Nid ydym yn siarad am gaffael cyhoeddus (ond mi ddylem wneud)

22 February 2022

Mae caffael cyhoeddus, neu’r broses o brynu nwyddau, gwasanaethau a’r gwaith a wneir gan awdurdodau cyhoeddus, yn medru chwarae rôl hanfodol yn cyflawni amcanion cymdeithasol fel hwyluso’r gwaith o ddatgarboneiddio neu adeiladu cymunedau cefnogol. Fodd bynnag, mae datgloi’r pŵer yma yn golygu bod angen i ni feddwl yn wahanol am gaffael cyhoeddus.

Caffael yw’r brif ffordd ar gyfer gwario arian cyhoeddus. Mae Llywodraethau, yn enwedig ar lefel leol, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus (meddyliwch am iechyd, addysg, cynnal cyfraith a threfn, trafnidiaeth gyhoeddus a meysydd parcio, darparu gwasanaethau tai a chymunedol,  rheoli a chasglu gwastraff ayyb). Er mwyn ymgymryd â’r swyddogaethau yma, mae awdurdodau cyhoeddus yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn aml ac mae hyn yn cael ei alw’n caffael cyhoeddus.    

Caffael cyhoeddus fel gwasanaeth cyhoeddus 

Mae yna fwy a mwy o ddiddordeb ymhlith academyddion ac ymarferwyr ym maes caffael cyhoeddus sydd yn “cael ei yrru gan bolisïau”. Er enghraifft, mae ‘caffael cyhoeddus gwyrdd’ (CCG) yn cyfeirio at brynu mewn modd sydd yn ystyried yr effaith amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys ystyried cylch  bywyd y nwyddau sydd yn cael eu prynu (ac nid y costau cychwynnol) neu’n ei gwneud hi’n orfodol i gyflenwyr posib i adrodd eu hallyriadau carbon. Mae CCG yn ystyried sut y mae awdurdodau cyhoeddus yn medru caffael datrysiadau arloesol sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd er mwyn mynd i’r afael gyda heriau cymdeithasol wrth i ni ddelio gyda’r newid hinsawdd yr ydym yn profi (er enghraifft efallai bod prynu fflyd o fysiau neu drenau trydan yn syniad well gan ei fod yn fwy hawdd i newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy wrth i’r grid ddatgarboneiddio). 

Mae hefyd yn bosib defnyddio caffael cyhoeddus i hyrwyddo gwerthoedd cymdeithasol. Mae egwyddorion Llywodraeth Cymru o ran caffael cyhoeddus   yn diffinio gwerth cymdeithasol  drwy gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy sydd yn rhaid eu hystyried wrth gynllunio caffael cyhoeddus yng Nghymru. Ers 2021, mae adrannau llywodraeth y DU hefyd yn gorfod ystyried gwerth cymdeithasol wrth ymgymryd â’u gweithgareddau caffael. Nid yw  defnyddio caffael cyhoeddus er mwyn gwella amodau gwaith yn rhywbeth newydd  – yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, roedd llywodraethau yn y DU, UDA ac Ewrop wedi cyflwyno deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod isafswm cyflogau a chyfleoedd cyflogaeth ffafriol i grwpiau o dan anfantais  yn rhan o’r contractau cyfreithiol3. Mae gwario cyhoeddus yn medru chwarae rôl bwysig yn arwain y gwaith o adeiladu cymdeithas tecach.    

Mae’r rôl arwain hon yn cynnwys arloesedd pan mae llywodraethau yn ymgymryd â’r rôl ‘defnyddiwr arweiniol’ neu’n darparu llwyfan i brofi cynnyrch a gwasanaethau newydd.  Mae’r dull ‘systemau o arloesedd’, sydd yn ystyried datblygiad technoleg fel proses iteraidd yn hytrach na phroses linellol, sydd hefyd yn nodi y rôl hanfodol y mae caffael cyhoeddus yn chwarae drwy fynegu gofynion a’n creu’r “galw” sydd yn diod ag arloesedd yn fyw. Mae caffael cyhoeddus felly yn cael ei ystyried fel teclyn polisi  arloesi sy’n  ‘creu’r galw’, gan ei wahaniaethu o’r teclynnau polisi arloesi eraill fel grantiau Datblygu ac Ymchwil a chymorthdaliadau sydd yn ffocysu mwy ar y ochr gyflenwi o greu arloesedd. 

