Y Celfyddydau ac Iechyd

Lansiwyd ein rhaglen Celfyddydau ac Iechyd, HARP yn 2019 mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, a’r bwriad yw cynyddu ein dealltwriaeth o’r modd y gall y celfyddydau chwarae rhan fwy blaenllaw yn lles pobl Cymru.

Mae HARP – Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl – yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta) i ystyried sut y gallwn ni gynhyrchu, tyfu a dysgu am ddatblygiadau arloesol creadigol ac effeithiol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru.

Nod HARP yw cefnogi arloesedd a dysgu.  Ymhob rhan o’r rhaglen, rydym yn ceisio dysgu mwy am sut y gall y celfyddydau helpu systemau iechyd a gofal gyda’u heriau mwyaf. Yn benodol, rydym yn cefnogi prosiectau sydd â diddordeb mewn datblygu neu gynnal gweithgareddau celfyddydau o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a deall mwy am sut y gall effaith mewn lleoliadau iechyd a gofal dyfu a goroesi yn y tymor hwy.

Mae gan HARP ddwy llinyn: Egin a Borthi. Nod pob llinyn yw meithrin a chefnogi lleoedd iechyd a chelfyddydau pobl a lleoedd i weithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i’r ffyrdd gorau i’r celfyddydau ac iechyd wynebu’r heriau a nodir uchod. Fel rhaglen ddysgu, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn darganfod sut y gall arloesi trwy HARP arwain at:

  • Fodelau cyllido mwy cynaliadwy ar gyfer prosiectau celfyddydau ac iechyd
  • Tystiolaeth gadarn o effaith y celfyddydau ar bobl a systemau iechyd/gofal
  • Cyd-ddealltwriaeth o werth y celfyddydau rhwng partneriaid iechyd a’r celfyddydau
  • Amrywiaeth o brosiectau celfyddydau cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer iechyd
  • Llwybrau clir i bobl gael mynediad i’r celfyddydau

Dysgwch fwy am ein prosiectau a ariennir

Pwy sy’n rhan o hyn?

Rydym yn gweithio gyda Cyngor Celfyddydau CymruCydffederasiwn GIG Cymru a Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru i gefnogi arloesedd a dysgu ar gyfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.

Tystiolaeth a dysgu

Bydd effaith y rhaglen hon ar y cleifion, staff a systemau sy’n ymwneud â hi yn cael ei astudio gan y Cymrawd Ymchwil, Dr Sofia Vougioukalou. Caiff y canfyddiadau eu defnyddio i lywio datblygiadau gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer y celfyddydau ac iechyd ymhell y tu hwnt i’r timau a’r sefydliadau sy’n rhan ohoni. Rydym ni’n ystyried y bydd hon yn rhaglen o fudd i ecosystem gyfan y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.