Dyddlyfr HARP: Tachwedd 2021

Croeso i Ddyddlyfr HARP!  Rydyn ni yma i rannu’r newyddion a’r gwersi a ddysgwn o raglen ‘HARP’ (Iechyd, Celf, Ymchwil, Pobl) bob mis yn ystod 2021-22. Thema’r mis hwn ydy Cyflawni.

Y diweddaraf am y Rhaglen: Nôl i’r Ysgol

Mae’r hydref yn teimlo fel amser i ailgysylltu, ac felly mae hi yma yn HARP hefyd. Mae llawer ohonom wedi bod yn mwynhau codi allan ychydig mwy ar ôl y cyfnod clo, gan gyfarfod pobl wyneb yn wyneb a mwynhau heulwen yr hydref ambell dro. Ond dydy Covid-19 yn bendant heb ddiflannu, ac yma yn HARP mae gan ein timau lawer i’w wneud wrth iddynt ystyried sut i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd cynyddol a geir drwy gysylltiadau wyneb yn wyneb, gan leihau’r risg ar yr un pryd a sicrhau hygyrchedd parhaus i bobl sydd dim ond yn gallu ymgysylltu ar-lein.

Ym mis Medi fe wnaethom ailgydio yn grwpiau dysgu rhaglen Borthi HARP ar-lein unwaith bob wythnos, i drafod ein pum ‘pwnc dysgu’ allweddol (tystiolaeth, llwybrau cyfeirio, cyflawni, meithrin cyd-ddealltwriaeth o werth a chyllid). Rydyn ni’n dal i weld effeithiau’r pandemig ar bob un o’r rhain – ac mae llu o heriau a chyfleoedd i’w cael. Rydym yn falch dros ben o allu’r tîm i feithrin a chynnal partneriaethau newydd rhwng y maes iechyd a phartneriaid celf.  Er enghraifft, mae’r prosiect a arweinir gan Theatr Genedlaethol Cymru yn awr yn ymchwilio i gydweithio gyda phartneriaid newydd megis  Shelter Cymru er mwyn ehangu ar y grwpiau sy’n ymwneud â phrosiect  creadigol ‘Ar Y Dibyn’. Sefydlwyd y gweithdai creadigol hyn yn wreiddiol i bobl  â dibyniaeth  sylweddau, ond y bwriad nawr yw  eu hymestyn i helpu menywod sy’n dioddef digartrefedd a thrais domestig (gweler Dan y Chwyddwydr isod i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn). Rydym ni yma yn HARP nawr yn  meddwl sut allwn ni gyfuno’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu a’i brofi yn y grwpiau hyn a rhannu hynny’n ehangach, yn ogystal ag annog ein timau i ddechrau canolbwyntio ar yr hyn y gallant ei reoli a’i brofi, mewn byd lle mae cymaint o bethau o hyd lle na allant wneud hynny.   

Yn Egin HARP, mae’r timau wedi gwneud gwaith gwych dros y ddeufis diwethaf. Mae ein tîm Llwybrau Newydd, a welwyd yn rhifyn mis Gorffennaf, yn awr wedi lansio ei arddangosfa ‘Negeseuon o Obaith’ ar-lein, sy’n arddangos gwaith celf gan bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol. Mae’r tîm yn awr ar ganol yr ymgyrch i rannu’r wefan yn eang, gan eu helpu i gyrraedd mwy o bobl sy’n dioddef oherwydd treisio a cham-drin rhywiol, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru. Mae ein tîm Egin yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC ) yn awr wedi casglu a chofnodi 10 stori gan weithwyr Du y GIG mewn llyfr sain a gaiff ei gyhoeddi fis nesaf.  Mae’r storïau yn hynod bwerus ac rydyn ni’n helpu AaGIC yn awr i feddwl gyda phwy y dylem eu rhannu, a sut, er mwyn sicrhau bod profiadau byw gweithwyr Du yn y GIG yn cael lle canolog nid yn unig yn eu gwaith cynhwysiant, ond ar draws rhagor o feysydd datblygu’r gweithlu yn y GIG.  Mae bod ochr yn ochr â’r datblygiadau arloesol hyn o’r dechrau wedi dysgu cymaint inni am sut gall partneriaid iechyd feithrin eu gallu i weithio ag artistiaid a bod yn barod i wynebu heriau a newidiadau yn rhai o’r heriau sydd wedi gwreiddio ddyfnaf yn eu systemau. Nid yw’n hawdd ond mae’n bosibl!

