Arloesi yn y Celfyddydau ac Iechyd yn ystod y pandemig

29 September 2020

Ymunais â rhaglen Celfyddydau ac Iechyd y Lab fis Ionawr 2020 ar ôl gweithio ym maes darparu’r celfyddydau ac iechyd ledled y DU am wyth mlynedd. 

Roedd llawer wedi symud ymlaen yn y maes hwn yn y cyfnod hwnnw, ond roedd cwestiynau allweddol yn parhau ynghylch sut y gallai creadigrwydd gefnogi iechyd a lles pawb, a chael eu hymgorffori a’u cynnal yn ystyrlon mewn lleoliadau cymunedol ac yn y GIG.

Roedd y rhaglen, a oedd yn bartneriaeth rhwng y Lab, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru, yn ymddangos i mi yn gyfuniad oedd ei ddirfawr angen o gydweithio ar y lefel uchaf ac ar lawr gwlad rhwng y byd iechyd a’r celfyddydau.  Mae cwestiynau mawr yn gofyn am lawer o feddwl, felly roeddwn yn falch bod Nesta yn defnyddio ei arbenigedd mewn arloesedd a newid systemau i chwilio am atebion, yma yng Nghymru. Roeddwn hefyd wrth fy modd o fod yn gweithio gyda thîm a oedd yn gwerthfawrogi ymchwil, trylwyredd ac ethos sy’n cael ei bweru gan bobl. Felly, wrth ddod â hyn i gyd at ei gilydd, ganwyd HARP: iechyd, y celfyddydau, ymchwil, pobl (Health, Arts, Research, People).  Pedwar gair â statws cyfartal yn ein rhaglen ac o’r un pwysigrwydd wrth helpu i fynd i’r afael â chydraddoldeb, graddfa a chynaliadwyedd yn y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.

Erbyn dechrau mis Mawrth 2020 roeddem wedi ymgysylltu â phedwar bwrdd iechyd yng Nghymru i ddechrau ar y daith arloesi hon gyda ni drwy Her 100 Diwrnod Nesta. Roeddem yn cynnig cymorth hyfforddi a hwyluso, ochr yn ochr â grantiau, i ddod â staff gofal iechyd rheng flaen ynghyd ag artistiaid ac arweinwyr y GIG i fynd i galon y system iechyd a datblygu dulliau newydd o weithredu.  Roeddem yn bwriadu lansio ein 100 Diwrnod ar 22 Ebrill 2020 gyda digwyddiad deuddydd yng Nghaerdydd.

Pan ddechreuodd y pandemig COVID-19, roedd yr heriau o ran cyflawni’r Her 100 Diwrnod yn glir, ac yn sylweddol. Gyda chyflymder ac ystwythder anhygoel, gwnaeth staff y byrddau iechyd addasu ac ailffocysu. Gyda’r un cyflymder, caeodd lleoliadau celfyddydol a chymunedol a chanslwyd digwyddiadau wyneb yn wyneb (gan gynnwys ein rhai ni). Gadawodd hyn gwestiynau enfawr am sut i wneud cyfraniad o hyd drwy HARP: gwyddom y gallai creadigrwydd ac arloesedd helpu i fynd i’r afael â’r heriau a ddaeth yn sgil y pandemig, ond sut y gallem hwyluso hyn pe na allai neb gwrdd wyneb yn wyneb, a’r GIG yn wynebu ei argyfwng mwyaf erioed?

Ar ôl i ni brofi’r sioc gychwynnol, roedd yn ymddangos i ni fod y cwestiynau hyn, mewn gwirionedd, yn agoriad llygad enfawr.  Wedi’r cyfan, oni fu rhai pobl na allent adael eu tŷ o’r blaen? Sut oeddem wedi bod yn eu cefnogi o’r blaen (neu beidio) i fod yn arloesol ac yn greadigol? Beth am gynnull digwyddiadau traws-Cymru lle bu’n rhaid i rywun deithio am hyd at bum awr cyn dechrau hyd yn oed?  A oeddem wedi bod yn mynd am yr opsiynau hawdd drwy’r amser? Efallai roedd y foment anodd hon hefyd yn gyfle: roedd yn ymddangos i ni fod angen ymchwil, trylwyredd ac ethos pŵer pobl HARP yn awr yn fwy nag erioed.  Roeddem yn teimlo bod yn rhaid dod o hyd i ffordd o wneud rhywbeth, a gwyddem y byddai gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim.

