Cadw Cymru’n Ddiogel

Mae Rhaglen Cadw Cymru’n Ddiogel: Ymddygiadau Covid yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar archwilio sut i ymgorffori dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gyd-ddylunio a phrofi, rhain yn defnyddio dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar ymddygiad yn sail iddynt, a hynny at ddibenion archwilio heriau cymhleth sy’n seiliedig ar leoedd.

Gweithiodd y tîm ymchwil yn Y Lab, mewn partneriaeth â Thîm Deall Ymddygiadau (BIT) a’r tîm Canlyniadau Pŵer Pobl (PPR) yn Nesta, gydag amrywiaeth o weision cyhoeddus yng Nghymru i archwilio sut y gellir eu cefnogi i fabwysiadu dull deall ymddygiadau o lunio polisïau a’u gweithredu.

Yn y cam cyntaf, cefnogodd y partneriaid cyflawni dri thîm seiliedig ar leoedd i ddefnyddio dulliau’n ymwneud ag ymddygiad, mewn cysylltiad â Covid-19 yn ogystal â chynnal treial cenedlaethol. Yn yr ail gam, fe wnaethon ni archwilio’r hyn a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer defnyddio’r dull mewn meysydd polisi eraill, gan gefnogi dau dîm lleol a chwblhau ymchwil gyda gweision sifil. Yn y dudalen hon ceir dolenni at allbynnau o ddau gam y rhaglen.

Cam Un:

Yn 2021, cynhaliodd Y Lab adolygiad o dystiolaeth yn ymwneud â hunan-ynysu ac ymddygiadau peryglus. Fe’i cynlluniwyd i helpu i roi her y timau seiliedig ar leoedd yn ei chyd-destun ac i lywio dull gweithredu cyffredinol y rhaglen.

Blog ynghylch Adolygiad o Dystiolaeth Y Lab

Adolygiad o Dystiolaeth Y Lab

Arweiniodd PPR waith gyda thri thîm seiliedig ar leoedd gyda’r nod o gyd-ddylunio a phrofi ymyriadau i gynyddu ymddygiadau Covid-diogel yn ymwneud â hunan-ynysu a lliniaru risg. Buom yn gweithio gyda thimau ym Mhowys, Gwent a Chwm Taf Morgannwg. Mae eu hadroddiad ar y gweithgaredd hwnnw, a’r cam cyntaf yn ei gyfanrwydd gan gynnwys treial cenedlaethol BIT, ar gael yma:

People Powered Results Ymddygiadau Covid

Cam Dau

Gofynnwyd i Y Lab archwilio rôl bosibl gwyddor ymddygiadol ym mholisïau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru y tu hwnt i Covid-19. Cynhaliom astudiaeth ymchwil ar raddfa fach o ran y cyfleoedd a’r rhwystrau canfyddiedig yn ymwneud â mabwysiadu’r dull yn ehangach ymhlith gweision sifil.

Y Lab Cam Dau

Bu PPR yn gweithio gyda dau dîm seiliedig ar leoedd, ym Mhowys a Rhondda Cynon Taf, i weld sut y gellid cymhwyso’r dull hwn yn lleol i’w defnyddio mewn cysylltiad â materion nad ydynt yn ymwneud â Covid. Canolbwyntiodd y timau ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned leol a gwella diogelwch cymunedol yn Sioe Frenhinol Cymru.

People Powered Results Cam Dau