15 november 2021
Ysgrifennwyd hydref 29, 2021 gan owain hanmer.
Erbyn hyn, ryn nin gwybod y stori – mae’r argyfwng hinsawdd fan yma, fan yna, ac ym mhobman, ac mae’n frawychus. Ryn nin iawn i boeni, mae pethau’n edrych yn llwm. Ond bydd cop26 unwaith eto’n dwyn ynghyd arweinwyr y byd syn addo newid – felly, a ddylem fod yn obeithiol?
Er fy mod fel arfer yn ysgrifennu ag ychydig o obaith, angerdd ac egni sy’n adlewyrchu fy nghred yng ngalluoedd, sgiliau a gweithredoedd pobl gyffredin, yr hyn sy’n fy mhoeni fwyaf yn y cyfnod syn arwain at cop26 yw nid yn unig yr argyfwng hinsawdd datblygol, ond fy niffyg ffydd llwyr yn y sefydliadau hyn i ddod yn agos at wireddu ac ymrwymo i’r newidiadau angenrheidiol. Ryn ni wedi bod fan hyn o’r blaen, a byddwn ni yma eto. Mae’r naratif newid hinsawdd sy’n cael ei yrru o fyny fry gan yr arweinwyr hyn yn tueddu i fod yn rheolaethol, yn dechnegol, ac maen annigonol i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng hinsawdd. Nid problem amgylcheddol yn unig yw’r hyn rydym yn delio ag ef; rhywbeth y gallem ei ddatrys ar lawr gwlad – mae’n fater gwleidyddol ac economaidd sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn.
Maen bwysicach nag erioed i ni ddeall a thynnu sylw at yr ymryson am rym syn digwydd mewn perthynas a gwleidyddiaeth newid yn yr hinsawdd. Gwyddom fod yr argyfwng hinsawdd yn fwy dinistriol i rai cymunedau nag eraill – er y rhethreg gyffredin, nid yw’n cael ei brofi gan “bawb”, ond mae profiadau pobl o newid yn yr hinsawdd yn aml yn adlewyrchu anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol sylfaenol (fel anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a thlodi). Ond, maer cyfoethocaf ar mwyaf pwerus yn dweud yn rheolaidd wrth y bobl sy’n ysgwyddo baich yr argyfwng hwn fod angen iddynt fod yn “wydn”, nad yw’n syndod, a dweud y gwir, pan ystyriwch chir hyn sydd yn y fantol.
Dangosodd adroddiad oxfam yn 2020 fod yr 1% cyfoethocaf yn cyfrannu mwy na dwbl allyriadau’r 50% tlotaf. At hynny, gwnaeth adroddiad cynhwysfawr gan y grwp di-elw cdp dynnu sylw at y ffaith fod dim ond 100 o gwmniau wedi cynhyrchu 71% o nwyon ty gwydr diwydiannol y byd ers 1988, a gellir olrhain dros hanner yr allyriadau diwydiannol byd-eang ers y pwynt hwn i ddim ond 25 o gynhyrchwyr corfforaethol a gwladwriaethol. Mae’r un corfforaethau hyn yn cael budd o broblem systemig sy’n cymryd mantais or rhai sydd fwyaf agored i’r argyfwng hinsawdd ac yn eu gwthio i mewn i dlodi.
Ond, mae cip cyflym ar wefan cop26 yn datgelu problem – mae’n cael ei noddi ac yn bartner a microsoft ac unilever, yn ogystal a chorfforaethau mawr eraill sydd wrth wraidd y broblem systemig hon ac sydd hefyd yn meddu ar yr “atebion”, yn ol y son. Y canlyniad yw ein bod yn tueddu i weld naratif deublyg yn dod i’r amlwg – ar y naill law, atgyweiriadau technolegol i’r system bresennol (sydd nid yn unig yn methu a herio’r problemau sylfaenol hyn, ond yn ceisio eu cynnal) ac ar y llaw arall, naratifau unigol o newidiadau defnydd ac ymddygiadol (fel peidio a rinsio eich llestri cyn llwytho eich peiriant golchi llestri, yn ol llefarydd hinsawdd y prif weinidog, allegra stratton). Nid yw’r sbin gwleidyddol a chorfforaethol hwn ond yn tynnu ein sylw oddi ar y problemau sylfaenol a’r atebion (mae gan mcdonald’s wellt papur erbyn hyn – ryn ni wedi ein hachub! )
Dyna pam y credaf mai dim ond drwy newid systemig gwirioneddol y gellir ymdrin a’r argyfwng hinsawdd. Mae hyn yn gofyn am ddemocrateiddio ein strwythurau economaidd a gwleidyddol yn ddyfnach fel eu bod yn cael eu gyrru gan ac yn gwasanaethu anghenion a dyheadau pobl gyffredin yn hytrach na rhai’r elit economaidd a gwleidyddol. Fodd bynnag, mae arbrofion ar waith i newid a herio’r strwythurau pwer hyn, fel cynulliadau dinasyddion, sydd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn ymgyrchoedd gwleidyddol ar gyfer cyfiawnder hinsawdd a newid a arweinir gan ddinasyddion, haid o weithredwyr ifanc egniol, a hefyd fathau o ddinasoliaeth sy’n adeiladu democratiaeth wirioneddol ar lefel leol. Mae’r rhain i gyd yn cynrychioli dinasyddion yn ymladd dros ddyfodol gwyrddach, mwy cyfartal a thecach a, thrwy wneud hynny, ailafael yn yr awenau yng ngwir ystyr y gair.
Felly, mae gobaith, ond ni fyddaf yn dod o hyd iddo yn COP26.