Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus 2021

Cyrraedd Gorwelion Newydd a’u Cynnal

Roedd Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn arbrawf rhithwir ar adeiladu cymunedol yn 2021. Ei nod oedd dod â rhai o’r lleisiau mwyaf diddorol yng ngwasanaethau cyhoeddus y DU ynghyd. Y bwriad y tu ôl i’r cynnwys a gafodd ei lunio a’i guradu ar gyfer y digwyddiad oedd uno ac ysbrydoli pobl ar draws gwaith cyhoeddus – boed hynny’n waith cynllunio, cyflawni neu ymchwilio i wasanaethau cyhoeddus – gwneud pethau’n wahanol.

Daliwr sylw

Roedd Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSP) yn arbrawf i greu cymuned ddysgu gyda dros 70 o bobl yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus a hefyd yn arbrawf o ran sut i gyflwyno digwyddiad rhithwir yn wahanol.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys yr holl gynnwys sy’n ymwneud ag Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus. Dyma’r dolenni uniongyrchol i.
  • Bob un o’n sgyrsiau ar ffurf fideo a sain
  • Y Miro lle roedd cynnwys ac adnoddau’r digwyddiadau
  • Ein cyfres podlediadau Afterword gyda phum pennod 20 munud o’r sgyrsiau mwyaf ysgogol gan Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Cipluniau o’r hyn a ddysgon ni o gynnal y digwyddiad ac o glywed gan arloeswyr

Podlediad

Rhestr Chwarae Afterword 5 pennod : Mae’r ‘Public Service Pioneers Afterword Podcast’ yn cynnwys rhai o’r sgyrsiau mwyaf ysgogol o’n digwyddiad Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2021. Mae pob pennod tua 20 munud o hyd, ac yn rhoi cipolwg byrrach o sgwrs wedi’i recordio ymlaen llaw.

Youtube

Youtube 25 o sgyrsiau a roddwyd yn ystod menter Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus O fwriad, mae pob recordiad fel gwrando ar sgwrs felly does dim rhaid i chi eu gwylio.

Spotify

Spotify : Eisiau gwrando wrth fynd am dro yn hytrach na gwylio? Mae pob un o’n 25 o sgyrsiau ar gael i chi ar Spotify. Mae 5/25 i’w cael ar Bodlediad Afterword.


‘Miro-verse’ Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus

Bwrdd wedi’i fewnosod Ymunwch â bwrdd Miro a grëwyd gennym i ddod â 70+ o bobl ynghyd i ymgysylltu ag Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus. Dilynwch y llwybrau y gallwch glicio arnyn nhw i gychwyn eich taith ddysgu. Mae pedwar maes cynnwys:

Prif anerchiadau:
Prif anerchiadau: roedd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar adeiladu’r weledigaeth a’r sgaffaldiau i gynnal newid

Trawsnewid:
tynnu sylw at y rhai sy’n addasu, yn trawsnewid, ac yn ailddychmygu’r hyn sy’n bosibl ym maes gwasanaethau cyhoeddus.

Profiad:
sesiynau trochi gyda mudiadau cymdeithasol yn y DU.

Ein Stori:
cefndir o ran pwy sydd y tu ôl i AGC a sut daeth i.


Beth ddysgon ni

Dysgon ni lawer iawn o daith gyd-greadigol Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus i ddigwyddiad a ddyluniwyd i’w cyflwyno’n bersonol ym mis Mawrth 2020 i gyflwyno’n rhithwir ym mis Mawrth 2021. Rydym wedi rhannu rhai o’n gwersi i’r tri maes isod. Pe hoffech chi ddarllen yr erthygl fer am ein taith ddysgu, cliciwch yma.

1. Beth ddysgon ni o ddod ag arloeswyr ynghyd

Cawsom 85 o bobl a oedd yn dweud eu bod nhw’n arloeswyr i gofrestru ar gyfer ein digwyddiad a gofynnon ni i bob un ohonyn nhw beth roedden nhw’n ei deimlo, yn ei ddisgwyl, yn arsylwi arno ac yn ei ddymuno. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r themâu mwyaf nodedig.

2. Beth ddysgon ni o gyflwyno’n wahanol

Mae’r graffig isod yn crynhoi’r hyn a ddysgon ni am ein dull o fynd ati i gyflwyno’n gyfunol ac o adeiladu cymunedol. Gobeithiwn y gall ein llwyddiannau a’n diffygion ysbrydoli eraill rydyn ni’n gwybod eu bod nhw gan ein Hap-dreialon Paned yn barod (nid ni ddyfeisiodd y rhain).

3. Dysgu technegol

I’r rhai sy’n fwy chwilfrydig am ‘lo mân’ y dysgu technegol e.e. am y llwyfannau a ddefnyddion ni, sut aethon ni ati i gyfathrebu, beth y byddem yn ei wneud yn wahanol, a rhagor – rydyn ni wedi llunio sioe sleidiau gyflym i chi.


Diolchiadau

Pobl oedd yn gyrru menter Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus ac roedd yn gyd-greadigol. Rhoddodd llawer o bobl a sefydliadau yn hael o’u hamser a’u cefnogaeth yn ystod ei oes.

Diolch enfawr i’r holl siaradwyr a’r darpar siaradwyr ar draws y ddau gyfnod cyd-greadigol. Mae angen i ni ddiolch yn fwy penodol i’n partneriaid gwreiddiol ar y digwyddiad a dreuliodd oriau di-ri yn dylunio ein cysyniad cychwynnol o Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus:

Hefyd, cawsom gefnogaeth ragorol gan siaradwyr a aeth gam ymhellach i wneud Arloeswyr Gwasanaeth Cyhoeddus yn arbennig. Diolch i:

Fizz Events – am helpu i’n cysylltu â phobl greadigol, am guradu cynnwys, am olygu fideos, ac am y brwdfrydedd y daethoch chi i gyd a’r Gweithredwyr Perthynol i’r prosiect. Drwy eich egni a’ch ymroddiad, cadwyd yr olwynion i droi.

Graham Leicester – am yr holl ddealltwriaeth a doethineb y gwnaethoch chi eu rhoi o’ch gwirfodd i helpu i lunio’r hyn a ddaeth yn ddarpariaeth rithwir. Diolch am roi eich amser, am y cardiau post, yr heriau ysgafn a’n gwnaeth ni’n fwy bwriadol, am gynnal gweithdy, ac am yr holl ymdrech y tu ôl i’r llenni.


Cloi

Gobeithio nad dyma ddiwedd ymdrech adeiladu cymunedol Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus. Er bod uchelgeisiau ac amgylchiadau Y Lab wedi newid ers mis Mawrth 2021, byddem yn annog, yn croesawu ac yn cefnogi eraill yn frwd i barhau lle gwnaethon ni orffen. O fwriad, gwnaethon ni greu menter Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus i fod â’i frand ei hun fel y gallai unrhyw sefydliad neu gonsortiwm o sefydliadau ei rannu a’i drosglwyddo. Edrychwn ymlaen at weld beth fydd yn digwydd a beth all ddod nesaf.