HARP Seed

15 Mawrth 2021

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen Egin HARP yn ymwneud â chydweithio i gynhyrchu – neu ‘hadu’ – y syniadau gwych cychwynnol hynny ac arloesi ar gyflymder.

Yn wyneb Covid-19 rydym yn gwybod bod angen syniadau a dulliau gweithredu newydd nawr ym maes y celfyddydau ac iechyd.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen Egin HARP (ymchwil a datblygu) yn ymwneud â chydweithio i gynhyrchu – neu ‘hadu’ – y syniadau gwych cychwynnol hynny ac arloesi ar gyflymder.

Beth yw rhaglen Egin HARP?

Mae HARP – Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil, Pobl – yn bartneriaeth arloesi rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta) i ystyried sut y gallwn gynhyrchu, tyfu a dysgu am ddatblygiadau arloesol creadigol ac effeithiol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru.

Gan ymateb i’r anghenion sy’n codi o’r pandemig, a chydnabod bod arloesedd yn digwydd ledled y sector ar hyn o bryd, rydym yn ceisio dysgu mwy am sut y gall y celfyddydau helpu systemau iechyd a gofal gyda’u heriau mwyaf yn ystod Covid-19.

Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau iechyd i nodi tair her sy’n bwysig iddynt ar hyn o bryd.  Maent wedi cael eu paru â chwe artist (dau i bob tîm) i weithio gyda nhw i gynhyrchu a datblygu syniadau creadigol newydd i’w helpu i ymateb i’w heriau.

Pwy yw’r sefydliadau iechyd, a beth yw eu heriau ar gyfer Egin HARP?

Rydym yn gweithio gyda thri thîm ar yr heriau iechyd a gofal canlynol:

  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Ali Goolyad ac Eric Ngalle Charles: Yn adrodd stori gweithwyr gofal iechyd Du yn ystod y pandemig
  • New Pathways, Jain Boon a Matilda Tonkin- Wells: yn adeiladu gwydnwch goroeswyr treisio a cham-drin rhywiol ledled Cymru
  • Cyngor Sir Dinbych, Steffan Donnelly a Mari Gwent: Yn cefnogi staff gofal rheng flaen ar draws Sir Ddinbych i reoli straen pandemig Covid-19

Nawr bod y timau wedi’u ffurfio, maent yn dod at ei gilydd yn rheolaidd trwy weminarau a chyfarfodydd, gyda chefnogaeth Hyfforddwr Herio HARP a Chymrawd Ymchwil Y Lab.  Yn y sesiynau hyn byddwn yn mynd â’r timau trwy broses ddylunio lle y byddant yn pennu nodau a mapio pwyntiau mynediad ac asedau, cyn cynllunio, treialu a gwerthuso gweithgareddau creadigol newydd i gyflawni eich nodau.  Mae hyn yn adeiladu ar waith Sbrint HARP yn haf 2020 a bydd yn cael ei hwyluso mewn partneriaeth â thîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta, sy’n canolbwyntio ar raglenni arloesi strwythuredig sy’n cefnogi newid cynhwysol, cydweithredol a chyflym o fewn systemau cymhleth fel gofal iechyd.

Gan fod y rhaglen hon hefyd yn brosiect ymchwil, byddwn yn gweithio gyda phob prosiect i arsylwi a mesur canlyniadau ac effaith y rhaglen ar gyfranogwyr a sefydliadau.

Rydym yn gwybod bod arloesi cydweithredol yn arwain at syniadau gwell.

Rydym yn gwybod bod arloesi cydweithredol yn arwain at syniadau gwell, felly bydd man diogel a chefnogol y rhaglen yn galluogi’r timau i fynd i’r afael â’u her trwy ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau o bob rhan o’r timau Hadu i gael y canlyniad gorau ar gyfer eich sefydliad a’u pobl.

Ariannu

Mae grantiau o £3,000 wedi’u rhoi i’r artistiaid ar y timau herio.  Mae cyllid hadu ychwanegol hefyd ar gael i leoedd iechyd gomisiynu artistiaid a phrofi syniadau ar ôl eu datblygu. 

Mae HARP yn cael ei ddarparu gan Y Lab, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru a thîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta.