8 January 2020
Dros y 6 mis diwethaf, mae’r Lab wedi bod yn archwilio sut mae gwledydd ledled y byd yn mesur arloesedd yn y gwasanaethau cyhoeddus mewn gwahanol ffyrdd.
Ddiwedd mis Tachwedd, aethom i Ddenmarc i gwrdd ag 13 o wledydd eraill i drafod dull sy’n dod i’r amlwg i wneud hynny, ac i ddeall sut y gallwn wneud hyn yng Nghymru.
Y dull fwyaf gwreiddiol a’r un sydd wedi’i ymgorffori fwyaf yw’r Baromedr Arloesedd gan y Center for Offentlig Innovation. Yn 2015, gwnaethant benderfynu gweithio gyda Statistics Denmark, i ddatblygu arolwg a fyddai’n ‘gwahanu chwedl oddi wrth realiti,’ a chasglu data am ba mor arloesol roedd y sector cyhoeddus yn Nenmarc. Y cwestiwn cyffredinol oedd ‘A fu datblygiad arloesol yn eich gweithle dros y flwyddyn ddiwethaf, ac a gafodd ei werthuso?’
Gwelodd COI fod pedwar allan o bum gweithle yn y sector cyhoeddus yn Nenmarc yn arloesol. Gwelsant hefyd fod gan eraill ddiddordeb yn y data hwn; yn fuan, roedd mwy o wledydd Nordig yn cynnal eu harolygon eu hunain i annog gweithleoedd i arloesi ac i arbrofi yn eu sectorau cyhoeddus eu hunain.
Mae Llawlyfr Oslo OECD, a gyhoeddwyd ym 1992, yn amlinellu ffyrdd o fesur (y sector preifat yn bennaf) arloesedd, ac mae wedi’i ddefnyddio i gasglu data am arloesedd busnes mewn o leiaf 80 o wledydd. Penderfynodd COI ei bod hi’n amser creu ‘Llawlyfr Copenhagen’ ar y cyd a fyddai’n galluogi eraill i fesur arloesedd yn y sector cyhoeddus, a chasglu data am eu gwlad eu hunain mewn modd mwy trylwyr, cyson ac y gellir ei gymharu gobeithio.
Casglodd COI 13 o wledydd ynghyd yn Copenhagen i drafod y ffordd orau i roi’r llawlyfr mwyaf effeithiol at ei gilydd ar gyfer y rhai hynny sy’n dechrau ar eu prosiect eu hunain. Roeddem yn ddigon ffodus i fod yno ac yn gallu gofyn cwestiynau i’r rhai hynny a oedd eisoes wedi gweithio ar eu prosiectau mesur eu hunain. Yn y bôn, roedd modd i ni feddwl am yr hyn roeddem yn bwriadu ei wneud.
Pam mesur arloesedd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Trwy gydol yr adeg roeddem yno, roeddem am wybod; beth allai arolwg arloesedd ei wneud i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Un o’r prif fanteision a nodwyd gan gynrychiolwyr o Sweden, y Ffindir a Norwy oedd bod y dull o ddefnyddio baromedr wedi bod o gymorth i chwalu rhai o’r chwedlau sy’n bodoli ynghylch arloesedd yn y sector cyhoeddus yn eu gwledydd nhw. Yn Nenmarc, gwelodd y tîm nad yw llawer o ddatblygiadau arloesol yn y sector cyhoeddus yn cael eu gwerthuso, naill ai’n effeithiol, neu ddim o gwbl mewn nifer o achosion. Roedd hyn o gymorth iddynt ddatblygu offer newydd i weision cyhoeddus i helpu i ddatblygu ffyrdd o fesur datblygiadau arloesol.
Felly, a fyddai modd i ni ddefnyddio’r data i ddangos yr hyn y mae eisoes gennym rywfaint o dystiolaeth i’w awgrymu – bod datblygiadau arloesol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru efallai nad ydynt yn cael eu nodi fel y cyfryw? A allem nodi pwyntiau oer; ardaloedd neu amgylcheddau lle mae angen mwy o gymorth ar ddatblygiadau arloesol i lwyddo? Mewn amser, rydym yn gobeithio efallai y bydd y data a gesglir o fersiwn Cymru o’r baromedr yn ein helpu ni ac eraill i ddatblygu ecosystem fwy effeithiol o arloesedd yn y sector cyhoeddus. Ond byddem hefyd yn dwlu ar glywed eich barn a sut y gallai datblygu mesur ar gyfer arloesedd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn ddefnyddiol i chi.
Beth sydd nesaf?
Ar ddechrau 2020, byddwn yn cynnal ein harolwg arbrofi bach ein hunain i addasu’r holiadur o Ddenmarc i gyd-destun Cymru. Rydym yn darganfod a dysgu oddi wrth brofiadau eraill o hyd; byddwn yn parhau i fod yn rhan o greu Llawlyfr Copenhagen ar y cyd ac i rannu’r hyn rydym yn ei ddysgu yn ystod ein proses gydag eraill.
Yn bennaf oll, rydym yn edrych ymlaen at ddarganfod mwy am y sector cyhoeddus yng Nghymru a sut y gallwn gefnogi mwy o ddatblygiadau arloesol a rhai mwy effeithiol yn y dyfodol. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prawf cychwynnol neu ein canfyddiadau cynnar.