27 October 2021
Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad diwrnod cyfan dros Zoom ar gyfer ein prosiectau HARP i rannu eu gwaith. Jessica Clark sy’n esbonio sut y gwnaethom osgoi blinder Zoom a defnyddio creadigrwydd i sicrhau llwyddiant.
Ddeunaw mis i mewn i bandemig byd-eang a threfniadau gweithio o bell, daeth pobl o bob un o’r 13 partneriaeth yn y rhaglen HARP at ei gilydd ar gyfer digwyddiad ar-lein ysbrydoledig ac egnïol.
Digwyddiad chwe awr dros Zoom, i fod yn fanwl gywir.
Rhwng blinder Zoom a rhestr westai o 40+, roedd y tîm HARP yn poeni i ddechrau am sut y byddem yn cyflwyno digwyddiad ysbrydoledig, difyr – a meiddiaf ddweud hwyl – ar-lein. Ond drwy ddefnyddio nifer o’n dulliau a bwerwyd gan HARP a phobl (a chynllunio gofalus), dwi’n credu ein bod wedi llwyddo…
Roedd y digwyddiad hwn yn nodi pwynt hanner ffordd y rhaglen ac roeddem am i dimau fyfyrio ar y llwyddiannau a’r heriau o ddefnyddio’r celfyddydau i fynd i’r afael â heriau iechyd yn ystod pandemig yn ogystal â phlymio’n ddyfnach i rai o’r elfennau cyffredin ar draws y partneriaethau.
I ddechrau, cawsom ‘Ddisgo Emoji’ wrth i bobl gyrraedd; roedd hyn yn ffordd hwyl o groesawu mynychwyr ac yn helpu cyfranogwyr i ymgyfarwyddo’n gyflym ag ymatebion Zoom, sef un o’r dulliau cyfathrebu a anogwyd gennym (yn enwedig gan fod gan Zoom lyfrgell gyfan o ‘ymatebion’ erbyn hyn). Yn hytrach na gwaith cadw tŷ arferol Zoom, gofynnwyd i fynychwyr ‘Fod yn Weladwy’ drwy gadw eu camerâu ymlaen, i ‘Gymryd Rhan’ drwy ddefnyddio’r swyddogaeth sgwrsio (ac emojis) i rannu meddyliau, sylwadau a chwestiynau, i ‘Greu Lle i Eraill’ drwy wrando’n astud (mwy am hynny isod), i ‘Fod yn Gyfforddus’ ac i ‘Siarad Cymraeg!’ (roedd gennym gyfieithydd Cymraeg-Saesneg yn y digwyddiad). Gwaeth y cyfarwyddiadau hyn helpu mynychwyr i wneud y gorau o’u hamser a gwneud ein gweledigaeth – o gynnal digwyddiad difyr ar-lein – yn realiti.
Er mwyn helpu i ‘Greu Lle i Eraill’, roeddem wir eisiau i gyfranogwyr ddangos sgiliau gwrando gweithredol. Credwn mai empathi yw enaid gwrando gweithredol, ac erbyn diwedd y digwyddiad, cawsom i gyd gyfle i roi ein hunain yn esgidiau rhywun arall a gweld y byd o safbwynt arall. Er mwyn hwyluso’r daith hon, gofynnwyd i fynychwyr gymryd nodiadau ar yr hyn roedden nhw’n ei glywed drwy’r dydd; fe’u gwahoddwyd i weld y byd yn wahanol, i deimlo rhywbeth, i wella eu dealltwriaeth o fater ac i sbarduno eu chwilfrydedd a gwneud iddynt feddwl. Gofynnwyd yn fwriadol i fynychwyr wneud y gweithgaredd hwn gyda phen a phapur, er mwyn peidio â’u llethu â llwyfan digidol arall. Hefyd, mae rhywbeth heddychlon iawn am nodi eich syniadau ar bapur, yn enwedig yng nghanol gweithgareddau Zoom a phroblemau WiFi.
Felly pa fath o daith aethom ni arni?
Cafodd pob tîm foment ‘Arddangos’ i rannu eu prosiectau, gyda llawer o straeon am effeithiau sydd wedi newid bywyd ac allbynnau creadigol symudol yn cael eu cyflwyno drwy ddulliau ‘o bell’. Er mwyn helpu i ddod â’r prosiectau’n fyw, rhannodd y timau gymysgedd o gynnwys fideo, gwaith celf, barddoniaeth, straeon a dyfyniadau, a lansiwyd arddangosfa ar-lein hyd yn oed.
