Adroddiad newydd yn tynnu sylw at waith arloesol ar gyfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru

10 September 2021

Rosie Dow sy’n amlinellu pam ein bod yn falch iawn o weld Sefydliad Baring yn tynnu sylw at rywfaint o’r gwaith arloesol gwych sy’n cael ei wneud yn sector y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.

Rydym yn falch iawn bod Sefydliad Baring wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar, ‘Creatively Minded’, sy’n rhannu straeon ysbrydoledig am brosiectau o bedair gwlad y DU lle mae’r celfyddydau’n helpu pobl sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael.

Mae ein prosiect sbrint HARP, ‘Rengarific’, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Oriel VC, yn ymddangos ar dudalen 50, gydag adroddiad yn disgrifio effaith anhygoel eu gwaith arloesol gyda phobl yng Nghanolfan Ddydd Hafan y Coed ar gyfer goroeswyr anafiadau i’r ymennydd yng Nghaerdydd yn ystod pandemig Covid-19. Yn ystod haf 2020, bu’r tîm yn hwyluso sesiynau ‘Renga’ ar-lein lle cafodd y cyfranogwyr eu hysbrydoli gan gerddi, ffotograffau, paentiadau a gwaith celf ei gilydd i greu cadwyni stori, a oedd wedyn yn cael eu harddangos ar-lein ac yn Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. I ni, mae’r prosiect yn llwyddiant o ran arloesi, cydweithio a chreadigrwydd ar yr adegau anoddaf, ynghyd â’r gofal gwirioneddol a dycnwch gan y tîm i sicrhau llwyddiant y prosiect yn ystod y cyfnod clo. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi a hwyluso’r gwaith hwn.

Mae’r adroddiad, Creatively Minded, hefyd yn edrych ar yr amodau a’r bobl sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau a gwaith iechyd meddwl, ac mae’n taflu goleuni ar agwedd anhygoel ac arloesol ein partner yn HARP, sef Cyngor Celfyddydau Cymru, am eu buddsoddiad mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chydffederasiwn GIG Cymru ac mewn swyddi Cyd-drefnwyr Celfyddydau ac Iechyd yn y Byrddau Iechyd yng Nghymru. Yn wir, mae’r adroddiad yn galw ar Loegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i ystyried efelychu’r dull hwn, sy’n brawf o waith caled cynifer o bobl yma yng Nghymru i wneud y cynlluniau hyn yn llwyddiant.

Yn HARP, ein nod yw ysgogi dysgu ac effaith drwy arloesi ac ymchwil yn y maes hwn. Rydym eisiau helpu i siapio’r sgwrs genedlaethol ynghylch sut mae prosiectau creadigol i gefnogi iechyd meddwl pobl yn gallu cael eu tyfu, eu hefelychu a’u cynnal. Rydym yn gwybod mai’r hyn sy’n bwysig yn hyn o beth fydd cynyddu’r sylfaen dystiolaeth, pleidio’r achos, gwella llwybrau atgyfeirio, sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel a sicrhau modelau cyllido mwy cynaliadwy. Felly, mae’r holl bynciau hyn yn ffocws allweddol ar gyfer dysgu ac arbrofi yn HARP. Edrychwn ymlaen at rannu mwy am yr hyn rydym yn ei ddysgu dros y misoedd nesaf, ac at broffilio holl waith anhygoel prosiectau HARP, i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu mwynhau manteision iechyd a lles y celfyddydau yn y dyfodol.