Bob mis yn y Dyddlyfr hwn byddwn yn canolbwyntio ar un o’r pynciau hyn ac yn rhannu’r hyn rydym yn ei ddysgu, Cyflawni ydyw’r mis hwn.

Prosiect dan y Chwyddwydr – ‘Ar Y Dibyn’

Mae ‘’Ar y Dibyn’’ yn brosiect partneriaeth a sefydlwyd cyn cyfnod  pandemig Covid-19, mewn ymateb yn benodol i’r angen am gymorth Cymraeg i bobl sy’n ddibynnol ar sylweddau.

Mae’n bwysig dros ben gallu defnyddio gwasanaethau cymorth yn eich mamiaith, ond mae llawer o gyrff statudol yn eu cael yn anodd cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae byw gyda  dibyniaeth,  oherwydd ei natur, yn golygu ei fod yn rhychwantu ac yn effeithio ar drawstoriad eang o’n gwasanaethau cyhoeddus – iechyd, gofal, tai, y trydydd sector.  Gan weithio drwy gyfuniad o sgyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb , gyda’r Artist Arweiniol, Iola Ynyr ac artistiaid eraill, mae Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru ac Adra (Tai) a Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru  wedi datblygu eu prosiect Egin gydag ystod eang o bartneriaid newydd sy’n cynnwys  Stafell Fyw, Adferiad a North Wales Recovery Communities i enwi ond rhai, er mwyn datblygu prosiect sy’n  cydweithio â phobl ar draws Cymru gyfan.

Caiff y prosiect ei gynnal ar ffurf gweithdai creadigol i ddathlu posibiliadau bywyd, yn hytrach na rhwystrau dibyniaeth. Nod y gweithdai yw hybu creadigrwydd i brosesu profiadau pobl o’r byd. Mae pob gweithdy yn cynnwys tasgau chwareus byr i brocio’r dychymyg a rhyddhau syniadau. Does dim atebion anghywir, dim ond posibiliadau di-ben-draw.  Dywedodd un cyfranogwr: ‘O’dd ofn yn dal ei afael mor dynn yndda i, a ’nes i ddim sôn wrth ’run dyn byw heblaw am fy ngŵr mod i’n mynd i’r gweithdai. Ofn, cywilydd, nerfusrwydd . . . ond erbyn y diwedd ro’n i’n edrych mlaen at ddod i’r sesiwn nesa.. doedd dim “end goal” gen i, o’n i just isio rhoi amser a gofod i fi fy hun wella, bod mewn ystafell efo pobol eraill oedd yr un fath â fi, pobol oedd yn deall, a chael y cyfle a’r gofod a’r caniatâd, mewn ffordd, i fod yn fi fy hun, yn fy iaith fi fy hun.’  Bydd y  tîm yn  datblygu gwaith pwerus, dewr ac uchelgeisiol sy’n dod o’r galon, a dod o hyd i ffyrdd o rannu’r gwaith yn eang  er mwyn ceisio  lleihau’r stigma o amgylch dibyniaeth ac annog pobl i chwilio  am gymorth. 

Mae arbenigwyr iechyd cymwysedig ar gael i roi cyngor yn ystod ac ar ôl pob sesiwn fel bo angen, mae hynny’n rhan bwysig o batrwm y prosiect ac yn adlewyrchu’r gwaith partneriaeth y mae’n seiliedig arno.  Mae myfyrdodau cynnar gan y partneriaid yn dangos pa mor bwysig yw bodolaeth y prosiect; mae partneriaid wedi dweud wrth y tîm bod y prosiect yn helpu’r gwasanaeth iechyd i ddelio â’i restrau aros am gymorth am ddibyniaeth drwy gynnig i bobl rywle i fynd yn y cyfamser, yn ogystal ag yn cau’r bwlch yn y ddarpariaeth Gymraeg. Mae’r partneriaid yn y cymdeithasau tai yn gobeithio y bydd y prosiect yn helpu trigolion i allu cynnal eu tenantiaethau’n well drwy eu rhoi ar ben ffordd at wella o’u dibyniaeth, ac mae’r Bartneriaeth Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru yn helpu i gywreinio’r llwybrau at y prosiect drwy sicrhau bod pobl o’u hasiantaethau yn cael eu cyfeirio’n uniongyrchol i sesiynau ‘Ar Y Dibyn’.

