Cyngor Sir y Fflint yw’r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno rhaglen Mockingbird

14 Mai 2020

Bydd Cyngor yng ngogledd Cymru’n defnyddio £1.15miliwn o gyllid Arloesi er mwyn Arbed i gyflwyno model teuluoedd Mockingbird ar gyfer plant o dan ofal a’u teuluoedd maeth. 

Caiff dull newydd o gyflwyno gofal maeth ei gyflwyno ar draws Sir y Fflint.

Bydd ‘rhaglen Mockingbird’ Sir y Fflint, yn seiliedig ar y Model Teulu Mockingbird sy’n creu ‘teulu estynedig’ o gefnogaeth, yn cefnogi 50 o deuluoedd. Sefydlwyd y clwstwr cyntaf ym mis Chwefror 2020 gydag un arall i ddilyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae rhaglen Mockingbird yn creu ‘teulu estynedig’ – a elwir yn glwstwr – o 6-10 o deuluoedd maeth sy’n derbyn cefnogaeth gan ofalwr maeth profiadol. Mae’r rhaglen yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau maeth ac yn cryfhau’r berthynas rhwng gofalwyr, plant a phobl ifanc, gwasanaethau maethu a theuluoedd biolegol. Mae model y teulu estynedig yn galluogi cysgu draw a seibiau byr, cefnogaeth cymheiriaid, cydgynllunio a hyfforddi rheolaidd, a gweithgareddau cymdeithasol rhwng y teuluoedd.

Rydym ni am weld Mockingbird yn digwydd yng Nghymru. Gall pobl ifanc sy’n newydd i ofal maeth gyfarfod â phobl eraill yn yr un sefyllfa. I rai plant maeth sy’n rhedeg i ffwrdd, bydd yn lle diogel i fynd iddo. Os ydych chi’n mynd at ofalwr maeth arall, maen nhw’n eich nabod chi’n barod.

Grŵp Lleisiau Ifanc Sir y Fflint

Dangosodd prosiect peilot yn y DU fod rhaglen Mockingbird, a sefydlwyd gan The Mockingbird Society yn America ac a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Maethu yn y DU, yn lleihau’r nifer o fethiannau a symud lleoliadau sy’n gostus i’r Awdurdod Lleol ac sy’n cael effaith niweidiol ar y plentyn.

Mae 5 clwstwr ar y gweill yn Sir y Fflint erbyn diwedd 2022, fydd yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i hyd at 80 o bobl ifanc a 50 o gartrefi maethu. Drwy fuddsoddi i arbed, rhagwelir y bydd y model yn creu arbedion drwy osgoi costau rheoli uchel lleoliadau maeth allanol a chadw cronfa gref o ofalwyr maeth yn yr awdurdod lleol.