Ar Heneiddio Creadigol a Phresgripsiynu Cymdeithasol

25 mai 2022

Llwyddodd sofia vougioukalou or lab i sicrhau cymrodoriaeth arloesedd yr academi brydeinig i edrych ar heneiddio a phresgripsiynu cymdeithasol creadigol yng nghymru.

Cynlluniwyd cynllun cymrodoriaeth arloesedd yr academi brydeinig i alluogi ymchwilwyr yn y dyniaethau ar gwyddorau cymdeithasol i weithio mewn partneriaeth a sefydliadau a busnesau yn y sectorau creadigol a diwylliannol, cyhoeddus, preifat a pholisi er mwyn mynd ir afael a heriau syn gofyn am ddulliau ac atebion arloesol. Mae’n caniatau i ymchwilydd sefydledig weithio gyda sefydliad partner yn y du ar bolisi neu her gymdeithasol benodol sy’n cyfrannu at nodau’r cynllun am gyfnod o hyd at flwyddyn. Cynhelir prosiect sofia, heneiddio a phresgripsiynu cymdeithasol creadigol: pontior bwlch rhwng defnyddwyr gwasanaeth amrywiol, darparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi yng nghymru, mewn partneriaeth a chyngor celfyddydau cymru.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ddull anffarmacolegol o gefnogi iechyd a lles pobl trwy atgyfeiriadau at weithgareddau ystyrlon fel y celfyddydau. Yn y du, mae’n faes polisi allweddol sy’n gysylltiedig a’r agenda gofal iechyd personoledig sy’n anelu at dorri y costau cynyddol syn gysylltiedig a phoblogaeth sy’n heneiddio. Mae cymhwyso ‘celfyddydau ar bresgripsiwn’ yn gymhleth ac yn aml yn eithrio’r cymunedau sydd angen ymyriadau fwyaf. Yn arbennig, wrth ymgysylltu ag oedolion hyn a phrofiadau o arwahanrwydd cymdeithasol a/neu ddementia, mae yna rwystrau fel llythrennedd digidol, mynediad at ddyfeisiau, y gallu i gydsynio, dewisiadau diwylliannol ac esthetig. Ymarferwyr creadigol a defnyddwyr gwasanaeth syn meddu ar y rhan fwyaf o’r wybodaeth am effaith – mae’n gorff gwybodaeth llafar, profiadol a phreifat yn bennaf. Felly mae dulliau ethnograffig a chyfranogol yn hynod addas i ddogfennu a throsi’r wybodaeth hon i lunwyr polisi. Bydd hyn yn cyfrannu at atebion cost-effeithiol wedi’u teilwra i anghenion arbenigol ein poblogaeth sy’n heneiddio.

Mae’r gymrodoriaeth hon yn adeiladu ar ystod eang o brosiectau a mentrau Sofia fel Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl (HARP),  Dementia ac Amrywiaeth a’r grŵp Cynnwys y Cyhoedd a Phrofiad Cleifion mewn Ymchwil, ynghyd ag arfer clodwiw wrth weithio gyda chymunedau amrywiol a chynnwys y cyhoedd.   

Mae sofia wedi treulio’r 2 flynedd ddiwethaf yn gweithio’n bennaf ar y prosiect harp mewn partneriaeth a nesta a ccc, sy’n dod i ben ym mis mai, a bydd gwaith asesu effaith dilynol yn cael ei wneud yn ystod yr haf. Ffocws allweddol ei gwaith fu archwilio goblygiadau polisi ymchwil ir celfyddydau ac iechyd ac maen cynnwys agwedd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Yn ystod ei chymrodoriaeth arloesedd, bydd sofia yn parhau i weithio gyda ccc yn ogystal a sefydliadau partner eraill o brosiect harp.

Fy nod gydar gymrodoriaeth hon yw aros yn hyper-leol ac yna cysylltu ag arweinwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff cenedlaethol syn ymwneud a llunio polisiau. Credaf y bydd dod a chymunedau o artistiaid a phobl a phrofiadau byw at ei gilydd yn helpu gydau dysgu au dealltwriaeth o bresgripsiynu cymdeithasol or gwaelod i fyny. Rhagwelaf y bydd yr ymarfer brocera gwybodaeth hwn yn cael effaith hirdymor, ar ddealltwriaeth unigol a chyfunol, ac yn cyfrannu at newid strwythurol yn y ffordd y caiff presgripsiynu cymdeithasol ei ddeddfu, ei drefnu ai gyflawni. Bydd hyn yn helpu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus syn ymwneud a phresgripsiynu cymdeithasol i arloesi a datblygu ffyrdd newydd o fynd ir afael ag iechyd a lles ein poblogaeth gynyddol syn heneiddio ac sydd ag anghenion mynediad unigryw, yn enwedig o ran dewisiadau diwylliannol a thechnoleg.

Nid ywr cysylltiadau ar llwybrau at bresgripsiynu cymdeithasol bob amser yn glir ymhlith prosiectau celfyddydau cymunedol a chelfyddydau ac iechyd. Wrth i bresgripsiynu cymdeithasol ddod yn faes cynyddol bwysig ar gyfer llunio polisi, bydd y prosiect hwn yn cynnig yr amser sydd ei angen i ymgysylltur sector celfyddydol, ac yn enwedig y rheini syn nodi nad ydynt yn rhan or gwaith o gyflawni gweithgarwch presgripsiynu cymdeithasol. Ymhellach, mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn greiddiol i waith cyngor celfyddydau cymru, ac adlewyrchir hyn ar ei fwrdd ac yn ei alwadau am gyllid. Mae gan gyngor celfyddydau cymru ymrwymiad hirhoedlog i’r celfyddydau ac iechyd. Y rheolwr portffolio, sally lewis fydd y partner allweddol wrth ymchwilio ymhellach i oblygiadau polisi presgripsiynu cymdeithasol yr ymchwil.

Y buddion a ragwelir yw:  

  1. Llunwyr polisi mwy gwybodus yn Llywodraeth Cymru  
  2. Arferion ariannu celfyddydau ac iechyd newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r GIG  
  3. Poblogaeth hŷn â mwy o ddiddordeb diwylliannol  
  4. Llai o flinder ymhlith gweithwyr proffesiynol creadigol sy’n ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol  
  5. Rheolwyr GIG, rheolwyr wardiau a chlinigwyr sy’n fwy gwybodus am gost ac effaith trefnu gweithgareddau creadigol ar gyfer poblogaethau penodol o gleifion a gofalwyr o fewn lleoliadau clinigol 

In addition to ACW, Sofia is excited to work with the following key collaborators:  

Johan Skre (Arts on Prescription), Iori Haugen (Music in Hospitals & Choirs for Good), Suzy West (Impelo), Kate Strudwick (Head4Arts) and Sarah Teagle (Forget-me-Not Chorus) will be part of the social prescribing community engagement phase and will take part in interviews, focus groups, co-design sessions and promote research involvement to their organisation’s service users.  

Michelle Fowler (British Deaf Association), Amal Beyrouty (Women Connect First), Fadhili Magiya (Sub Saharan Advisory Panel), Ruth Fabby (Disability Arts Cymru) and Cath Harrison (Pride Cymru) will be part of the social prescribing community engagement phase and will take part in interviews, focus groups, co-design sessions and promote research involvement to their organisation’s service users.  

Juls Benson (Reality Theatre) will produce a research-based performance adapted to a short film.