Y cylch caffael 

Mae’r broses o gaffael yn cynnwys nifer o gamau ac nid yw wedi ei gyfyngu i’r sawl sydd yn rhan o’r “tîm caffael” mewn awdurdod lleol. Yn y  cylch caffael, mae angen i nifer o bethau i ddigwydd cyn ein bod yn medru cyhoeddi gwahoddiad i dendro fel diffinio’r gofynion, cynllunio ac ymgysylltu gyda’r farchnad. Mae modd trafod amcanion polisi fel datgarboneiddio neu adeiladu cymunedau cefnogol yn y cyfnodau cynnar ac mae’n hanfodol fod gweithwyr proffesiynol – na sydd yn gweithio ym maes caffael cyhoeddus – yn cael eu cynnwys oherwydd efallai nad yw’r capasiti gan y timau caffael i gynnwys polisïau cyhoeddus i mewn i’r broses caffael. 

Mae modd trafod amcanion polisi fel datgarboneiddio neu adeiladu cymunedau cefnogol yn y cyfnodau cynnar ac mae’n hanfodol fod gweithwyr proffesiynol – na sydd yn gweithio ym maes caffael cyhoeddus – yn cael eu cynnwys oherwydd efallai nad yw’r capasiti gan y timau caffael i gynnwys polisïau cyhoeddus i mewn i’r broses caffael.

At hyn, mae llawer o bethau yn digwydd ar ôl dyfarnu’r contract  (fel storio neu dderbyn, rheoli’r berthynas gyda chyflenwyr a rheoli asedau). Mae hyn yn golygu bod angen ystyried caffael fel gweithgareddau  perthynol hirdymor ac nid gweithgareddau  rhyngweithiol dros dro. 

Trawsnewid caffael cyhoeddus    

Mae caffael cyhoeddus yn ceisio sicrhau ‘gwerth am arian’ a dylem oll chwarae rhan yn y broses o ddiffinio ‘gwerth’ gan mai ein harian ni sydd yn cael ei wario! Mae trawsnewid caffael cyhoeddus  yn dibynnu ar y ffordd yr ydym yn meddwl am gaffael cyhoeddus – yr hyn a olygir gan gaffael cyhoeddus a’r rôl y mae’n medru chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.    

Rhaid i ni greu awyrgylch hefyd ar gyfer medru caniatáu caffael cyhoeddus sydd yn cael ei yrru gan bolisïau. Mae hyn yn golygu cynyddu’r capasiti o fewn gwasanaethau cyhoeddus i ymgysylltu gyda’r broses caffael yn gynnar iawn. Mae hefyd angen  i weithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau cyhoeddus i fod yn greadigol a chydlafurio – meddwl yn greadigol am y gwasanaethau cyhoeddus a chydlafurio gyda chydweithwyr caffael a rhanddeiliaid eraill. Rydym yn wynebu nifer o heriau sylweddol fel cymdeithas a rhaid i ni weithio mewn ffyrdd newydd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf o wariant cyhoeddus. Mae’r Lab Caffael yn y Rhaglen Infuse  yn ceisio sicrhau effeithiolrwydd a mynd i’r afael gyda’r materion capasiti drwy gydlafurio a’n gweithio ar lefel ranbarthol. Mae Infuse yn cynnwys sesiynau  sgiliau a themâu ac ystod  o siaradwyr a gweithgareddau sydd yn helpu trawsnewid y ffyrdd yr ydym yn meddwl ac yn ymgymryd â gweithgareddau caffael yn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  

Infuse – Gwefan

Gadewch i ni siarad am gaffael cyhoeddus! 

[1] McCrudden (2004)

[2] Edler and Georghiou (2007)