Cyflwyno Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus: dulliau cyflwyno newid a sut i’w defnyddio

18 February 2020

Alexis Palá: Beth yw hyn a pam dylech chi ddod?

Efallai ein bod ni’n arloeswyr, yn ddyfeiswyr, yn arbrofwyr, yn bobl greadigol, yn creu newid, yn arweinwyr, ac yn gwneud penderfyniadau, ond, rydym yr hyn ydym drwy a gan eraill. Mae angen ein gilydd arnom ni.

Nid rhywbeth newydd yw hyn, ond yn hytrach rhywbeth y mae llawer o bobl ar draws y byd yn ei dderbyn ers canrifoedd. Mae wrth wraidd fy ngwreiddiau yn Cuba a Sbaen, ac yn parhau i gyfeirio llawer o ddiwylliannau ar draws y byd. Er enghraifft, mae athroniaeth Ubuntu sy’n treiddio drwy lawer o ddiwylliant De Affrica yn cael ei chyfieithu’n aml fel y gred “Rwyf i oherwydd ein bod ni”gan weld pobl nid fel unigolion ond yn rhan o we annherfynol o gymhleth o fodau dynol eraill’.

Nawr, os ydych chi eisiau i mi seilio hyn yn iaith arloesi’r llywodraeth yn hytrach nag mewn athroniaeth, gwelodd ymchwil Steven Johnson ar gyfer O Ble Daw Syniadau Da:

Mae’n naturiol i syniadau da sefyll ar ysgwyddau’r cewri a ddaeth o’u blaenau nhw, sy’n golygu i ryw raddau, mai digwyddiad rhwydweithio yw pob peth newydd pwysig yn y bôn (tudalen 221).

Neu gwrandewch ar y podlediad hwn ar sut mae’r syniad o ddyfeiswyr a bod Gwobr Nobel yn mynd i unigolion yn gamarweiniol.

Mewn gwirionedd mae newid yn unig, mae newid yn anodd, mae newid yn anghyfforddus, ond mae newid yn ffaith bywyd a all fod yn haws os ydyn ni’n adeiladu cymunedau a rhwydweithiau sy’n cefnogi ei gilydd. Does dim angen i rwydweithiau fod â ffiniau. Dyna pam rydym yn galw arnoch chi i ymuno â ni yng Nghaerdydd ar 23 Mawrth 2020 ar gyfer digwyddiad rydym yn ei gynnal o’r enw Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus: dulliau cyflwyno newid a sut i’w defnyddio.

Gallwn ni ddysgu oddi wrth eraill a’u dulliau bob amser, er bod ein cyd-destun yn wahanol. I’r diben hwn, bwriad 23 Mawrth yw cyfnewid syniadau’n ystyrlon. Mae’n ymwneud â cheisio gwneud pethau’n wahanol fel nad yw’r meicroffon yn aros yn nwylo ein prif areithwyr a’n hwyluswyr yn unig, ond ei fod yn cael ei ddosbarthu ymysg y ffurfiau amrywiol ar arbenigedd yn yr ystafell. Bydd y digwyddiad yn cael pobl, sefydliadau, cyllidwyr a dyheadau i siarad â’i gilydd, gan gredu’n gryf ein bod ni i gyd yn ymdrechu i wneud yn well dros y lleoedd a’r cymunedau lle rydym yn gweithio.

Pan ddechreuon ni’r daith hon ryw flwyddyn yn ôl, rhoddon ni her i’n hunain i lunio diwrnod a fyddai’n apelio at academyddion, ymarferwyr, a’r cyhoedd yn ogystal ag at eu sectorau. Hawdd, ynte?

Cyn llunio’r digwyddiad a gwahodd siaradwyr, buon ni’n gwrando ac yn datblygu cenhadaeth ac egwyddorion craidd ar gyfer y diwrnod:

Yn y bôn, ein cenhadaeth yw defnyddio Arloeswyr Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig lle cefnogol i weithwyr cyhoeddus gael rhannu dulliau newydd, sgyrsiau a chysylltiadau sy’n ysbrydoli gweithredu a newid cadarnhaol.

