Cadw Cymru’n Ddiogel

Enw’r rhaglen oedd Cadw Cymru’n Ddiogel: Ymddygiadau COVID, ac roedd yn cynnwys y bartneriaeth yn helpu tri thîm mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru i dreialu ymyriadau yn eu hardal. Ar ddechrau’r gwaith yn ystod haf 2021, cynhaliodd Y Lab adolygiad o dystiolaeth. Fe’i cynlluniwyd i gael ei ddefnyddio i helpu i osod cyd-destun yr her i’r timau, a llywio ymagwedd gyffredinol y rhaglen. 

Beth wnaethom ni

Diben – rhoi sylfaen i gynllun y rhaglen, darparu cipolygon i dimau ar ymddygiadau COVID a llywio cynllun yr ymyriadau i leihau risg.

Adolygu – ymchwil oedd yn bodoli, wedi’i chyhoeddi a heb ei chyhoeddi, ar themâu hunanynysu ac osgoi ymddygiad peryglus o amgylch COVID-19.

Ymchwil – ar y pryd roedd ymchwil yn canolbwyntio ar ymyriadau llywodraethol ar y lefel uchaf, yn fferyllol ac anfferyllol, gydag ychydig yn unig ar yr ymyriad pwrpasol ar sail lle a ragwelwyd yn y rhaglen hon ac a gynllunnir i gefnogi grwpiau risg uwch. 

Adleisiwyd llawer o’r themâu a nodwyd yn yr adolygiad wrth i dimau brofi eu hymyriadau gyda grwpiau targed ar lawr gwlad mewn amser real, ac eto yn y treial Predictiv cenedlaethol.

Mae llawer o’r themâu a ddatgelwyd gan yr adolygiad tystiolaeth yn sail ar gyfer y dysgu allweddol a ddaeth i’r amlwg o’r rhaglen.

Ein canfyddiadau

Meddwl am risg – Mae grwpiau gwahanol yn datblygu gwahanol fapiau meddyliol o risg, a ffurfiwyd gan ddylanwadau seicolegol a strwythurol a phrofiadau bywyd. Mae agweddau strwythurol yn ogystal ag ymddygiadol risg yn creu eu rhwystrau eu hunain i leihau risg. Roeddem ni am i dimau feddwl am risg trosglwyddo fel rhywbeth cronnol, fel bod gwahanu’r amrywiol rwystrau’n ymddygiadau penodol yn eu helpu i gynllunio ymyriadau a allai dargedu ymddygiadau allweddol yn effeithiol.

Ymchwil sy’n bodoli – Awgrymodd tystiolaeth o ymchwil sy’n bodoli bod ymyriadau syml yn gallu cael effaith. Gall datblygu dealltwriaeth o ymgysylltiad pobl â dileu COVID-19 a’r mesurau penodol i wneud hynny arwain at ddealltwriaeth ddefnyddiol ynghylch sut i gyfathrebu â nhw i newid eu hymddygiad. 

Datgelodd yr adolygiad fwlch gwirioneddol o ran deall effaith dulliau mwy pwrpasol, yn enwedig o ran cyfathrebu â’r grwpiau risg uwch hynny, er enghraifft dynion iau, pobl sy’n gweithio mewn cyflogaeth ansicr neu â chyflog isel.

Mae ymchwil wedi defnyddio dulliau amrywiol ac nid oedd o reidrwydd yn gymaradwy. Roedd modelau mathemategol o ymyriadau ar lefel facro ac arolygon hunan-adrodd yn fwy cyffredin o lawer na gwaith empirig ar ymyriadau ar y raddfa’r oedd y rhaglen yn ei rhagweld.

Pwysigrwydd gwerthuso – Dylid cynllunio ymyriadau’n ofalus gyda gwerthuso cadarn yn rhan hanfodol o’r cynllun.

Symud at ganllawiau – Byddai’r rhaglen yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol i’r ymchwil a ganfuwyd. Wrth i’r cyfrifoldeb drosglwyddo i’r cyhoedd, mae’r gyfran o fewnbwn i newid ymddygiad ar fin cynyddu.

Defnyddiodd y timau yr adolygiad i werthuso’r cyd-destun lleol a llunio eu cipolygon eu hunain ar ymddygiadau COVID yn defnyddio offer a thechnegau BI a dulliau PPR.

Beth sy’n cynyddu risg – Mae grwpiau’n ymddangos o’r data ystadegol fel rhai sy’n wynebu risg uchel ar gyfer trosglwyddo a/neu am ymlyniad isel (i frechu, hunanynysu, cadw pellter cymdeithasol, ac ati), trwy ymddwyn yn beryglus, yn aml mewn lleoedd peryglus, wrth wneud swyddi peryglus, neu gyfuniadau o’r rhain. 

Gwelsom ni fod y grwpiau hyn fel arfer yn iau (yn enwedig dynion); yn bobl sy’n gweithio mewn swyddi ansicr a/neu gyflog isel; yn byw mewn amodau mwy gorlawn; a rhai yn gymunedau lleiafrifol ethnig. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y ceir grwpiau eraill nad ydynt yn ymgysylltu ag arferion iechyd y cyhoedd am resymau eraill (diwylliannol a chymdeithasol).

 Diagram a ddatblygwyd gan Y Lab i helpu’r timau i nodi categorïau risg a blaenoriaethau ymgysylltu â risg. 

Mae’r esboniadau am ddiffyg ymlyniad yn y llenyddiaeth yn disgyn i ddau grŵp; ‘strwythurol’ e.e. rhesymau ariannol, a ‘seicolegol’, h.y. yn ymwneud â’r ffordd y maent yn gweld eu hunain a chymdeithas.