Wobrau Amrywiaeth Ystyriol o Ddementia 2021

7 Mai 2021

Eleni, lansiodd Cymdeithas Alzheimer Cymru Wobrau Amrywiaeth Ystyriol o Ddementia 2021 (Cymru) a chyhoeddwyd yr enillydd yn eu cynhadledd flynyddol a gynhaliwyd ar 17-18 Mawrth.

Roedd y wobr Amrywiaeth mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru yn ceisio canfod unigolyn a chymuned/grŵp neu sefydliad sydd wedi darparu gwasanaeth/gweithred ystyriol o ddementia i grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol/cymuned amrywiol yn ystod pandemig Covid-19. Yn benodol roedden nhw’n edrych ar sut roedd cysylltiadau uniongyrchol gyda’r gymuned wedi’u ceisio a sut y defnyddiwyd unrhyw ddealltwriaeth a gafwyd i addasu eu hymagwedd er budd y gymuned honno.
 

Enillydd y wobr unigol eleni oedd Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil yn Y Lab, Prifysgol Caerdydd.
 

Cyn ymuno ag Y Lab, roedd Sofia’n cynnal ymchwil ar brofiadau o ofal dementia yn yr ysbyty mewn prosiect a gyllidwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd. Roedd wedi nodi bod pobl â dementia o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn absennol o weithgareddau ymchwil ac ymgysylltu â dementia’r brifysgol a chysylltodd ag elusennau a chyllidwyr i wyrdroi’r duedd hon. Datblygodd brosiect Dementia ac Amrywiaeth a sicrhaodd grant o £45,000 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gan weithio gydag aelodau o Gymdeithas Alzheimer Cymru, Diverse CymruWomen Connect FirstCymdeithas Byddar PrydainPride Cymrua Nubian Life i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl, eu hoffterau ymgysylltu a datblygu offer cyfathrebu priodol yn defnyddio’r celfyddydau.

Yn ystod 2020, denodd Sofia gyfranogwyr o grwpiau lleiafrifol a heb gynrychiolaeth ddigonol mewn perthynas ag ethnigrwydd ac iaith (pobl o dreftadaeth Bengali, Somalïaidd, Groeg neu Affro-caribïaidd a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf), rhywioldeb (pobl sy’n nodi eu bod yn lesbaidd neu’n hoyw) ac anabledd (pobl sy’n ddefnyddwyr byddar BSL, sydd â cholled clyw neu nam ar eu golwg ac â syndrom Down). Nod y prosiect oedd dod ag unrhyw broblemau ynghylch gwahaniaethu o fewn y garfan fach iawn hon o gleifion a gofalwyr i sylw addysgwyr, darparwyr gofal iechyd, llunwyr polisïau, a’r cyhoedd. Roedd yr ymchwil yn cyfosod yr elfennau tebyg a’r gwahaniaethau ym mhrofiadau cyfranogwyr ar draws y tair ffrwd cydraddoldeb hyn a defnyddiwyd y canfyddiadau i ddatblygu perfformiadau theatrig oedd yn cyfleu elfennau anodd o ofal dementia mewn ffordd sensitif a pharchus yn ôl i gynulleidfaoedd ehangach.


Roedd angen sylw arbennig i fanylion a sensitifrwydd wrth weithio ym maes cydraddoldeb mewn gofal dementia. Cynigiwyd sawl ffordd wahanol (preifat, cyhoeddus, llafar, ysgrifenedig a chreadigol) i gyfranogwyr rannu eu profiadau byw. Roedd y gofod ymgysylltu hyblyg hwn yn caniatáu i’r cyfranogwyr fod yn gyfrifol am eu naratif (poenus yn aml) a rheoli sut i’w rannu.
 

Datblygwyd tri pherfformiad theatrig ar y cyd â’r bobl â phrofiadau byw a gyfrannodd yn weithredol at ddatblygu’r sgript. Mae Next of Kin yn trafod yr ystyriaethau a godwyd gan y gymuned F/fyddar, mae More Time yn trafod yr ystyriaethau a godwyd gan y gymuned BAME a gweithwyr gofal iechyd BAME ac mae Back in the Closet yn trafod yr ystyriaethau a godwyd gan y gymuned HLDT. Nod y ffilmiau byr yw gwella darpariaeth gwasanaeth gofal dementia drwy’r celfyddydau fel teclyn cyfathrebu. Mae eu defnydd yn cael ei dreialu mewn addysg gofal dementia mewn llawer o ymddiriedolaethau iechyd gwahanol yn Lloegr a byrddau iechyd yng Nghymru yn ogystal â phrifysgolion sy’n cyflwyno modiwlau gofal dementia meddygol a nyrsio ar draws y DU.