Cyhoeddi’r prosiectau Borthi HARP

15 Mawrth 2021

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, mae’n bleser gennym gyhoeddi 10 prosiect fydd yn ceisio graddio a chynnal gweithgareddau celfyddydau ac iechyd ar draws y wlad.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi deg prosiect fydd yn cael arian a chefnogaeth drwy raglen Meithrin HARP, ein partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth i ni i gyd barhau i ymdopi ag effeithiau’r pandemig mae’n ymddangos yn bwysicach nag erioed i weithio gyda’n gilydd mewn partneriaethau a rhwydweithiau. Bydd HARP yn creu lle i gydweithio ar draws iechyd, gofal a’r celfyddydau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdrin â’r heriau iechyd a gofal rydyn ni i gyd yn eu hwynebu.

Dyfarnwyd mewn cyllid arloesi i deg o brosiectau i gefnogi syniadau sy’n gwella iechyd a lles pobl trwy weithgareddau creadigol.

Mae’r prosiectau, ym mhob rhan o Gymru, yn rhan o HARP – Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl – partneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta).  Bydd pob prosiect yn derbyn cyllid a chefnogaeth strwythuredig gan yr holl bartneriaid, gan gynnwys Rhwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru a thîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta, tan 2022.

‘Sgwennu ar y Dibyn

Partneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol Gwynedd ac Uned Partneriaeth Môn, Llenyddiaeth CymruAdra (Tai) Ltd a’r artist arweiniol, Iola Ynyr, i ddarparu gweithdai creadigol Cymraeg fel rhan o ddarpariaeth adferiad Cymraeg ar gyfer grwpiau o bobl â dibyniaeth ar alcohol, mewn cymysgedd o leoliadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Opsiynau Creadigol

Partneriaeth rhwng Gofal CelfBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Gâr i ddarparu ystod o weithgareddau creadigol i oedolion yn Sir Gâr â heriau iechyd meddwl sydd mewn gwasanaethau cleifion mewnol a lleoliadau gofal byw/preswyl â chymorth.

Trywyddau Digidol: Gweu Bywydau Ynghyd Trwy Ganu

Partneriaeth rhwng Forget Me Not Chorus, yr artist Louise Osborn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gyflwyno tri bloc o sesiynau canu rhyngweithiol ar Zoom gydag arddangosiad ategol, gan gysylltu cleifion â dementia, aelodau o’r teulu, gwirfoddolwyr a staff yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd. Bydd bywydau pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu hadlewyrchu, eu hanrhydeddu a’u dathlu mewn cân, barddoniaeth a chelf weledol/ffotograffiaeth.

HARBWR 

Mae HARBWR yn adeiladu ar bartneriaethau rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, artistiaid, sefydliadau celf, y trydydd sector a chynghorau lleol i ddatblygu a phrofi model celfyddydau ar bresgripsiwn newydd yn yr ardal. Bydd HARBWR yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau, i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Yn ogystal â phrosiectau celfyddydau mewn iechyd llwyddiannus fel Dawns i Iechyd a Rengarific, bydd gweithgareddau newydd yn cael eu datblygu i ehangu’r effaith.

Joio 

Partneriaeth rhwng y sefydliad dawns ImpeloBwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cymdeithas Alzheimer, a Dementia Matters Powys i ddatblygu ac adeiladu’r dystiolaeth o amgylch ‘Joio’, sef rhaglen ddawns ar-lein newydd sydd wedi’i chyd-ddylunio ar gyfer pobl hŷn â heriau penodol dementia ac iechyd meddwl. gan eu cefnogi i gadw’n heini a chynnal cysylltedd cymdeithasol.

Lleisiau CF

Partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Four in Four, i ddarparu sesiynau celfyddydau rhyngweithiol ar-lein i bobl â Ffibrosis Systig (yn ogystal â staff, aelodau teulu a gofalwyr), i fagu hyder a chysylltiad.

Art Well – Rhaglen adfer ôl-Covid

Partneriaeth rhwng Span ArtsCymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), Cysylltwyr Cymunedol PAVS, Cyngor Sir Penfro a Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda’r nod o adeiladu gwydnwch unigolion a chymunedau ynysig yn Sir Benfro trwy dri gweithgaredd celf: Côr o Bell (Canu), Theatr Soffa (Theatr) a Shared Worlds (Barddoniaeth).

SPARK

Partneriaeth rhwng Re-LiveCyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, gan gysylltu pobl hŷn sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd â chymuned ar-lein, gan archwilio profiadau trwy ddrama, cerddoriaeth, canu a dawns.

Rhaglen y Celfyddydau ac Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Gwent Arts in HealthHead4Arts ac ymarferwyr unigol i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl ar gyfer gwahanol grwpiau, lle bydd y tîm yn archwilio sut i ymgorffori’r celfyddydau yn y bwrdd iechyd trwy gasglu dysgu, tystiolaeth ac eiriolaeth.

‘Seren’: Creu Cymuned y Tu Hwnt i Covid

Partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a phartneriaid celfyddydau Tanio, Sue Hunt ac Uschi Turoczy, i fynd i’r afael ag effaith Covid-19 yn yr ardal. Bydd y bwrdd iechyd yn defnyddio creadigrwydd i fynd i’r afael â thrawma a dryswch meddwl pobl hŷn sy’n gwella o Covid, yn gyntaf yn yr ysbyty maes ac yna yn y gymuned (trwy gynllun rhyddhau creadigol). Bydd y tîm hefyd yn gweithio gyda staff i ddod â chreadigrwydd er lles i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.