Pan ddechreuodd y pandemig COVID-19, roeddem yn teimlo bod yn rhaid dod o hyd i ffordd o wneud rhywbeth, a gwyddem y byddai gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim.

Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â’r hyn a wnaethom – Her Sprint HARP COVID-19 – a’r hyn a ddysgom.  Yn y Sbrint, daethom â thîm o 12 o weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau ac iechyd ledled Cymru at ei gilydd, drwy weminarau wythnosol ar Zoom, i arloesi’n gyflym er mwyn cefnogi’n greadigol grwpiau o bobl y nodwyd eu bod wedi dioddef yn arbennig yn ystod y cyfyngiadau symud, heb i unrhyw un ohonom adael ein cartrefi.  Creodd a lluniodd y tîm anhygoel brofiadau newydd, gwaith celf newydd, gwefannau newydd, llwyfannau newydd. Gwnaethant ysbrydoli pobl roedd angen cymorth arnynt i gymryd perchnogaeth o’u hamser a’u creadigrwydd eu hunain, i roi cynnig ar rywbeth newydd, i fwynhau eu hunain – ac i deimlo’n well.

Darllen y’r Adroddiad Her Sprint HARP

I mi, mae llawer o straeon ergydiol yn sefyll allan yn y Sbrint. Y person 80-rhywbeth sy’n byw ar ei ben ei hun ac nad oedd erioed wedi bod ar YouTube o’r blaen, ond sydd bellach yn defnyddio clustffonau Google Cardboard a fideos rhithwir i’w ysbrydoli i ddarlunio bob dydd. Unigolyn ag ME sydd yn y gwely am 23 awr y dydd, ond a oedd yn gallu gweld ei waith celf mewn oriel ar-lein. Tîm niwroseiciatreg mewn bwrdd iechyd sydd bellach â chysylltiad hanfodol ac ystyrlon â chleifion o bell. Fideo o ddawnsiwr ballet mewn cadair olwyn yn perfformio i Carmen, yn eu hystafell fyw.

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos yr hyn sy’n bosibl hyd yn oed yn yr amseroedd mwyaf ynysig a heriol pan ddefnyddiwn ein creadigrwydd. Roedd y tîm Sbrint yn wych i weithio gyda hwy; daethant â phenderfyniad, egni, gofal, empathi a gwaith tîm gwirioneddol, er gwaethaf y trafferthion ar y rhyngrwyd, cathod ar liniaduron (ac un ci bach), dagrau, rhwystredigaethau, a phob un ohonom yn llywio effeithiau anferthol y pandemig heb fap.  Ond, yn bennaf oll, roedd y Sbrint yn stori am arloesi: cydweithio, dysgu, arbrofi. Cymhwyso empathi, meddwl beirniadol a chreadigrwydd i broblem (problem fawr iawn yn yr achos hwn) a meddwl am bethau sy’n gweithio.  Nid oedd yn berffaith; roeddem ar yr un gromlin ddysgu am y botwm distewi/soniaru â phawb arall, ac roeddem mor ynysig â’r bobl roeddem yn ceisio’u cyrraedd. Ond wrth i effeithiau’r pandemig a chadw pellter cymdeithasol barhau i amlygu eu hun hyd y gellir rhagweld, mae gennym bellach sail ar gyfer arloesi yn y dyfodol i adeiladu arni.

Mae llawer o bethau i’w ceisio ac i’w dysgu o hyd yn ystod y 12-18 mis nesaf o HARP.  Rydym eisiau parhau i archwilio beth mae darparu ac effaith y celfyddydau ac iechyd yn ei olygu mewn gwirionedd, a dysgu sut y gallwn gyrraedd y lleoedd anoddaf i’w cyrraedd drwy fabwysiadu ethos o gydweithio, creadigrwydd a gwaith tîm. Rydym eisiau parhau i arloesi, a pharhau i gefnogi pobl.

Rydym ni’n barod!