18 Mai 2020
Rydym yn lansio grŵp cynnwys y cyhoedd a phrofiad cleifion mewn ymchwil (PIPER) ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru. Dyma ragor o wybodaeth am ei nod a sut mae ymuno ag e.
Beth yw PIPER?
Lansiwyd ein rhaglen ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd, HARP, yn 2019, a’i nod yw cynyddu ein dealltwriaeth o sut y gall y celfyddydau chwarae rhan fwy blaenllaw yn llesiant pobl yng Nghymru.
Fel ymateb i COVID-19, lansiwyd HARP Covid-19 Sprint gennym hefyd, sy’n edrych yn benodol ar sut i wella llwybrau a mynediad at ymyriadau celfyddydol a fydd o gymorth i grwpiau gwahanol yn ystod y cyfnod clo a’r tu hwnt.
Rydym o’r farn bod cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd yn dod â mewnwelediad arbenigol i’r ymchwil o ganlyniad i’w profiadau o gyflyrau iechyd penodol, gan ddefnyddio gwasanaethau iechyd a manteisio ar fentrau ym meysydd y celfyddydau ac iechyd.
Nod grŵp Cynnwys y Cyhoedd a Phrofiad Cleifion mewn Ymchwil (PIPER) HARP yw darparu llais cryf i ddefnyddwyr gwasanaethau er mwyn llywio’r gwaith o gynllunio ein hymchwil ac arwain ein heffaith. Ei nod yw darparu grŵp diogel a chynhwysol lle gall defnyddwyr gweithgareddau’r celfyddydau ac iechyd rannu eu profiadau o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, a’r hyn mae’r celfyddydau ac iechyd yn ei olygu iddynt hwy.