r Centre for Public Impact a Rhwydwaith Ymchwil Cyfranogiad Diwylliannol WISERD, i fod i gyflwyno Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn bersonol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn lle hynny, ar 23 Mawrth, roedd y neges ar draws y DU yn glir, sef “arhoswch gartref”. Erbyn 26 Mawrth, daeth y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf yn y DU i rym. Cafodd pobl a oedd yn gweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus eu gorfodi i reoli argyfwng gyda llawer yn syllu’n sydyn ar eu gweithfannau cartref newydd, wrth geisio mynd i’r afael â normal newydd—cyfrifiadur fel achubiaeth.

Yn lle newid ar unwaith i gyflwyno’n rhithwir, fe wnaethon ni oedi cyn ystyried addasu. Roedden ni eisiau gweld a oedd y penderfyniadau dylunio a wnaethon ni ar gyfer digwyddiad personol yn dal yn addas ar ôl yr aflonyddwch byd-eang. Roedden ni’n gwybod o’n gweithdai cyd-greadigol fod pobl eisiau siaradwyr dilys oedd â phrofiad uniongyrchol o newid ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Mynegwyd awydd i ddysgu am yr heriau a’r methiannau gwirioneddol yr oedd pobl yn eu hwynebu, yn lle straeon llwyddiant llawn sglein. Realiti newid yw ei fod yn anodd. Roedd pobl eisiau defnyddio cyfarfod personol i greu cymuned y gallen nhw fanteisio arni i roi a derbyn cefnogaeth cymheiriaid ar y diwrnod ei hun ac ar ôl hynny.

ysbrydoliaeth a gweithredu i gyd mewn un diwrnod

Yn bwysicaf oll, roedd cyfranogwyr y gweithdai eisiau ysbrydoliaeth a gweithredu hefyd, a hynny mewn un diwrnod. Dyma pam enwon ni ein digwyddiad gwreiddiol yn Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus: Dulliau cyflwyno newid a sut i’w defnyddio

Ym mis Medi 2020, gwahoddon ni ein siaradwyr a’n hwyluswyr gwreiddiol at ei gilydd mewn gweithdy i edrych ar rai cwestiynau hollbwysig er mwyn rhoi’r dyluniad cychwynnol hwn ar brawf:

  • A ddylen ni gyflwyno Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhithwir?
  • Os felly, sut gallwn ni fod yn garedig wrthon ni ein hunain ac yn garedig wrth ein cyfranogwyr wrth ei gyflwyno?
    • Sut gallwn ni wneud i’r digwyddiad hwn deimlo’n berthnasol i weithwyr cyhoeddus o ystyried yr holl heriau y maen nhw’n mynd i’w hwynebu yn y 6 mis nesaf?
    • Sut gallwn ni ddod â’r byd corfforol i mewn i’r byd rhithwir fel bod y mynychwyr yn ymbellhau’n gorfforol ond heb bellter cymdeithasol?

Darganfyddiadau a Gweithredoedd

Dadlennodd ein sgyrsiau gyda siaradwyr y digwyddiad fod yn rhaid i ni wneud rhywbeth, ond bod angen i ddigwyddiad ganolbwyntio ar ddod â phobl ynghyd i gefnogi ei gilydd trwy drawsnewid. Doedd siarad yn unig am newid ac arloesi ddim yn ddigon. Roedd gweithwyr cyhoeddus yn pryderu bod hen ffyrdd o weithio a’r hen “fusnes fel arfer” yn sleifio’n ôl pan nad oedden nhw bellach yn addas i’r diben. Roedd unrhyw waith ailgynllunio’r digwyddiad yn galw am enghreifftiau o drawsnewid, creu cysylltiadau cymunedol a meithrin symud..

Doedd siarad yn unig am newid ac arloesi ddim yn ddigon

Gofynnodd llawer o’n siaradwyr i ni gyflwyno mewn ffordd wahanol; roedd newydd-deb cychwynnol cyflwyno digidol wedi darfod. Roedd pobl wedi blino’n lân yn ddigidol ac maen nhw’n dal i deimlo felly. Gofynnon nhw i ni symud i ffwrdd o ymgynnull yn Zoom i archwilio ffyrdd newydd o ddysgu o bell ac adeiladu cymunedol. Awgrymon nhw ein bod yn defnyddio dull cyfunol o gyflwyno digwyddiadau a oedd yn caniatáu i bobl ymuno pan oedden nhw’n gallu gan ddefnyddio’r dull yr oedden nhw’n ei ffafrio.

Gyda’r ceisiadau hyn yn sylfaen i ni, aethon ni ati i archwilio fformatau a siaradwyr newydd. Dewison ni recordio’r prif anerchiadau a’r sgyrsiau ymlaen llaw mewn arddull sgwrsio fel eu bod nhw’n hawdd gwrando arnyn nhw ac i bobl ymgysylltu â nhw yn eu hamser eu hunain. Penderfynon ni dreialu Miro, bwrdd gwyn cydweithredol ar-lein, fel man cadw canolog ar gyfer ein holl sgyrsiau a recordiwyd ymlaen llaw. Hefyd trwy ddefnyddio Miro, gallai siaradwyr lunio profiad ar-lein cyfranogwr: yn ogystal â’u sgwrs, roedden nhw’n gallu rhannu adnoddau i hwyluso dysgu dyfnach.

Gallwch archwilio ‘Miro-verse’ Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus yma.

Archwilio systemau newydd ar gyfer dysgu o bell ac adeiladu cymunedol

I gyd-fynd â’r arlwy digidol i’r cyfranogwyr ei wneud wrth eu pwysau, cynhalion ni weithdai byw wythnosol o’r enw “Sesiynau Profiad” a galluogi rhwydweithio 1:1 am sgyrsiau a chynnwys trwy baru cyfranogwyr PSP trwy Hap-dreialon Paned. Hefyd, anfonon ni becyn drwy’r post at bob cyfranogwr i roi map papur iddyn nhw o’r Bwrdd Miro, amserlen y digwyddiadau, a’r adnoddau papur yr oedd ein siaradwyr eisiau eu rhannu â nhw. Dyma oedd ein dull cyfunol.

Twitter credit @owilce

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y penderfyniadau technegol a’r dysgu, cysylltwch â ni neu darllenwch ein sleidiau cryno yma ar GoogleSlides, ac yma trwy PDF.

Beth ddysgon ni o gyflwyno’n wahanol

Er i ni lwyddo i gael 85 o bobl a oedd yn dweud eu bod nhw’n arloeswyr i gofrestru i wneud ein harbrawf, roedd yr ymgysylltiad gwirioneddol a pharhaus yn isel; dim ond tua 20-25% o’n cyfranogwyr a gyrhaeddodd lefelau cymedrol i uchel o ymgysylltu. Roedd hyn ar ôl:

  • I ni ofyn i bawb gadarnhau wrth gofrestru y bydden nhw’n cymryd rhan weithredol (gofynnon ni hyn yn benodol i’r cyfranogwyr);
  • I bob cyfranogwr dderbyn pecyn gofal gyda ‘map’ y digwyddiad yn y post yn nodi popeth roedden ni’n ei gynnig;
  • Ebyst atgoffa wythnosol gyda’r cynnwys wedi’i grynhoi a gyda dolenni uniongyrchol;
  • Cael sesiynau cymorth Miro ddwywaith yr wythnos;
  • Mynediad parhaus i holl gynnwys PSP trwy’r bwrdd Miro.

Er mwyn deall y rheswm pam yn well, diwygion ni ein cwestiynau ar y diwedd a chynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau â chwe chyfranogwr. Mae’r graffigyn isod yn amlygu ein canfyddiadau allweddol o’r pwyntiau cyffwrdd hyn:

PSP Visual Summary

Crynodeb o’r data:

  • Gwnaeth PSP, ansawdd ei gynnwys a’i botensial argraff fawr ar yr ymatebwyr.
  • Roedd rhai o’r farn bod y dull o gyflwyno’n ddigidol yn gymhleth, a hynny’n effeithio ar eu hymgysylltu.
  • Dywedodd llawer o rai eraill fod maint y cynnwys yn ddeniadol oherwydd ‘roedd ganddo rywbeth i bawb’, ond hefyd, bod gormod i edrych drwyddo ar eich pen eich hun.
  • Ar y cyfan roedd pobl eisiau parhau i gymryd rhan.
  • Roedd llawer yn teimlo’n anfodlon â’u gallu i ymgysylltu â’r cynnwys, ac yn dymuno y gallen nhw fod wedi ymgysylltu rhagor.

