Tryloywder mewn ariannu arloesedd: Beth yw’r rhwystrau anweledig sy’n wynebu menywod?

25 October 2019

A yw arianwyr yn cyrraedd cynifer o arloeswyr â phosibl i roi cyhoeddusrwydd i’w rhaglenni? Beth yw’r rhwystrau sy’n wynebu menywod efallai na fyddwn yn gallu eu gweld? Mae’r Cydymaith Ymchwil, Rob Callaghan, yn ymchwilio i ble a pham mae’r rhwystrau hyn yn ymddangos.

Rydyn ni’n cynnal rhaglenni ariannu yma yn Labordy Y ers pedair blynedd, gan wahodd y rhai a hoffai ddatblygu prosiectau arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus i gyflwyno ceisiadau. Ar ôl peth amser, gwelais yn y data y gallai fod rhai patrymau ynghylch rhywedd. Yn rhan o’n rhagofalon, llunion ni arbrawf syml ar gyfer cyfweld y rhai oedd yn gofyn am y grantiau i geisio osgoi anffafrio yn ôl rhywedd.

Roedd y cynnig cyntaf yn un diddorol ond anghyflawn. Rwyf i wedi ymddiddori yn y maes hwn ers hynny ac ymwelais â phrif swyddfa Nesta yn Llundain ddydd Iau diwethaf i sefydlu prosiect ehangach i archwilio eu data mewnol.

Mae diddordeb gyda fi ynghylch sut mae ffynonellau grantiau megis Nesta yn cyhoeddi eu rhaglenni ariannu ac yn penderfynu pa dimau, unigolion a syniadau y byddan nhw’n eu helpu. Yn yr achos hwn, bydda i’n parhau i ystyried y pwnc o safbwynt rhywedd, er mai data ehangach o lawer fydd o dan sylw: tanysgrifwyr cylchlythyrau, cynadleddwyr ac ymgeiswyr. Hoffen ni weld a ydyn nhw’n ceisio cyrraedd cynifer o bobl ddawnus ag y bo modd. At hynny, ar ôl iddyn nhw gysylltu â phobl sydd wedi dyfeisio syniadau da, fydd y merched yn eu plith yn wynebu meini tramgwydd nad yw dynion na threfnwyr y rhaglenni yn eu gweld?

Ledled y byd, mae sefydliadau ariannu yn gwneud yr un peth: rhannu eu data a’u defnyddio i wella eu gwaith:

  • Ym maes cymorth datblygu rhyngwladol, mae Publish What You Fund yn cadw golwg ar dryloywder ers bron 10 mlynedd. Yn ôl adroddiad diweddaraf y mudiad hwnnw, mae llywodraethau cenedlaethol a sefydliadau rhyngwladol yn cyhoeddi mwy o ddata nag erioed ynghylch pwy sy’n ariannu prosiectau ac achosion a faint maen nhw’n ei roi. Mae dros 1,000 o sefydliadau yn cyhoeddi data am eu grantiau yn ôl Safon Menter Tryloywder Cymorth Rhyngwladol (IATI) bellach.
  • Mae mwy a mwy o arianwyr gwyddoniaeth yn mynnu i ymchwilwyr gyhoeddi’r setiau data maen nhw wedi talu amdanynt, ac mae hynny wedi taflu goleuni ar eu gweithgareddau. Mae un o arianwyr gwyddonol mwya’r byd, Wellcome, yn dangos ei grantiau yn y flwyddyn o dan sylw (ac yn ôl i 2013 mewn rhai achosion) trwy nodwedd o’r enw ‘tableau’. Mae sefydliadau tebyg megis Science Foundation Ireland wedi’u hannog i wneud yr un fath.
  • Yn y deyrnas hon, mae 360Giving wedi rhestru dros 100 o ffynonellau grantiau sydd wedi cyhoeddi data ynghylch grantiau gwerth bron £30 biliwn. Mae’r mudiad wedi llunio safon syml i gymharu data gwahanol arianwyr.

Yn y deyrnas hon, mae 360Giving wedi rhestru dros 100 o ffynonellau grantiau sydd wedi cyhoeddi data ynghylch grantiau gwerth bron £30 biliwn. Mae’r mudiad wedi llunio safon syml i gymharu data gwahanol arianwyr.

