Pam rydym ni’n defnyddio dull Canlyniadau Pŵer Pobl i ymdrin â’r Celfyddydau a Iechyd

9 December 2019

Ym mis Ebrill 2019, fe gyhoeddon ni raglen newydd y Celfyddydau a Iechyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.  Rydym am helpu i gynyddu rôl y celfyddydau a chreadigrwydd wrth gadw pobl yn Nghymru yn iach ac yn hwylus. 

Aethon ni i mewn i’r cyfnod Darganfod gyda set o ragdybiaethau.

Nawr, chwe mis yn ddiweddarach, gallwn ni ddweud yn hyderus, er nad oedd yr un o’n rhagdybiaethau yn gwbl anghywir, trwy gymorth llu o bobl a sefydliadau mae gennym ddealltwriaeth lawer gwell o’r systemau, y sectorau, y bobl a’r heriau sy’n ymwneud â’r gwaith hwn ar hyn o bryd, a chynllun ar gyfer sut mae symud ymlaen. 

Nawr gallwn ni fynd ati o ddifri. 

Beth wnaethom ni

Er mwyn cywain cymaint o ddata a gwybodaeth â phosibl, fe gynhalion ni arolwg ar-lein, cyflwyno gweithdai i randdeiliaid, a siarad â rhwydweithiau ac uwch-arweinyddion sy’n gweithio ar draws y celfyddydau a iechyd. 

At ei gilydd, bu mwy na 150 o bobl yn ein helpu i brofi model rhesymeg oedd yn dod i’r amlwg, a oedd yn awgrymu y byddai’r pethau canlynol yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni ein nod:

  • Modelau ariannu priodol;
  • Tystiolaeth sy’n dderbyniol i weithwyr iechyd proffesiynol ac y mae modd i ymarferwyr yn y celfyddydau ei chyflwyno;
  • Dealltwriaeth a rennir o werth y celfyddydau i iechyd a llesiant – rhwng artistiaid, gweithwyr iechyd proffesiynol a chynulleidfaoedd/cleifion;
  • Llwybrau i gael mynediad i’r celfyddydau yn y man cywir ar yr adeg gywir;
  • Ystod eang o weithgareddau celfyddydau sydd o ansawdd cyson uchel.

Roedden ni’n wir am wybod dau beth: Yn gyntaf, nad oedd dim hanfodol o’i le ar y model – nad oedd dim arwyddocaol ar goll.   Yn ail – rhai syniadau ynghylch ym mha rai o’r pum maes roedd yr angen mwyaf am arloesi.

Beth glywson ni a beth ddysgon ni

Ar draws y gwaith wnaethon ni, fe gawson ni fod y model rhesymeg ei hun yn gadarn yn wyneb craffu.   Nid oedd llawer yn gwyro, a phan fu pobl yn ein herio, roedd cysylltiad agosach rhwng hynny a’r gweithgareddau gallech chi eu gwneud a’r gwerthoedd a’r dulliau y byddech yn eu defnyddio, yn hytrach na’r canlyniadau trosfwaol a fynegwyd uchod.  

Pan ofynnwyd i bobl a oedden nhw’n teimlo bod angen arloesi neu beidio ym mhob un o’r pum maes yma, ein rhagdybiaeth oedd y byddem yn gweld bod angen mwy o sylw ar un neu ddau faes na’r lleill, fel bod gennym ni fan cychwyn ar gyfer gwaith pellach a dylunio’r rhaglen.   Doedd hynny ddim yn wir.   Dangosodd rhai meysydd angen rywfaint yn uwch am arloesedd – ariannu a llwybrau er enghraifft – ond nid lefel arwyddocaol uwch i gyfiawnhau ffocws ar gyfer y rhaglen.   At ei gilydd, roedd yr ymateb yn awgrymu bod angen i ni edrych ar y system fel un lle mae angen arloesi, yn hytrach na chefnogi syniadau newydd ynysig a allai roi hwb i rannau unigol.

Beth benderfynon ni

Roedd y diffyg ffocws clir yn golygu bod angen i ni ailwerthuso’r modelau cefnogaeth roedden ni wedi’u rhagweld a mynd yn ôl at yr ystod o ddulliau arloesi sydd ar gael i ni.   Fe benderfynon ni fod angen dull mwy systemig o fynd ati i arloesi – er bod meysydd lle’r ymddengys bod mwy o angen (ariannu a llwybrau), nid yw’r angen yn ddigon gwahanol i rannau eraill o’r model rhesymeg i awgrymu y byddai eu datrys yn creu’r lefel o newid a ddymunir.  

Mae hefyd yn eglur bod angen sicrhau perchnogaeth ar y cyd gan y sectorau celfyddydau a iechyd ar gyfer unrhyw arloesedd, a bod angen naill ai waith pellach neu ddylunio rhaglen ddeallus er mwyn sicrhau bod iechyd yn rhan fwy o’r sgwrs.

I’r diben hwnnw, rydym ni’n archwilio dull canlyniadau pŵer pobl wrth ddylunio’r rhaglen.   Mae hynny’n golygu bod modd i ni ddarparu cefnogaeth fwy systemig ar gyfer arloesedd, gan ganolbwyntio ar ddatrys heriau allweddol yn y system iechyd gyda chaniatâd a chefnogaeth o’r brig i lawr, ochr yn ochr â syniadau a gweithredu o’r gwaelod i fyny.

Roedd yr ymateb yn awgrymu bod angen i ni edrych ar y system fel un lle mae angen arloesi, yn hytrach na chefnogi syniadau newydd ynysig a allai roi hwb i rannau unigol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn ni’n sefydlu rhaglen Canlyniadau Pŵer Pobl  a fydd, yn ystod y ddwy flynedd nesaf, yn cefnogi arloesedd ym maes y celfyddydau a iechyd ym mhob un o’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru.   Rydym am sicrhau bod y system gyfan yn rhan o’r broses – gydag uwch-arweinyddion yn rhoi nawdd a chaniatâd ar gyfer arloesedd, a’r rhai sydd ar lawr gwlad yn gwneud cynnydd cyflym wrth brofi syniadau newydd, rhoi adborth, a gwreiddio’r hyn sy’n gweithio.