23 Tachwedd 2020
Beth yw’r cyfyngiadau yn y system sy’n golygu nad yw cyllid yn fwy cyfartal? Mae Rob Callaghan yn edrych ar ddata diweddar Nesta i ddeall mwy am bwy sy’n gwneud cais am eu cyllid, a pham mae data’n bwysig.
I’r rhan fwyaf ohonom, os oes gennym syniad da yr ydym am ei wireddu, mae’n rhaid i ni ofyn i rywun arall am arian.
Gallech chi fod yn wyddonydd sydd ag ateb i broblem, yn entrepreneur sydd â syniad busnes, yn elusen sydd â ffordd newydd o helpu neu’n was cyhoeddus sydd â ffordd well o redeg pethau. Mae angen arian ar bob un ohonyn nhw, neu ni aiff eu syniad ymhellach. Mae gan lywodraethau, sefydliadau, dyngarwyr, sefydliadau ariannol a chynghorau ymchwil i gyd brosesau fel bod yr arian y maent yn ei oruchwylio’n cyrraedd y lle cywir.
Mae ymchwil yn dangos, os aiff rhywbeth o’i le, y gallai fod sgil-effeithiau sylweddol. Mae rhywedd yn un man gwan yr ydym yn dechrau ei ddeall. Mae cyllid ymchwil feddygol wedi blaenoriaethu gwyddonwyr gwrywaidd, gan atal ein dealltwriaeth o iechyd menywod. Mae cyfalaf menter wedi ffafrio busnesau a arweinir gan ddynion, ac felly hefyd gyllid menter y llywodraeth, gan ostwng cynhyrchiant ac atal annibyniaeth ariannol menywod. Mae sefydliadau ariannu yn cydnabod yr heriau hyn ac yn ddiweddar, gwelwyd newidiadau cadarnhaol. Mae cyllidwyr ymchwil yn dechrau rhyddhau eu data ac mae asiantaethau menter y wladwriaeth yn newid eu ffordd o gyfathrebu. Serch hynny, rydym yn gwybod llai am elusennau a sefydliadau.
Cefndir y prosiect ymchwil
Rwy’n gweithio ar brosiect gyda Nesta, y sefydliad arloesi, i geisio pennu a yw eu rhaglenni’n dangos unrhyw ragfarn o ran rhywedd. Iddyn nhw, mae sicrhau nad yw rhywedd yn rhwystr i’w cefnogaeth yn bwysig iawn. Maent yn helpu pobl, o’r sectorau cyhoeddus, elusennol a phreifat, i roi cynnig ar ffyrdd newydd o redeg gwasanaethau cyhoeddus. Credant y gall profiad o sut mae gwasanaethau’n methu, fel defnyddiwr neu weithiwr rheng flaen, fod yn allweddol i wneud iddyn nhw weithio’n well. Mae hynny’n golygu timau sy’n cynnwys, neu sydd o leiaf yn gwrando ar, amrywiaeth o bobl. Ac mae’r ymchwil yn dweud eu bod nhw’n iawn. Mae timau sy’n cynnwys safbwyntiau amrywiol yn cynhyrchu cynhyrchion a gwasanaethau gwell i bawb. Gallai prosesau ariannu sy’n rhagfarnllyd o ran rhywedd olygu bod Nesta’n helpu i sefydlu gwasanaethau cyhoeddus gwael.
Yn anffodus, nid yw Nesta wedi casglu gwybodaeth ddemograffig yn gyson am eu hymgeiswyr. Fodd bynnag, mae ‘na adnoddau ar-lein sy’n addo rhoi gwybod i chi, yn dra chywir, a yw enw cyntaf yn perthyn i fenyw neu ddyn. Am nifer o resymau, dylem ochel rhag eu haddewidion. Gallai fod ganddynt yr un gwendidau a rhagfarnau â chi neu fi. Maen nhw’n cael trafferth dod i gasgliadau o enwau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin gan ddynion a menywod neu enwau y mae eu cysylltiad wedi newid dros amser. Mae bob amser yn well dibynnu ar bobl yn rhoi eu rhywedd i chi yn uniongyrchol, ond mae academyddion wedi dangos bod rhai o’r adnoddau hyn yn well na dibynnu ar restrau enwau babi a gyhoeddir yn genedlaethol yn unig. Gan ystyried y rhain a chafeatau eraill, rwy’n eu defnyddio i helpu Nesta.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn gyndyn o newid eu hunain o’r tu mewn, sy’n gwneud cyllidwr annibynnol fel Nesta yn arbennig o bwysig. Mae tystiolaeth yn dangos y gall diwylliannau’r gwasanaeth sifil rwystro staff benywaidd rhag crybwyll a datblygu syniadau newydd. Er bod tystiolaeth yn dangos bod cymysgedd rhywedd da ymysg deddfwyr yn arwain at fwy o ffocws ar wella gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol (fel ffyrdd, dŵr ac addysg), mae Tŷ’r Cyffredin yn dal i fod yn bennaf wrywaidd. Er y dathliadau wedi i fwy o fenywod nag erioed gael eu hethol yn 2019, mae 66% o ASau yn dal i fod yn ddynion. Mae gan Nesta gyfle unigryw i leihau’r rhwystrau sefydliadol y mae menywod sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu hwynebu.
Mae enwau’n cyfleu pŵer. Hyd y gallaf farnu, dim ond un enw ‘nodweddiadol fenywaidd’ sydd yn yr 20 enw cyntaf mwyaf poblogaidd ar gyfer ASau. Gyda llaw, Robert yw’r 12fed enw mwyaf poblogaidd. Mae rhestru enwau ymgeiswyr Nesta yn cynnig darlun iachach o lawer. Os adlewyrchir hynny wrth i mi barhau â’r prosiect, mae hynny’n newyddion da i wasanaethau cyhoeddus a’u defnyddwyr.
Ble nesaf?
Yr hyn sy’n llai amlwg yw p’un a yw eu hymgeiswyr yn gynrychioliadol mewn ffyrdd eraill. A yw Nesta’n cynnwys pobl sydd fel arall wedi’u hymyleiddio gan lunwyr polisi, fel y dosbarth gweithiol, pobl BAME neu bobl LHDT? Mae eu safbwyntiau nhw hefyd yn bwysig, ac os yw prosesau Nesta’n rhagfarnllyd yn eu herbyn, gallai fod goblygiadau cyn waethed â gorgynrychioli dynion. Ni fyddai’n foesol nac yn drwyadl i geisio dyfalu hunaniaethau pobl, ar wahân i rywedd, o’u henwau. Hyd yn oed pan fyddwn yn ymatal rhag gwneud hynny, mae’r adnoddau rwy’n eu defnyddio i ddyfalu rhywedd yn achosi eu problemau eu hunain. Gallant gael trafferth ag enwau nad ydynt yn Brydeinig eu tarddiad, gan daflu cysgod anghymesur dros bobl BAME. Maent hefyd yn cymryd yn ganiataol bod pawb yn ddyn neu’n fenyw, gan daflu cysgod dros bobl draws ac anneuaidd. I sicrhau’r gwerth mwyaf i’w grantiau, mae angen i Nesta glywed gan y bobl hyn hefyd. Dim ond prosesau casglu data priodol a all eu helpu i ddeall a ydyn nhw’n gwneud hyn.