Yr uchelgais  yw y daw ‘Ar Y Dibyn’, drwy’r partneriaethau hyn a phartneriaethau newydd, yn arlwy hirdymor, ymgorfforedig i unrhyw un sydd â dibyniaeth ar sylweddau yng Nghymru.  Mae cymorth a chyllid HARP yn helpu Iola Ynyr i hyfforddi rhagor o artistiaid i gynnal y sesiynau, i feddwl am fodel incwm y proseict a’u gwerthusiad (bu’n amhosibl dod o hyd i siaradwr Cymraeg i werthuso’r prosiect o’r cychwyn cyntaf, felly rydym wedi helpu’r tîm i ddelio â’r gwerthuso yn fewnol) ac i’w helpu i ganfod a chydweithioâ phartneriaid a lleoliadau newydd bob amser. Mae’r tîm hefyd wedi datblygu eu gallu i gynnal y sesiynau’n hyblyg iawn – mae rhai yn gwbl ar-lein, mae rhai yn gwbl wyneb yn wyneb ac mae rhai yn gymysgedd, gyda sesiynau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd tra bod yr artist a chyfranogwyr eraill yn deialu i mewn oar draws Cymru.. Mae hyn yn gwneud y prosiect yn arlwy celf ac iechyd genedlaethol brin, cyfrwng Cymraeg, llwyddiannus sydd â chwmpas, ansawdd ac effaith wirioneddol.

Pwyntiau dysgu y mis hwn: Cyflawni

Un o’n meysydd Pwnc Dysgu, un y mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith fawr arno, fu cyflawni wrth gwrs, a’r hyn a olygwn yw fel y mae datblygiadau arloesol celfyddydol ar gyfer iechyd a llesiant yn cael eu hwyluso gan ymarferwyr a phrofiad cyfranogwyr ohonynt.  Drwy gyfrwng ein gwaith â thimau HARP, rydyn ni’n gweld y themâu a’r heriau canlynol yn codi o safbwynt y pwnc hwn:

Cyflawni yn yr ysbyty neu yn y gymuned: Wrth i’r cyfyngiadau lacio, bu’n bosibl i artistiaid unwaith eto fynd i ysbytai a lleoliadau gofal i wneud gwaith wyneb yn wyneb â chleifion. Caiff hyn ei fonitro’n agos ac mae mynediad artistiaid yn newid o un wythnos i’r llall yn ddibynnol ar yr achosion Covid, ond rydyn ni’n gweld gwaith yn digwydd yn fwy cyson, gan ddod â bywyd a llawenydd i’r hyn a fu’n amgylchedd anodd i gleifion a staff yn y 18 mis diwethaf. Yn rhyfeddol braidd, mae rhai o’n prosiectau HARP yn ei chael yn llawer anoddach dechrau’r sesiynau cymunedol wyneb yn wyneb.  Dywedasant mai un rheswm am hyn oedd oherwydd bod gan leoliad yr ysbyty brosesau lliniaru ac asesu risg Covid eisoes ar waith, ond nad yw lleoliadau cymunedol wedi’u paratoi ar gyfer cadw pellter cymdeithasol, neu heb agor eto, felly mae’n llawer iawn anoddach sicrhau amgylchedd diogel rhag Covid i gyfranogwyr bregus.

Sesiynau celf ac iechyd ‘hybrid’: Bu rhai o’n timau yn arbrofi â’r hyn a adnabyddir yn awr fel cyflawni ‘hybrid’ – lle bo rhai cyfranogwyr yn dod ynghyd mewn ystafell ac eraill yn bresennol drwy gysylltiad ar-lein.  Mae hyn yn galluogi cyfranogwyr i gael mwy o ddewis a grym o ran sut maent yn ymgysylltu â’i gilydd (ac artistiaid), a cheir hefyd fanteision i’r ymarferwyr sydd eisiau agor eu sesiynau i ragor o bobl mewn ardal ehangach.   Mae’r dulliau hyn hefyd yn rhoi lefel o hyblygrwydd a sefydlogrwydd wrth inni barhau i ymgyfarwyddo â chyfyngiadau newidiol.  Wrth gwrs, rhaid i’r artist feithrin sgiliau newydd er mwyn gallu cyrraedd a chynnwys pobl yn gyfartal ar draws y ddau leoliad, ac ar gyfer rhai ffurfiau celf – cerddoriaeth yn arbennig – gall hyn fod yn ddigon anodd. Fodd bynnag, ar gyfer ysgrifennu, dweud storïau a chelf gweledol gall y dull hwn fod yn effeithiol iawn.

Mae cyflawni o bell yma i aros: I bobl na allant symud yn hawdd neu na allant yrru, sydd â nam corfforol neu wybyddol ac sy’n byw yn y wlad heb gysylltiadau trafnidiaeth da, gellir ystyried bod datblygiad cynifer o fodelau cyflawni o bell newydd a gwell ar gyfer gweithgareddau creadigol yn bendant yn beth cadarnhaol. Mae artistiaid a sefydliadau celf wedi buddsoddi mwy o amser nag erioed yn ystod y pandemig hwn yn cyflwyno’r profiadau ar-lein gorau posibl, gan gyrchu cyfarpar newydd a gweithio â thechnolegau creadigol i sicrhau bod elfennau fel sain, onglau camerâu a goleuadau yn gwella’r profiad i gyfranogwyr.  Gwelwyd adfywiad hefyd mewn pecynnau celf drwy’r post, sy’n ffordd syml ond hynod effeithiol o helpu pobl i gymryd y cam cyntaf hwnnw at weithgareddau creadigol yn eu cartref eu hunain drwy ddarparu deunyddiau o ansawdd da ynghyd â thasgau wedi’u creu’n ofalus. Mae’n dal yn anodd recriwtio cyfranogwyr newydd i leoliadau ar-lein, ac mae’n cymryd llawer mwy o amser ac egni i feithrin ymddiriedaeth a chysylltiad yr un fath, yn enwedig i’r bobl fwyaf bregus. Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld y dulliau hyn yn cael eu prif ffrydio; wedi’r cyfan, roedd llawer o bobl wedi’u hynysu o gysylltiad wyneb yn wyneb ymhell cyn pandemig Covid-19, ac fe fyddant yn dal felly i’r dyfodol.

Y tro nesaf byddwn yn edrych ar sut i feithrin cyd-ddealltwriaeth o werth rhwng y sector iechyd a chelf er mwyn cyflwyno’r ddadl dros gymorth hirdymor

Dolenni Diddorol 

  • Creatively Minded: Mae The Baring Foundation wedi rhyddhau adroddiad ar y celfyddydau a darpariaeth iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, a cheir ffocws arbennig ar Gymru, lle mae’r sefydliad yn awr yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ariannu rhagor o waith yn y maes hwn drwy’r saith bwrdd iechyd.
  • Sut mae’n mynd? Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru wedi lansio rhaglen newydd, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r nod o roi cefnogaeth i ymarferwyr sy’n gweithio ym maes celf ac iechyd.
  • Ailgodi’n Gryfach: Roedden ni’n falch o glywed Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn rhannu ei fyfyrdodau ar rôl y celfyddydau yn lleihau anghydraddoldebau iechyd yng nghyfres ddarlithoedd Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru yn ddiweddar. Cafwyd siaradwyr uchel eu proffil yn y darlithoedd a buont yn trafod sut gall Cymru arwain y ffordd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chynnal y datblygiadau arloesol a’r creadigrwydd a welwyd yn y GIG dros y 18 mis diwethaf, ar amser pan mae’n wynebu heriau parhaus aruthrol.

Caiff HARP ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Loteri Genedlaethol. Fe’i cyflawnir gan Nesta ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd), gyda chefnogaeth Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru a Chydffederasiwn y GIG yng Nghymru.