Croeso i Ddyddlyfr HARP! Yma byddwn yn rhannu newyddion a dysgu sy’n ymddangos o raglen ‘HARP’ (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl) bob mis yn ystod 2021-22.
Mehefin 2021
HARP ar waith!
Mae’n wych bellach bod yng nghyfnod ‘cyflwyno’ y rhaglen, ar ôl treulio llawer o’r llynedd yn ail-lunio HARP yn sgil y pandemig, prosesu ceisiadau a phrofi sut y gallen ni gefnogi arloesedd yn y celfyddydau ac iechyd trwy Sbrint HARP.
Bellach mae gennym ni 13 tîm o bartneriaid celfyddydau ac iechyd yn gweithio gyda ni i egino, tyfu a chynnal amrywiaeth eang o brosiectau creadigol i gefnogi iechyd a lles pobl yng Nghymru. Cyhoeddon ni’r partneriaid a’r lleoedd hyn ar 16 Mawrth.
Yn HARP rydyn ni’n gweithio mewn dwy ffrwd. Y gyntaf yw Egin, lle’r ydyn ni’n creu partneriaethau rhwng lleoedd iechyd ac artistiaid i brofi datrysiadau newydd creadigol i dair her iechyd allweddol – lles staff gofal, cefnogi gweithwyr GIG Du i ddweud eu stori, a lleihau stigma a thrawma i oroeswyr trais rhywiol yng Nghymru wledig. Rydyn ni ar fin dechrau ar y profi ac yn methu aros i weld sut aiff hi! Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda thimau i sicrhau cyfranogiad timau data, noddwyr a phobl â phrofiad bywyd i’w helpu i ddatblygu arloesiadau gwell y bydd modd eu hymgorffori mewn systemau iechyd.
Mae Porthi’n ymdrech yn y tymor hirach, gyda 10 prosiect arloesol ledled Cymru’n derbyn grantiau, coetsio a chymorth dysgu gan dîm HARP rhwng hyn a mis Mawrth 2022. Yma, mae’r ffocws ar raddio a chynnal eu harloesi, felly rydyn ni’n ffurfio grwpiau dysgu ar bum pwnc allweddol rydyn ni’n teimlo bod angen gwybod mwy amdanyn nhw er mwyn i brosiectau celfyddydau ac iechyd gael eu hymgorffori mewn systemau iechyd: tystiolaeth, llwybrau atgyfeirio, meithrin cyd-ddealltwriaeth o werth a chyllid. Bob mis yn y Cyfnodolyn hwn byddwn yn canolbwyntio ar un o’r pynciau hyn ac yn rhannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu, gan ddechrau gyda thystiolaeth!
Sylw i Brosiect – Impelo
Elusen dawns gymunedol yn y canolbarth yw ‘Impelo’.
Mae dawns yn wych ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol yn gyffredinol, ond mae Impelo bellach yn symud at waith wedi’i dargedu sy’n mynd i’r afael â chyflyrau penodol – dementia, pwysedd gwaed uchel, canser, ac ati – ac effaith hyn yw bod pobl yn byw bywydau iachach, mwy cysylltiedig. Mae’r newid ffocws hwn yn golygu llywio perthnasoedd mwy dwys gyda chyfranogwyr a pherthnasoedd mwy cymhleth gyda phartneriaid iechyd, sydd hefyd yn gofyn am well tystiolaeth o effaith gan Impelo. Mae natur wledig Powys, lle mae 35% o’r boblogaeth dros 65, hefyd yn golygu bod angen arloesi.
Yn ystod gwanwyn 2020 ymunodd Amanda o Impelo â phrosiect Sbrint HARP, prosiect arloesi peilot bach a ddaeth â 12 o ymarferwyr celfyddydau ac iechyd ynghyd i weld beth y gallen ni ei ddysgu am gefnogi iechyd pobl yn ystod y pandemig drwy brofi arloesiadau newydd fel tîm. Aeth tîm Amanda ati i redeg sesiynau dawns ar Zoom gyda phreswylwyr cartrefi gofal a’u teuluoedd. Dysgodd hyn lawer iddyn nhw am weithio mewn lleoliadau gofal, yn ogystal â helpu cartrefi gofal i ddefnyddio technolegau i sicrhau cyswllt gyda theuluoedd.
Roedd y teulu mor hapus i gymryd rhan gan ddweud bod y dawnsio’n golygu bod ansawdd y galwadau fideo gyda Nan lawer yn well na’r galwadau ‘sut ydych chi’ chwithig arferol. Y budd i Nan yw ei bod yn gryfach yn feddyliol ac yn gorfforol, felly mae’n ymdopi’n well â bod ar ei phen ei hun, mewn amgylchedd â risg Covid uchel.