Yn ystod ein sgyrsiau cyn llunio’r diwrnod, clywon ni gan bobl sy’n gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus neu ynddyn nhw, pobl yr oedd arnynt angen gobaith a lle bwriadol er mwyn ymarfer, cysylltu, a chefnogaeth.

A beth yw pwynt cenhadaeth heb egwyddorion i’n llywio? Mae egwyddorion yn werthoedd craidd sy’n helpu i lywio ac i gadw ein bwriadau ar y trywydd iawn, a’n rhai ni oedd:

  1. Mynd ati’n ymwybodol i lunio digwyddiad sy’n gynhwysol o ran arddulliau cyfathrebu, lefelau profiad a dulliau gwahanol er mwyn ymagweddu at y gwaith anodd rydym i gyd yn ei wneud.
  2. Gofalu’n dda am ein cyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad er mwyn cefnogi’r gwaith o greu cysylltiadau ystyrlon, ysbryd dysgu ac arbrofi, a theimladau grymuso. 
  3. Ymgorffori a gwireddu’r gred y gall syniadau da ddod o unrhyw le.
  4. Bod â rhagfarn tuag at gamau gweithredu ystyrlon.

Felly, rydym yn gofyn i chi ein dal ni i gyfrif. Ond yn fwy na dim, dewch gyda meddwl agored a dyhead i ehangu eich syniadau o ran yr hyn sy’n bosibl. Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gweddnewid ysbrydoledig gan brif areithwyr sydd wedi harneisio grym y “gymuned” i newid eu lleoedd er gwell. Sesiynau wedi’u hwyluso lle byddwch chi’n dysgu am syniadau cymwysedig, newydd, cyffrous ym maes gwasanaethau cyhoeddus a sut gallan nhw lywio eich gwaith yn y bore, ac yn y prynhawn, bydd sesiynau’n canolbwyntio ar roi adnoddau newydd i chi er mwyn ymagweddu’n wahanol at eich gwaith a gweithio mewn ffordd gydweithredol, traws-sector.

Hefyd bydd cyllidwyr gyda ni dros yr awr ginio a thrwy gydol y dydd, fel y gallwch chi ystyried pa gamau nesaf a llwybrau a allai fod orau i’ch dyheadau. Fyddan nhw ddim i gyd yn dod o’r byd academaidd, yn hytrach, rydym wedi gofyn iddynt ddod i siarad am sut maen nhw’n galluogi partneriaethau traws-sector.

Ein gobaith yw y bydd y darn hwn yn eich gwneud mor gyffrous ag rydym ni am yr hyn a allai ddatblygu. Da chi, ymunwch â ni neu anfonwch rywun yn eich sefydliad a allai, yn eich barn chi, gael ei ysbrydoli gan y rhai sydd yn yr ystafell, a helpwch ni i ymgorffori a gwireddu ethos Ubuntu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen hyn arnom ni, ac ar y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Chwilfrydig?

Bydd sesiynau’r bore wedi’u hwyluso gan:

  • The Centre for Public Impact a’r Social Care Institute for Excellence – ar eu Glasbrint ar gyfer gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar roi pwyslais ar werthoedd
  • Platfform – Cymru’n seiliedig ar newid systemau fel mater o drefn
  • Dr Toby Lowe – ar gymhlethdod, rheoli cyhoeddus a stiwardio systemau i gael systemau mwy iach gyda chanlyniadau cymdeithasol cadarnhaol

Bydd sesiynau’r prynhawn wedi’u hwyluso gan:

  • Nesta’s Innovation Skills tgydag arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol
  • Y Lab ar Fframio Problemau i gael datrys problemau cyhoeddus gwell, sy’n fwy ymwybodol o gymhlethdodau
  • Policy Lab – 
  • ‘intra-preneur’ blaengar sydd â phortffolio o brosiectau i’ch ysbrydoli