Trefnwyd yr ‘Arddangosfeydd’ drwy gydol y dydd, a greodd fyrlymau byr o egni a rhoi llais i’r bobl a’r sefydliadau y mae prosiectau HARP yn gweithio’n uniongyrchol gyda nhw;roedd y rhain yn eiliadau cyffredin o ysbrydoliaeth, edmygedd, tristwch a llawenydd.
Yn ein heitem ‘Sbotolau’ cawsom rai trafodaethau egnïol ar yr hyn sy’n creu llwyddiant mewn gwahanol feysydd (Tystiolaeth, Llwybrau, Gwerth, Cyflenwi, Ariannu), yn ogystal â’r heriau o raddio a chynnal y gwaith hwn, a pha gwestiynau y byddem yn eu gofyn i academyddion, llunwyr polisi ac arweinwyr iechyd pe baent yn yr ystafell. Roedd trefnu pwyntiau trafod penodol, hwylusydd a chofnodwr yn golygu bod amser i bawb ym mhob ystafell gael clywed eu llais heb fynd dros amser (pwysig iawn!).
[Arddangosfeydd] a greodd fyrlymau byr o egni a rhoi llais i’r bobl a’r sefydliadau y mae prosiectau HARP yn gweithio’n uniongyrchol gyda nhw;roedd y rhain yn eiliadau cyffredin o ysbrydoliaeth, edmygedd, tristwch a llawenydd.
Byddwn yn defnyddio’r cwestiynau a’r awgrymiadau hyn, a myfyrdodau’r timau ar yr hyn sy’n gweithio’n dda/ddim cystal, i lunio ein Grwpiau Dysgu HARP yn y dyfodol (gweler ein cyfnodolion HARP am fwy o wybodaeth). Roedd y ‘Sbotolau’ yn gyfle i edrych o dan yr wyneb, a byddwn yn parhau i blymio’n ddyfnach dros y misoedd nesaf.
Roedd seibiannau’n hanfodol ar gyfer digwyddiad mor hir. Fe wnaethom drefnu seibiannau corfforol o’r digwyddiad a gweithgareddau lle gellid diffodd y camera. Ond dwi’n credu mai hoff ‘saib’ pawb oedd y sesiwn symud creadigol dan arweiniad un o gyfranogwyr HARP. Aeth Amanda (o Impelo, sef un o brosiectau HARP) â ni drwy sesiwn symud 15 munud ar ôl i ni ddychwelyd o ginio. Hon oedd y ffordd berffaith o ailffocysu a sicrhau bod pawb wedi symud o gwmpas (nid dim ond treulio’r egwyl ginio yn dal i fyny ar e-byst). Mae Impelo yn elusen ddawns gymunedol yng nghanolbarth Cymru ac roedd yn wych gallu cynnwys arbenigedd a chreadigrwydd o un o’r prosiectau, i bawb ei brofi a’i fwynhau – a gwnaeth yn bendant ein helpu i ganolbwyntio a pharatoi ar gyfer gweddill y prynhawn.
Ond dwi’n credu mai hoff ‘saib’ pawb oedd y sesiwn symud creadigol dan arweiniad un o gyfranogwyr HARP. Aeth Amanda (o Impelo, sef un o brosiectau HARP) â ni drwy sesiwn symud 15 munud ar ôl i ni ddychwelyd o ginio.
Mae cydweithrediad a phŵer pobl yn gonglfaen i HARP, ac roeddem yn sicr yn teimlo hynny ar y diwrnod! Edrychwn ymlaen at rannu mwy o allbynnau creadigol a dysgu o’n prosiectau HARP dros y misoedd nesaf. Diolch i’n partneriaid yn WAHWN, Cyngor Celfyddydau Cymru, Nesta a Phrifysgol Caerdydd am gefnogi’r diwrnod.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad rhannu hanner ffordd gwych. Gwnaethoch strwythuro digwyddiad a ymgysylltodd ein cyfranogwyr yn llwyr am ddiwrnod cyfan, ac roedd lle a chyfleoedd i rannu cymaint o ddysgu a dyheadau a gobeithion ar gyfer y dyfodol… Dwi wedi fy ysbrydoli a’m bywiogi!”