Cyfnod newydd i Y Lab; bellach Prifysgol Caerdydd fydd yr sefydliad arweiniol

8 October 2021

Wrth i’n cyfnod o bartneriaeth gyda Nesta ddod i ben, Cyfarwyddwr Y Lab, James Lewis, sy’n myfyrio ar rai o’r uchafbwyntiau a’r hyn sy’n dod nesaf i labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Heddiw, mae Y Lab, labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn dechrau ar bennod newydd ac yn cael ei arwain bellach gan Brifysgol Caerdydd yn unig.

Ar ôl bod yn bartner sefydlu, bydd Nesta nawr yn camu i ffwrdd o’i rôl yn cyd-arwain Y Lab i ganolbwyntio ar gyflawni ei strategaeth newydd yng Nghymru drwy Nesta Cymru.

Rwyf i’n hynod o falch o’r gwaith rydym ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros y chwe blynedd ddiwethaf.

Byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos gyda Nesta ar lawer o’n rhaglenni cyfredol, gan gynnwys InfuseHARP a’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru a Thîm y Cipolygon Ymddygiadol ar Ymddygiadau COVID. Bydd y gwaith yn parhau ochr yn ochr â’n gwaith diweddaraf – Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae pwrpas Y Lab – cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i ymdrin â heriau cymdeithasol – yn bwysicach nag erioed. 

Ar ddechrau 2022, bydd Y Lab yn symud i Spark, Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Byddwn yn cydweithio gyda llawer o ganolfannau ymchwil eraill, gan gyfuno trylwyredd academaidd gyda gwaith arloesi ymarferol. Bydd hyn yn adeiladu ar ein prosiectau presennol, fel archwilio Dementia ac Amrywiaeth, a deall effaith grymuso cyfreithiol cymunedol yn Lesotho. 

Rydym ni’n dechrau ar y bennod newydd hon yng nghyd-destun pandemig COVID sy’n esblygu, Cynhadledd y CU ar Newid yn yr Hinsawdd (COP26) a Rhaglen Lywodraethu fanwl a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru.  Mae pwrpas Y Lab – cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i ymdrin â heriau cymdeithasol – yn bwysicach nag erioed. Bydd y defnydd cyfunol o ddulliau a meddylfryd arloesi gyda dulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn parhau’n flaenllaw yn ein dull gweithredu.

Am y tro, rydym ni’n llawn cyffro am y bennod nesaf o Y Lab ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda llawer ohonoch chi yn y dyfodol.