Adeiladodd Impelo ar y gwaith hwn drwy ddatblygu ‘Joio’, rhaglen ddawnsio ar-lein i wella symudedd a lleihau cwympiadau ymhlith yr henoed â nam gwybyddol. Rydyn ni mor falch fod Joio bellach yng ngharfan Porthi HARP yn canolbwyntio ar raddio a chynnal Joio i gyrraedd cynifer o bobl â phosib
Pwyntiau dysgu y mis hwn: Tystiolaeth
Mae adeiladu’r sylfaen o dystiolaeth o gwmpas arloesiadau celfyddydau ac iechyd i helpu i’w graddio a’u hymgorffori yn her gymhleth. Trwy ein cyfarfodydd cychwynnol gyda thimau Porthi ac Egin HARP, a’n sesiwn grŵp dysgu cyntaf ar 28 Ebrill, rydyn ni eisoes yn gweld y themâu a’r heriau canlynol yn dod i’r amlwg o gylch y pwnc hwn:
Canolbwyntio ar ba effeithiau i’w mesur heb fynd yn rhy gul: Mae llawer o ganlyniadau a buddion posibl gan brosiectau celfyddydau ac iechyd, nid i’r cyfranogwyr yn unig, ond hefyd i flaenoriaethau strategol cyrff iechyd. Dyw arloesiadau celfyddydau ac iechyd bach ddim yn gallu mesur pob canlyniad posibl yn ystyrlon, ond dydyn nhw ddim am ‘golli’ dim byd pwysig neu annisgwyl ac mae iaith y systemau iechyd yn gofyn am ymarfer ‘cyfieithu’ anodd i ymarferwyr celfyddydau sy’n cynnal gwerthusiadau. Rydyn ni’n edrych a allai sgwrs ymlaen llaw rhwng cyfranogwyr, timau clinigol, comisiynwyr, rheolwyr prosiectau ac artistiaid, lle maen nhw’n cytuno ar restr gryno o nodau effaith bwriadol, arwain at werthusiadau ystyrlon.
Canfyddiadau cyffredinol vs pwrpasol: mae pob prosiect celfyddydau ac iechyd yn wahanol, gyda set bwrpasol ac unigryw o amgylchiadau – lleoliad penodol, artist a/neu ffurf gelfyddydol benodol, effaith iechyd penodol. Ond wrth werthuso, sut mae hyn yn cyd-fynd â nod ymchwil iechyd sy’n ceisio dod o hyd i ddulliau cyffredinol y mae modd eu defnyddio ar draws pob lleoliad? Rydyn ni o’r farn na allwch chi ‘lusgo a gollwng’ arloesi – mae angen cydbwysedd – felly rydyn ni’n edrych a all dulliau fel meta-ddadansoddi, rhywbeth mae ein cymrawd ymchwil HARP yn bwriadu ei wneud, helpu drwy dynnu themâu cyffredin o nifer o werthusiadau pwrpasol.
Sicrhau nad yw gwerthusiadau’n torri ar draws cyswllt gyda chyfranogwyr: Gall y berthynas gyda chyfranogwyr, yn enwedig ar ddechrau eu hymwneud â phrosiectau celfyddydau ac iechyd, fod yn eithaf bregus. Yn aml mae’r bobl sy’n ymuno â gweithgareddau yn teimlo’n bur nerfus a gall hyn waethygu gyda cheisiadau i gwblhau (er enghraifft) holiaduron sylfaenol. O ganlyniad, mae rhai prosiectau HARP yn meddwl sut i drin y cysyniad o ‘sylfaen’ yn wahanol, felly a allai fod set o ddata sy’n bodoli neu ddull o gasglu data y gellid ei ddefnyddio yn lle holiaduron ymlaen llaw?
Cyllidebu ar gyfer gwerthusiadau a chomisiynu gwerthuswyr: mae cost a phroses comisiynu gwerthusiadau, ac argaeledd gwerthuswyr (yn enwedig siaradwyr Cymraeg) yn rhwystr sy’n peri gofid i lawer o ymarferwyr yma yng Nghymru. Yn HARP Porthi, rydyn ni wedi nodi y dylid gwario o leiaf 10% o’r gyllideb ar werthuso, ond mae hyn yn dal i gyfyngu rhai prosiectau – yn enwedig os ydyn nhw am gael gwerthusiadau academaidd ‘safon aur’. Yn ogystal â’r rhestr o werthuswyr posibl gan ein partneriaid WAHWN, mae gennym ddiddordeb mewn sut y gallai partneriaid iechyd felly ddefnyddio sianeli casglu data ac ymchwil presennol i gefnogi gwerthusiadau gwell. Er enghraifft, mae un tîm sy’n gweithio mewn lleoliad ysbyty yn defnyddio offer a graddfeydd mesur gwelliannau iechyd a lles a ddefnyddir eisoes fel mater o drefn gan y timau clinigol. Mae cefnogaeth arweinyddiaeth mewn lleoliadau iechyd yn hanfodol ar gyfer hyn.
Y tro nesaf byddwn yn edrych ar lwybrau atgyfeirio.
Dolenni Diddorol
- Mae Rhwydwaith Rhwydweithiau Academaidd y Gwyddorau Iechyd (ydy,mae’n rwydwaith o rwydweithiau!) wedi cyhoeddi adroddiad manwl a diddorol ar fabwysiadu a lledaenu datblygiadau arloesol.
- Cynhelir y gynhadledd ddigidol Ryngwladol Diwylliant, Iechyd a Lles ar 21-23 Mehefin 2021.
- Mae Cynghrair Lles Cymru’n cynnal cyfarfodydd misol ac yn awyddus i bobl rannu sut maen nhw’n cyfrannu at Economi Les yng Nghymru.
Ariennir HARP gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r Loteri Genedlaethol. Fe’i cyflenwir gan Y Lab, partneriaeth rhwng Nesta a Phrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru.