Celfyddydau ac iechyd wedi’u hynysu’n greadigol: Beth nesaf?

30 Mawrth 2020

Rheolwr rhaglen HARP, Rosie Dow, sy’n archwilio’r hyn a wyddom hyd yma am y celfyddydau ac iechyd yng nghyd-destun pandemig y Coronafeirws.

Ychydig wythnosau’n ôl, drafftiais flog am amser ac arloesi.

Yn benodol, sut mae ein canfyddiad o amser yn newid o ganlyniad i ffactorau allanol – mae munudau ac oriau’n gallu teimlo fel petaen nhw’n rhuthro heibio os ydyn ni’n brysur, neu mae amser yn gallu ymddangos yn ddiddiwedd os ydyn ni’n sâl, wedi ein hynysu, neu’n ofnus. Defnyddiais y syniadau hyn i edrych ar sut mae dull Canlyniadau wedi’u Pweru gan Bobl Nesta, yr ydym yn ei fabwysiadu yn rhaglen HARP – yn defnyddio cyfnodau byr o amser i annog systemau a phobl i newid eu ffyrdd o weithio, i arbrofi ac i ddatrys problemau’n gyflym (sef 100 niwrnod).

Roedd cyfieithiad y blog hwnnw ar y gweill er mwyn ei gyhoeddi pan darodd coronafeirws – a newidiodd popeth.  Mae ein dull a’n model ar gyfer yr heriau 100 niwrnod yn dibynnu’n drwm ar ddigwyddiadau, cyfarfodydd a rhyddhau gallu gofal iechyd i arloesi, felly bu’n rhaid i ni roi’r Heriau o’r neilltu tan fis Medi o leiaf a bu’n rhaid meddwl – yn gyflym – am gyflawni’r project mewn ffordd newydd, o leiaf yn y tymor byr.

Heriol? Ydy.  Ond allaf i ddim peidio â meddwl bod Prydain gyfan – a’r byd i gyd, hyd yn oed – bellach mewn ffurf sydd wedi’i chyflymu’n enfawr ar Her 100 Niwrnod, ar raddfa fwy nag y gall unrhyw un ei amgyffred yn llawn, yn fy marn i. 

Mae union wead ein bywydau, a’r holl systemau rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw – ein gwaith, ein teuluoedd, ein hysgolion, ein gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol – wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth, cyn pen wythnosau, cyn pen dyddiau.

Byddai wedi bod yn amhosibl dychmygu’r llywodraeth yn talu cyflogau, yn cau ysgolion, yn gwladoli rhannau enfawr o’n seilwaith, yn ein gorfodi i aros gartref hyd yn oed fis yn ôl.

Yna mae’r system sydd wrth wraidd hyn i gyd: y system iechyd. Mae gweld y GIG yn gwneud newidiadau mor fawr, mor gyflym, yn dyst gwirioneddol i allu ei staff a’r ewyllys i arloesi, pan fydd caniatâd i wneud hynny ac mae’r amodau’n gywir.  Yn wir, mae’r arweiniad a’r creadigrwydd a ddangoswyd ar bob lefel ac ym mhob adran o’r GIG wrth iddo addasu i’r argyfwng y tu hwnt i unrhyw beth y gallem byth fod wedi’i lunio yn ein Heriau 100 Niwrnod.

Wrth gwrs mae rhai o’r newidiadau hyn yn peri gofid mawr ond mae llawer yn rhyfeddol o ran eu dyfeisgarwch, ac oherwydd pa mor gyflym maen nhw wedi digwydd; dolenni drysau ac offer diogelwch sydd newydd eu dylunio, ffreuturiau wedi’u trawsnewid yn wardiau gofal dwys, peirianwyr rasio fformiwla un yn adeiladu offer ysbyty. Mae’r rhain yn dangos sut mae defnyddio eich cryfderau a’ch adnoddau’n hanfodol wrth ddod o hyd i atebion mawr, cyflym i broblemau. Dyma arloesi ar raddfa enfawr, ac rwy’n teimlo’n freintiedig o gael gweithio mewn ffordd fach wrth ochr llawer o’r bobl ar fydd ar reng flaen y gwaith hwn am yr wythnosau i ddod.

Felly beth am y celfyddydau a’r sector iechyd? Beth yw ystyr hyn i gyd?  Yn y tymor byr, gohiriwyd mwyafrif helaeth y celfyddydau cyfranogol neu berfformio mewn prosiectau a gwasanaethau iechyd er mwyn helpu i arafu lledaeniad coronafeirws, ac mae llawer o weithwyr llawrydd (craidd y gwaith hwn) gartref, heb fod yn gweithio.  Ar adeg pan oedd y celfyddydau ac iechyd wedi dod yn boblogaidd ac wedi creu momentwm, mae’r gohirio hwn yn hynod o siomedig ac yn peri pryder. Hefyd rydym mewn cyfnod pan fydd hi’n fwy anodd cael gafael ar y celfyddydau ond pan fydd eu hangen yn fwy nag erioed, gan fod cyflymder sydyn y newidiadau enfawr i’n bywydau ar gefndir o ddyddiau, wythnosau a misoedd, pan fydd rhaid i nifer mawr ohonon ni ymbellhau oddi wrth eraill ac aros gartref.

Rwy’n ddiolchgar fy mod yn ymwneud â’r Cynghrair Diwylliant, Iechyd a Lles, sydd wedi sefydlu tudalen o adnoddau i helpu mudiadau, gweithwyr llawrydd ac unigolion i chwilio am ffordd drwy’r cyfnod hwn.  Hefyd edrychwch ar adnoddau Rhwydwaith MARCH ar gyfer ynysu creadigol. Yn wir, rwyf wedi gweld cymaint o bobl greadigol yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau – arloesi, creu ac estyn arall i gefnogi eraill.  Corau rhithwir, tiwtorialau crefft ar-lein, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar greadigol i’r rhai ohonon ni sy’n wynebu wythnosau lawer o ynysu cymdeithasol.

Yma yn Y Lab, rydyn ni’n siarad â Chyngor Celfyddydau Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, y byrddau iechyd, a’n partneriaid yn Lloegr, i helpu i weithio allan beth sydd ei angen a sut gallwn helpu. Mae cwestiynau ynghylch sut rydyn ni’n gosod y nodau cywir i waith y celfyddydau ac iechyd nawr, a sut rydyn ni’n deall cysyniadau angen ac ansawdd yn y realiti newydd hwn sydd heb gysylltiad corfforol (sy’n aml yn allweddol i’r gwaith hwn).

I mi, mae pobl y celfyddydau ac iechyd yn ymgorffori arloesi’n barod, drwy eu hysbryd, eu hegni a’u tosturi. 

Does gan neb yr atebion i gyd i sefyllfa mor anghyfarwydd, ond efallai y daw llwybr ymlaen yn eglur drwy dynnu’r gorau allan o bobl i fodloni’r gwir angen sydd allan yno, fel y gwyddom ni. Os gall y GIG wneud hynny, gallwn ninnau hefyd.