Does dim angen i arianwyr fynd mor bell â hynny. Rwy’n bwriadu diogelu’r data y bydda i’n eu dadansoddi ar ran Nesta trwy gyfrinair fy nghyfrifiadur yn y Brifysgol. Mae’n dda gyda fi fod Nesta yn gweld manteision rhoi ei ddata i ymchwiliwr allanol. Dylai sefydliadau sydd heb gyhoeddi unrhyw ddata mewnol eto ystyried gwneud hynny o ddifrif. Mae Nesta yn cyhoeddi ei holl ddata am grantiau trwy 360Giving (yn sgîl helpu i sefydlu’r mudiad) ond dydy safon 360Giving ddim yn cynnwys y math o wybodaeth rwy’n bwriadu ei hastudio ynghylch unigolion sy’n derbyn grantiau.

Mae sefydliadau’n tueddu i roi amryw resymau dros fod yn fwy tryloyw, a’r rhan fwyaf yn ymwneud ag effeithiolrwydd a dilysrwydd. Mae ymddiriedolwyr elusennau neu weision sifil sy’n gweinyddu grantiau gwladol am i gyllidebau fod mor effeithiol ag y bo modd. Gallai data cyfredol eu helpu i wneud hynny. At hynny, maen nhw’n deall y gallai proses llunio ceisiadau fod yn faich enfawr ar bobl a ddylai fod yn canolbwyntio ar helpu eu cymunedau. Gall tryloywder am faint o bobl sy’n ennill grantiau a pha syniadau sy’n tueddu i fod yn llwyddiannus helpu darpar ymgeiswyr i ddod i benderfyniadau doeth ynghylch rhoi o’u hamser.

Er bod arianwyr wedi cyhoeddi astudiaethau achos neu restrau blynyddol o’r rhai dderbyniodd eu grantiau, gallai ymddangos yn annigonol cyn bo hir. Mae safonau cyhoeddi’n codi disgwyliadau o ran atebolrwydd trwy fynnu data cyson, cyflawn a chymaradwy y gall peiriannau eu darllen. Er na fydd agwedd agored yn gwarantu hyder y cyhoedd o reidrwydd, gall diffyg tryloywder niweidio enw da sefydliad ac all y perygl hwnnw ddim ond cynyddu dros amser. Nid dim ond i arian gwladol mae’n berthnasol chwaith – gan fod hyder yn elusennau’r deyrnas hon wedi gostwng, gallan nhw weld pwysigrwydd trwydded gymdeithasol i weithredu.

Mae safonau cyhoeddi’n codi disgwyliadau o ran atebolrwydd trwy fynnu data cyson, cyflawn a chymaradwy y gall peiriannau eu darllen. 

Felly, sut mae hi yng Nghymru? Mae pob adran wladol a chorff cyhoeddus sy’n rhoi data am grantiau yn ôl rhestr 360Giving yn perthyn i San Steffan neu Loegr. Mae 10 awdurdod lleol ar y rhestr – pob un naill ai yn Lloegr neu’r Alban. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru heb fod ymhlith y 15 sefydliad cymunedol lleol sydd ar y rhestr (yn Lloegr y mae pob un o’r rheiny). Dyw Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddim ar y rhestr chwaith, na’r corff cyfatebol yn Lloegr; dim ond Cyngor Sefydliadau Gwirfoddol yr Alban sydd yno.

Dyw hynny ddim yn golygu nad yw sefydliadau o’r fath yn casglu ac yn dadansoddi data i wella eu ffyrdd o ddyrannu grantiau. Mae absenoldeb unrhyw sefydliadau sy’n perthyn i Gymru yn amlwg, fodd bynnag. Dim ond £30,000 y flwyddyn y bydd y sefydliad lleiaf ar y rhestr yn eu dyrannu ac, felly, nid pa mor fawr ydyn nhw yw’r brif ystyriaeth. Mae lle i sefydliad yng Nghymru fod yn esiampl i’w hefelychu. Hoffwn i weld corff cyhoeddus, ariannwr ymchwil, elusen, sefydliad ymbarél neu ddyngarwr yng Nghymru yn ateb yr her. Gallai’r cam cyntaf fod yn brosiect bychan megis yr un rwy’n ei gynnal ar y cyd â Nesta.

Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi yw faint o gymorth y gall arianwyr ei roi ar gyfer y syniadau gorau, ni waeth pwy sydd wedi’u dyfeisio. Yn achos Nesta, rydyn ni wedi penderfynu canolbwyntio ar rywedd. Efallai y byddai ariannwr lleol am ganolbwyntio ar rywbeth arall, fodd bynnag. Gallai patrwm daearyddol yr ymgeiswyr fod o ddiddordeb, er enghraifft, yn arbennig yng ngoleuni adroddiad Sefydliad Young am effeithiau posibl diffyg ariannu. O’i gwneud yn briodol, gallai helpu sefydliad i fod yn fwy effeithiol o ran dyrannu grantiau.