Roedd y cyfranogwyr eisiau i ni ddysgu oddi wrth PSP, rhannu’r hyn a ddysgwyd, a pharhau i fireinio pwrpas a syniad PSP gyda’r gymuned; gan adeiladu cymuned ymarfer. Ond, er mwyn i’r awydd hwn fod yn gynaliadwy, mae angen iddo esblygu y tu hwnt i Y Lab.

Cafwyd sgyrsiau diddorol am “amser” yn ein grwpiau ffocws a’n cyfweliadau. Llinyn cyffredin oedd bod perthynas pobl ag amser, cynhyrchiant, a datblygiad personol yn cael ei gymhlethu gan heriau gweithio o bell.

roedd perthynas pobl ag amser, cynhyrchiant, a datblygiad personol yn cael ei gymhlethu gan heriau gweithio o bell

Roedd ein dull yn codi tensiynau dylunio i’r wyneb sy’n ymwneud ag adeiladu cymuned ddysgu o bell. Mae’r tensiynau a restrir isod yn cynnig her ddylunio wych sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn y dyfodol oherwydd nad oes gennym ateb pendant:

  • mae pobl eisiau trefnu eu hunain a chadw ymreolaeth, ond hefyd mae arnyn nhw angen strwythur a natur ragweladwy nad yw’n teimlo’n rhagnodol
  • mae perthynas pobl ag amser ac â rheoli amser yn amrywio’n fawr
  • mae pobl yn hiraethu am gysylltiad nad yw’n ymgysylltiad digidol ychwanegol, ond hefyd maen nhw’n cydnabod bod cyfryngau digidol yn galluogi cyrhaeddiad a hyblygrwydd daearyddol ehangach
  • mae pobl eisiau cynnwys dyfnach i’w helpu i weithredu ond ni all y cynnwys ymddangos yn rhy swmpus

Dyfyniadau gan gyfranogwyr sy’n sôn am y tensiynau rydyn ni wedi’u rhestru:

‘Roeddwn i’n sgriblo am ymreolaeth ac ymrwymiad: efallai fod y tensiwn yn rhan o osod y llwyfan ar gyfer [PSP] …. dal tensiwn pobl am eu harddulliau dysgu, peidio â bod yn rhagfynegol, a’u cael i fyfyrio ar hynny.’

‘Mae pobl eisiau ymgysylltu â bodau dynol go iawn. Mae llai o ryngweithio pan gaiff ei recordio ymlaen llaw.’

‘Sut rydych chi’n cysylltu pobl yn fwy fel cymuned o arloeswyr pan fydd angen ymrwymiad amser ychwanegol? Mae angen cydbwyso amser ag ymgysylltu.’

‘Wrth ‘ddod â grwpiau at ei gilydd [sut gallwch chi] wneud y gwaith dadansoddi ac adeiladu ar y pethau sy’n codi chwilfrydedd, mewn ffordd sy’n dal yn ddigymell?’

Cafeatau am y data: roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg ‘ar y diwedd’ yn debygol o fod yn gyfranogwyr gweithredol, nid y 75-85% o bobl a ymgysylltodd rywfaint yn unig. Roedd y cyfranogwyr mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau yn bobl a welson ni yn ymgysylltu â PSP. Er hynny, roedd eu lefelau ymgysylltu yn amrywio.

Beth ddysgon ni o holi ein Harloeswyr

Wrth i bobl gofrestru ar gyfer PSP, gofynnon ni iddyn nhw beth roedd pob un ohonyn nhw yn ei deimlo, yn ei ddisgwyl, yn ei arsylwi ac yn ei ddymuno. Mae’r graffigyn isod yn grynodeb gweledol o’r data hynny.

Pioneers Learning

Diolch o galon i Graham Leicester, o’r International Futures Forum a’n prif siaradwr, am ein helpu i seilio ein cwestiynau ar Ddull y Tri Gorwel.

Cloi

Gobeithio mai megis dechrau yw hyn o ran yr hyn y gall Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus ei lunio a’i feithrin.

Rydym yn eich annog i archwilio a rhannu ein ‘Miro-Verse’ PSP neu ein rhestrau chwarae ar YouTube neu Spotify i gael gweld beth oedd gan y siaradwyr i’w ddweud.