13 Mai 2021
Yn ddiweddar, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi lansio Cronfa Her i ‘fanteisio ar bŵer arloesi ym maes caffael’. Roedd gan Emyr Williams rôl gefnogol yn y broses hon, a chynhaliodd ymchwil gefndirol gyflym yn archwilio beth yw rhai o’r ffactorau hanfodol er mwyn i gronfeydd her lwyddo.
Mae Cronfa Her yn ceisio mynd i’r afael â phroblem neu her benodol, ac yn gwahodd syniadau newydd.
A minnau’n newydd ym myd y Cronfeydd Her, roedd yn ddiddorol gweld y gwahanol fathau o fodelau a oedd wedi’u datblygu i annog arloesedd, y pynciau amrywiol roedd heriau wedi mynd ati i’w datrys, a’r canlyniadau anhygoel roedd gwahanol gronfeydd wedi’u cyflawni.
Serch hynny, nid canolbwyntio ar y cronfeydd her llwyddiannus yn unig oeddwn i – roeddwn i hefyd yn awyddus i ddysgu beth oedd rhai o’r pethau allweddol i’w hosgoi wrth gynnal neu gymryd rhan mewn arloesi a ysgogir gan her. Mae ein hadroddiad yn rhoi trosolwg o’r ymchwil ac yn amlinellu’r dysgu hwnnw.
Yma, rwy’n trafod yr hyn rydw i’n ystyried yw’r tri pheth pwysicaf wrth drefnu her, er mwyn cynorthwyo unrhyw un sy’n meddwl datblygu her ar gyfer cronfa Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
1. Datrys!
Mae’n hanfodol osgoi cwympo i’r fagl o feddwl eich bod chi’n gwybod beth yw’r datrysiad cyn cynnal yr her. Mae hyn yn broblem gyffredin ac mae’n gallu arwain at duedd, diffyg arloesedd, a chronfa a gaiff ei chynnal yn wael. Diben heriau yw cynnig datrysiadau newydd ac arloesol i broblemau sydd heb atebion ar hyn o bryd. Os ydych chi eisoes yn gwybod beth yw’r datrysiad, yna mae’n debygol nad cronfa her yw’r dull cywir. Dylech bob amser ganolbwyntio ar y broblem, a cheisio profi i weld a ydych chi wedi gosod yr her gywir. Ymgysylltwch â chymaint o bobl ag y gallwch chi er mwyn profi’r her a meddyliwch am y system ehangach y mae’r her yn gweithredu ynddi, y rhwystrau sy’n atal arloesedd, a pham nad oes datrysiad wedi’i gael hyd yma. Y peth pwysig fel perchennog her yw sicrhau bod yr her yn gywir – gadewch y datrysiadau i’r arloeswyr a fydd yn ymgymryd â’ch her.
2. Sicrhau bod gan y datrysiad terfynol lwybr at y farchnad.
Un o’r prif faterion i unrhyw berchennog Her yw sicrhau bod gan y datrysiad lwybr i’r farchnad. Waeth pa mor dda yw datrysiad, os nad oes ganddo lwybr i’r farchnad, yna nid yw’n debygol o ddwyn ffrwyth. Felly, mae’n hanfodol ystyried sut byddai arloesiad posib yn cael ei gaffael gan eich sefydliad chi neu’n cael ei ariannu gan bartner er mwyn dod yn gynnyrch llwyddiannus. Mae angen cynnwys eich timau caffael yn y broses o gynllunio’r her felly, a’u cadw nhw’n rhan o’r broses gyfan er mwyn sicrhau y bydd modd i chi gaffael datrysiad terfynol yr her.
Os nad oes modd i chi gaffael y datrysiad yn fewnol, mae’n hanfodol cysylltu gyda sefydliadau neu fusnesau eraill sydd â diddordeb yn y pwnc, a allai fod yn gaffaelwyr posib i’r datrysiad. Bydd ystyried hyn yn gynnar yn eich helpu i gynllunio her fwy effeithiol, ac yn sicrhau y bydd modd mabwysiadu unrhyw ddatrysiad a’i gyflwyno i’r farchnad.
3. Cael y cymhelliant cywir.
Mae cronfeydd her wedi’u cynnal yn y gorffennol gyda gwobrau ariannol, gydag addewid o gaffaeliad, neu yn syml er mwyn mynd i’r afael â phroblem gymdeithasol. Bydd deall beth yw’r rhwystrau rhag arloesedd yn helpu i nodi’r ffordd orau o gymell arloeswyr i fynd i’r afael â’r mater hwnnw.
Mae’n bosib mai mynediad at ddata neu at randdeiliaid allweddol oedd y brif broblem. Gallai ymwybyddiaeth o’r her ei hun hefyd fod yn rhwystr, felly bydd gwybod beth sydd wedi rhwystro arloesedd yn y gofod hwn yn cael effaith fawr ar sut rydych chi’n cynllunio’r cymhelliant i annog arloesedd.
Heb os, bydd cymorth ariannol drwy broses ymchwil a datblygu yn gweithredu fel cymhelliant i arloeswyr. Serch hynny, mae bod â llwybr clir at y farchnad, sy’n ystyried sut mae modd caffael ac ehangu arloesiad, yn gymhelliant enfawr i arloeswyr pan fyddan gwybod y bydd marchnad ar gyfer eu datrysiad terfynol. Dyma pam fod ffactorau fel sut caiff yr her ei fframio, y negeseuon a’r gwaith cyfathrebu yn hanfodol ar gyfer ei llwyddiant.
Wrth gwrs, mae nifer o faterion eraill i’w hystyried wrth gynllunio a gweithredu her lwyddiannus, ac mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Serch hynny, os ydych chi’n ystyried datblygu her, bydd ystyried y rhain ar gam cynnar yn amhrisiadwy.
Yr allwedd i fynd i’r afael â’r problemau cyffredin hyn yw ymgysylltu â chymaint o bobl â phosib, mor gynnar â phosib, er mwyn sicrhau bod yr her yn iawn, yn nodi’r cymhelliant gorau, a bod modd cyflwyno unrhyw ddatrysiad i’r farchnad. Er nad yw hyn yn gwarantu llwyddiant, bydd yn sicr o helpu i osgoi rhai trafferthion sydd wedi atal perchnogion heriau rhag caffael datrysiadau arloesol yn y gorffennol.